The essential journalist news source
Back
19.
November
2021.
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 19 Tachwedd

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Caerdydd yn gosod cartrefi, gwyrdd, fforddiadwy sydd y cyntaf o'u math; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; cymeradwyo cynlluniau i sicrhau dyfodol yr Hen Lyfrgell; a Diweddariad Eglwys Norwyaidd.

 

Caerdydd yn Gosod Cartrefi, Gwyrdd, Fforddiadwy Sydd Y Cyntaf O'u Math

Mae Wates Residential a Chyngor Caerdydd yn gosod cartrefi modiwlar, cynaliadwy cyntaf Caerdydd, ar safle tir llwyd ar Crofts Street, Plasnewydd, wrth i'r Cyngor gynyddu ei ddarpariaeth o dai fforddiadwy i drigolion lleol ar restrau aros tai a'r rhai mwyaf anghenus.

Bydd y naw eiddo dwy ystafell wely, sydd wedi'u hadeiladu oddi ar y safle gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern (DAM), yn cael eu gostwng i'w safle terfynol ar y safle gyda'r holl sylfeini a thirlunio caled a meddal allanol wedi'i gwblhau.

Wedi'i gyflwyno trwy Wates Residential ac INNO, menter ar y cyd rhwng penseiri, Rogers Stirk Harbour + Partners ac AECOM, dyma'r tro cyntaf i'r dull hwn o adeiladu oddi ar y safle gael ei ddefnyddio gan Gyngor Caerdydd i ddarparu cartrefi parhaol i deuluoedd sy'n byw yn y ddinas. Yn ogystal â galluogi'r unedau i gael eu hadeiladu a'u gosod yn eithriadol o gyflym, mae'r dull hwn hefyd yn defnyddio'r deunyddiau technoleg ac adeiladu diweddaraf i greu adeiladau carbon sero net sydd 90% yn fwy effeithlon o ran ynni na chartrefi safonol a adeiladwyd i'r Rheoliadau Adeiladu presennol. Byddant yn hynod aerglos, sy'n golygu eu bod wedi'u hinswleiddio'n dda a bydd trigolion yn gweld arbedion enfawr ar eu biliau.

I gydnabod eu manylion amgylcheddol, mae'r cartrefi wedi cyflawni gradd A mewn sgoriau Effeithlonrwydd Ynni ac Effaith Amgylcheddol (CO2). Bydd gan y tai baneli solar ar eu toeau a system Adfer Gwres MEV gydag elfennau gwresogi trydan, fel na fydd yn ofynnol iddynt gysylltu â'r gwasanaeth nwy prif gyflenwad a byddant yn gollwng llawer llai o CO2 na chartref safonol.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne a oedd yn bresennol wrth i'r unedau gael eu gostwng heddiw: "Mae gosod yr unedau modiwlaidd yn Crofts Street yn ddiwrnod cyffrous iawn i ni gan ein bod wedi bod yn aros yn eiddgar am eu cyrraedd. Mae cynyddu argaeledd tai fforddiadwy i bobl yng Nghaerdydd yn flaenoriaeth uchel i'r Cyngor, ond rydym hefyd am sicrhau bod y cartrefi newydd yr ydym yn eu darparu yn eiddo o ansawdd da sydd mor 'wyrdd' ag y gallant fod er budd ein tenantiaid trwy leihau tlodi tanwydd ac er budd ein poblogaeth ehangach, oherwydd mai dyma'r peth cywir, cynaliadwy i'w wneud.

"Ar draws ein rhaglen datblygu tai, rydym yn gweithio ar fynd mor agos at ddim carbon ag y gallwn gyda dulliau a thechnolegau adeiladu arloesol sy'n rhagori ar y rheoliadau adeiladu presennol, yn lleihau'r effaith ar yr amgylcheddol ac yn lleihau costau rhedeg parhaus i denantiaid.

