The essential journalist news source
Back
26.
November
2021.
Cyngor Caerdydd yn pleidleisio i ddatgan argyfwng natur ledled y ddinas

26.11.2021

Yng nghyfarfod Cyngor Llawn Caerdydd neithiwr, cafodd pleidleisiau eu bwrw a arweiniodd at ddatganiad o argyfwng natur yn y brifddinas.

Cyflwynwyd y datganiad brys mewn cynnig a gyflwynwyd gan grŵp Llafur y Cyngor, gyda dau ddiwygiad ar wahân gan grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol a'r grŵp Ceidwadol.

Daw ar ôl penderfyniad y Cyngor i ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019, a'r ymrwymiad carbon niwtral cyhoeddus a wnaed ym mis Hydref eleni, a nodir yn yStrategaeth Un Blaned a gymeradwywyd gan y Cabinet.

Wrth siarad yn ystod y cyfarfod neithiwr, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:  "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor wedi cytuno'r cynnig hwn. Rydym oll yn ymwybodol iawn o'r argyfwng hinsawdd, mae'r un mor bwysig ein bod ni gyd yn cydnabod natur a'r argyfwng bioamrywiaeth yr ydym i gyd yn eu hwynebu yn awr hefyd.

"Roedd llawer o'r ddadl heno yn canolbwyntio ar ddatblygiadau cyfredol, gan gynnwys ysbyty canser newydd Felindre ym Meysydd y Gogledd a'r rhaglenni adeiladu tai y mae mawr eu hangen ar gyrion y ddinas.

"Y gwir yw bod yn rhaid i ni ddysgu sut i dyfu ein dinas, mynd i'r afael â'r argyfwng tai, i ddarparu'r ysbytai, yr ysgolion a'r meddygfeydd, bydd angen i bob un ohonom greu Caerdydd ffyniannus, a hynny i gyd wrth ddod o hyd i ffordd o ofalu am natur a bioamrywiaeth ac wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

"Mae'r cyngor hwn wedi ymrwymo i'r daith honno fel yr amlinellir yn ein Strategaeth Un Blaned.  Rydym yn gweithio i sicrhau bod Caerdydd yn ddi-garbon erbyn 2030 ac rydym yn cyflwyno polisïau a fydd yn helpu i achub natur a bioamrywiaeth o'n cwmpas. 

"Wrth gwrs, nid oes gennym bwerau sy'n caniatáu i ni roi terfyn ar rai datblygiadau ar unwaith, hyd yn oed os oeddem am wneud hynny.  Rydym wedi'n rhwymo'n gyfreithiol gan y cyfreithiau cynllunio presennol y mae'n rhaid i'r pwyllgor cynllunio gadw atynt. 

"Fodd bynnag, rydym eisoes wedi cyflawni ac rydym yn parhau i ddatblygu canllawiau cynllunio atodol sy'n helpu i lunio ein dinas er gwell, gan arwain datblygwyr sydd am ddod i Gaerdydd ac sydd am chwarae rhan hanfodol yn nhwf ein dinas, gan ddod â swyddi a thai y mae mawr eu hangen. 

"Bydd datgan Argyfwng Natur a Bio-Amrywiaeth yn helpu i lunio ein polisïau wrth i ni symud ymlaen, gan egluro gweledigaeth y ddinas yr ydym am fod - ac y gallwn fod."

Canlyniad y bleidlais ar y cynnig Llafur oedd 67 o blaid; 0 yn erbyn a 3 yn ymatal. Collodd cynnig y Democratiaid Rhyddfrydol gyda 32 o blaid; 39 yn erbyn a 0 yn ymatal, a chanlyniad cynnig y Ceidwadwyr oedd 32 o blaid, 39 yn erbyn a 0 yn ymatal.

Wrth bleidleisio i gytuno cynnig Llafur a diwygiad y Democratiaid Rhyddfrydol, gwnaeth y Cyngor y penderfyniadua canlynol:

 

  • Datgan Argyfwng Natur yng Nghaerdydd.
  • Gosod bioamrywiaeth gyda'r un amlygrwydd i newid yn yr hinsawdd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau yng Nghyngor Caerdydd.
  • Cyflwyno sylwadau yn ôl yr angen i Lywodraethau Cymru a'r DU i ddarparu'r pwerau, yr adnoddau a'r cymorth technegol angenrheidiol i awdurdodau lleol yng Nghymru i'w helpu i gyflawni'r nod hwn yn llwyddiannus.
  • Parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y sir, y rhanbarth ac yn genedlaethol i ddatblygu a gweithredu dulliau arfer gorau a all ddiogelu bioamrywiaeth Cymru. Gan gynnwys ceisio dull gweithredu ar y cyd ag awdurdodau cyfagos.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid lleol gan gynnwys Cynghorwyr, trigolion, pobl ifanc, busnesau a phartïon perthnasol eraill, i ddatblygu strategaeth sy'n cyd-fynd ag Un Blaned a Choed Caerdydd gyda tharged o sero net o ran colled bioamrywiaeth. Bydd hyn hefyd yn archwilio ffyrdd o fanteisio i'r eithaf ar fanteision lleol y camau gweithredu hyn mewn sectorau eraill fel cyflogaeth, iechyd, amaethyddiaeth, trafnidiaeth a'r economi.
  • Ar ôl datgan argyfwng natur, ac argyfwng hinsawdd yn flaenorol, sicrhau bod holl benderfyniadau'r Cyngor a'r Cabinet yn y dyfodol yn cael eu llywio gan asesiad blaenorol o'u heffaith ar yr hinsawdd a bioamrywiaeth.

 

Ynghyd â'r ymrwymiadau a wnaed yn strategaeth Caerdydd Un Blaned, fis diwethaf, cynhaliodd yr awdurdod lleol  ymgynghoriad cyhoeddus ar Goed Caerdydd,  prosiect sy'n ceisio plannu miloedd o goed i greu coedwig drefol ar draws y ddinas, ar ôl i bron i £1m o gyllid gael ei sicrhau gan Lywodraeth Cymru a chronfa goed argyfwng Coed Cadw (Yr Ymddiriedolaeth Coetiroedd yng Nghymru).

Cafodd cynnig Llafur neithiwr ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorwyr Bob Derbyshire a Jane Henshaw, yn y drefn honno. Cynigiwyd diwygiad y Democratiaid Rhyddfrydol gan y Cynghorwyr Rodney Berman ac Ashley Wood, a diwygiad y Ceidwadwyr gan y Cynghorwyr John Lancaster a David Walker.

Mae copi llawn o'r cynnig, a'r ddau ddiwygiad ar gael i'w lawrlwytho  yma,  a gellir gweld cofnod o gyfarfod llawn y cyngor neithiwr  yma.