The essential journalist news source
Back
26.
November
2021.
Yr Eglwys Norwyaidd yn dathlu Gŵyl Goleuni a Chyfeillgarwch

26.11.2021

A group of people in white robesDescription automatically generated with medium confidence

Ddydd Sul 5 Rhagfyr bydd yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd yn agor am ddiwrnod yn llawn hwyl yr ŵyl i ddathlu Nadolig yn arddull Norwy.

Bydd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd yn mynychu'r digwyddiad sy'n dathlu'r cysylltiadau gefeillio rhwng Caerdydd a Vestland yn Norwy, ac yn cynnau'r goleuadau Nadolig yn swyddogol yn rhan o'r seremoni goleuo'r goeden. 

Hefyd yn bresennol bydd yr Arglwydd Faeres ochr yn ochr â Dr Tyra Oseng-Rees, Cadeirydd Cymdeithas Norwy-Cymru, Dr Martin Price, Cadeirydd Eglwys Norwyaidd Bae Caerdydd, yn ogystal â chynrychiolwyr o Lysgenhadaeth Norwy yn Llundain a Chyngor Vestland.

Bydd gwesteion eraill yn cynnwys myfyrwyr cyfnewid o Vestland a band Byddin yr Iachawdwriaeth.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Ar ôl ein digwyddiad rhithwir y Nadolig diwethaf, mae'n galonogol gwybod y bydd, unwaith eto, coeden Nadolig gyda goleuadau y tu allan i'r Eglwys Norwyaidd y gellir ei dathlu gyda theuluoedd a ffrindiau.

"Yn dilyn cynigion a gymeradwywyd gan y Cabinet yn ddiweddar y mis hwn, bydd hwn yn ddigwyddiad arbennig iawn ar gyferEglwys Norwyaidd Bae Caerdyddwrth iddi gymryd rheolaeth o'r Eglwys, gan ei diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Yn ystod y dydd, o 11 i 3pm, cymerwch ran yn y gweithdai i wneud addurniadau coed Nadolig calonnau papur traddodiadol Llychlynnaidd.  Mae tocynnau i'r gweithdai hyn i'w cael ar Eventbrite ac yn costio £5 i bawb dros 7 oed. Archebwch yn gynnar gan fod tocynnau'n gyfyngedig.  Gweler Manylion Eventbrite:  https://www.eventbrite.co.uk/e/christmas-decorations-workshop-tickets-205762941497?ref=eios

Drwy gydol y dydd, gallwch fwynhau bwyd Nadoligaidd yn y traddodiad Llychlynnaidd gyda bwyd Norwyaidd arbenigol yn cynnwys wafflau ffres, Lapskaus (cawl cig eidion) a gløgg (gwin cynnes) a siocled poeth, coffi a the. Bydd y rhain ar gael o'r Caffi yn ystod y dydd. 

Am 4.15pm, wrth iddi nosi, mae croeso i bawb i'r orymdaith lusernau a'r seremoni goleuo'r goeden a fydd y tu allan o flaen yr eglwys.

Bydd cyfarchion y Nadolig yn cael eu cyfnewid rhwng Vestland a Chaerdydd gyda'r Eglwys Norwyaidd wedi'i goleuo yn gefndir.

Dywedodd Dr Tyra Oseng-Rees, Cadeirydd Cymdeithas Norwy-Cymru:

Mae tymor yr ŵyl yn ôl, ac rydym wrth ein boddau i fod yn dathlu Gŵyl Goleuni a Chyfeillgarwch eleni ac i allu rhannu ychydig o'r Nadolig yn arddull Norwy gyda'r bobl yng Nghaerdydd. Mae'r diwrnod Nadoligaidd hwn yn ymwneud â gobaith ar gyfer y dyfodol ac mae'n wych croesawu'r Norwyaid sy'n teithio o Vestland i ymuno â ni yn y digwyddiad hwn.

Ar ôl yr areithiau, bydd Siôn Corn yn derbyn 'Llythyrau at Siôn Corn' ac yn rhoi bagiau pethau da i'r plant. Bydd y digwyddiad yn dod i ben am 6pm.

Mae rhagor o wybodaeth am Gymdeithas Norwy-Cymru ar gael yma:  https://www.welshnorwegian.org