"Rwy'n falch iawn y bydd y tenantiaid newydd cyntaf yn y datblygiad cyn y Nadolig a gallant ddechrau mwynhau byw yn eu cartrefi byw newydd yng Nghaerdydd mor fuan."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28042.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (08 Tachwedd – 14 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

18 Tachwedd 2021, 09:00

 

Achosion: 2,081

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 567.2 (Cymru: 512.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 9,748

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,656.8

Cyfran bositif: 21.3% (Cymru: 19.2% cyfran bositif)

 

Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (12/11/21 i 18/11/21)

Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 578

  • Disgyblion a myfyrwyr = 508
  • Staff, gan gynnwys staff addysgu = 70

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – 18 Tachwedd

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  841,898  (Dos 1: 386,503 Dos 2:  348,187 DOS 3: 5,731 Dosau atgyfnertha: 101,436)

 

Data Cohort – Diweddarwyd ddiwethaf 01 Tachwedd

 

·         80 a throsodd: 20,283 / 94.6% (Dos 1) 20,107 / 93.8% (Dos 2)

·         75-79: 14,997 / 96.4% (Dos 1) 14,838 / 95.4% (Dos 2)

·         70-74: 21,410 / 95.8% (Dos 1) 21,277 / 95.2% (Dos 2)

·         65-69: 21,978 / 94.3% (Dos 1) 21,732 / 93.3% (Dos 2)

·         60-64: 26,081 / 92.4% (Dos 1) 25,756 / 91.3% (Dos 2)

·         55-59: 29,440 / 90.4% (Dos 1) 28,942 / 88.8% (Dos 2)

·         50-54: 29,117 / 88.1% (Dos 1) 28,484 / 86.2% (Dos 2)

·         40-49: 55,646 / 82% (Dos 1) 53,799 / 79.3% (Dos 2)

·         30-39: 61,330 / 76.1% (Dos 1) 57,569 / 71.5% (Dos 2)

·         18-29: 81,552 / 77.3% (Dos 1) 73,189 / 69.5% (Dos 2)

·         16-17: 4,057 / 74.2% (Dos 1) 324 / 5.9% (Dos 2)

·         12-15: 12,829 / 48.2% (Dos 1)

 

·         Preswylwyr cartrefi gofal: 2,119 / 98.2% (Dos 1) 2,094 / 97.1% (Dos 2)

·         Yn glinigol agored i niwed: 11,252 / 94.5% (Dos 1) 11,055 / 92.8% (Dos 2)

·         Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,948 / 90.3% (Dos 1) 44,408 / 87.2% (Dos 2)

·         Cyflyrau Iechyd Sylfaenol (12-15): 573 / 58.2% (Dos 1)

 

Cymeradwyo cynlluniau i sicrhau dyfodol yr Hen Lyfrgell

Mae cynlluniau Cyngor Caerdydd i sicrhau dyfodol yr Hen Lyfrgell wedi cymryd cam ymlaen yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet.

Mae adroddiad ar y cynigion wedi'i gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Caerdydd, lle cytunwyd i drosglwyddo defnyddio'r adeilad drwy brydles hir - a fydd hefyd yn talu am y costau rhedeg a chynnal a chadw llawn - i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Cabinet wedi cymeradwyo cynlluniau'r Coleg sy'n cynnwys cyflwyno cyfres o fannau cerddoriaeth a pherfformio yn yr ystafelloedd presennol a datblygu’r gwaith presennol yn yr Hen Lyfrgell o ran y Gymraeg, i hyrwyddo a diogelu'r iaith.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28028.html

 

Diweddariad Eglwys Norwyaidd

Mae cynlluniau Cyngor Caerdydd i sicrhau dyfodol yr Eglwys Norwyaidd wedi cymryd cam ymlaen yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet.

Cafodd adroddiad am y cynigion ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Caerdydd, lle cytunwyd i drosglwyddo'r Eglwys Norwyaidd, gan gynnwys y brydles bresennol, i gorff elusennol newydd dan arweiniad Cymdeithas Norwyaidd Cymru.

Bydd y dull yn golygu bod y corff elusennol newydd yn buddsoddi yn yr adeilad ac yn cymryd rheolaeth dros redeg yr Eglwys o ddydd i ddydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28033.html