The essential journalist news source
Back
19.
November
2021.
Caerdydd Yn Gosod Cartrefi Gwyrdd, Fforddiadwy Sydd Y Cyntaf O'u Math

19.11.21

  • Wates Residential a Chyngor Caerdydd yn gostwng naw cartref modiwlar ar y safle yn Crofts Street, Plasnewydd
  • Y tro cyntaf i'r dull hwn o adeiladu oddi ar y safle gael ei ddefnyddio ar gyfer cartrefi teuluol parhaol yn y ddinas
  • Cartrefi i fod ar gael i breswylwyr ar restr aros tai'r Cyngor mewn dim mwy na phum wythnos

Mae Wates Residential a Chyngor Caerdydd yn gosod cartrefi modiwlar, cynaliadwy cyntaf Caerdydd, ar safle tir llwyd ar Crofts Street, Plasnewydd, wrth i'r Cyngor gynyddu ei ddarpariaeth o dai fforddiadwy i drigolion lleol ar restrau aros tai a'r rhai mwyaf anghenus.

Bydd y naw eiddo dwy ystafell wely, sydd wedi'u hadeiladu oddi ar y safle gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern (DAM), yn cael eu gostwng i'w safle terfynol ar y safle gyda'r holl sylfeini a thirlunio caled a meddal allanol wedi'i gwblhau.

Wedi'i gyflwyno trwy Wates Residential ac INNO, menter ar y cyd rhwng penseiri, Rogers Stirk Harbour + Partners ac AECOM, dyma'r tro cyntaf i'r dull hwn o adeiladu oddi ar y safle gael ei ddefnyddio gan Gyngor Caerdydd i ddarparu cartrefi parhaol i deuluoedd sy'n byw yn y ddinas. Yn ogystal â galluogi'r unedau i gael eu hadeiladu a'u gosod yn eithriadol o gyflym, mae'r dull hwn hefyd yn defnyddio'r deunyddiau technoleg ac adeiladu diweddaraf i greu adeiladau carbon sero net sydd 90% yn fwy effeithlon o ran ynni na chartrefi safonol a adeiladwyd i'r Rheoliadau Adeiladu presennol. Byddant yn hynod aerglos, sy'n golygu eu bod wedi'u hinswleiddio'n dda a bydd trigolion yn gweld arbedion enfawr ar eu biliau.

I gydnabod eu manylion amgylcheddol, mae'r cartrefi wedi cyflawni gradd A mewn sgoriau Effeithlonrwydd Ynni ac Effaith Amgylcheddol (CO2). Bydd gan y tai baneli solar ar eu toeau a system Adfer Gwres MEV gydag elfennau gwresogi trydan, fel na fydd yn ofynnol iddynt gysylltu â'r gwasanaeth nwy prif gyflenwad a byddant yn gollwng llawer llai o CO2 na chartref safonol.

Mae adeiladu oddi ar y safle hefyd yn creu llai o aflonyddwch i breswylwyr, gan fod y rhaglen adeiladu gyffredinol a'r gweithgarwch ar y safle yn lleihau'n fawr, gyda'r unedau'n cael eu cynllunio i'r un arddull â'r tai teras yn yr ardal.

Unwaith y bydd yr unedau wedi'u gosod, bydd yr holl wasanaethau'n cael eu cysylltu, ac yna'r gwaith gosod trydan a phibellau, gyda'r Cyngor yn sicrhau bod y cartrefi ar gael i denantiaid ar ei restr aros tai bresennol mewn dim mwy na phum wythnos.

Dywedodd Edward Rees, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Wates Residential:

"Mae'n anhygoel gweld y llain segur hon o dir yn cael ei thrawsnewid yn dai fforddiadwy. Mae'r cymunedau rydym yn gweithredu ynddynt yn bwysig i ni a'n nod yw dylunio ac adeiladu cartrefi sy'n rhoi pobl leol yn gyntaf. A thrwy ddefnyddio dulliau adeiladu modern arloesol, rydym yn gallu darparu'r unedau hyn o fewn pum wythnos o nawr, ac rydym hefyd yn creu cartrefi a fydd yn cefnogi Caerdydd a'i thrigolion i leihau eu defnydd o ynni a chyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy.

"Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar wastraff a charbon o'n gweithrediadau erbyn 2025, ymhell cyn targedau amgylcheddol y Llywodraeth ei hun, ac rydym yn cydweithio â chwsmeriaid, y gadwyn gyflenwi a phartneriaid menter ar y cyd i ddod o hyd i ffyrdd gwell a mwy arloesol o leihau gwastraff, lleihau'r defnydd o ynni a gwella'r amgylchedd naturiol."

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne a oedd yn bresennol wrth i'r unedau gael eu gostwng heddiw: 

"Mae gosod yr unedau modiwlaidd yn Crofts Street yn ddiwrnod cyffrous iawn i ni gan ein bod wedi bod yn aros yn eiddgar am eu cyrraedd. Mae cynyddu argaeledd tai fforddiadwy i bobl yng Nghaerdydd yn flaenoriaeth uchel i'r Cyngor, ond rydym hefyd am sicrhau bod y cartrefi newydd yr ydym yn eu darparu yn eiddo o ansawdd da sydd mor 'wyrdd' ag y gallant fod er budd ein tenantiaid trwy leihau tlodi tanwydd ac er budd ein poblogaeth ehangach, oherwydd mai dyma'r peth cywir, cynaliadwy i'w wneud.

"Ar draws ein rhaglen datblygu tai, rydym yn gweithio ar fynd mor agos at ddim carbon ag y gallwn gyda dulliau a thechnolegau adeiladu arloesol sy'n rhagori ar y rheoliadau adeiladu presennol, yn lleihau'r effaith ar yr amgylcheddol ac yn lleihau costau rhedeg parhaus i denantiaid.

"Rwy'n falch iawn y bydd y tenantiaid newydd cyntaf yn y datblygiad cyn y Nadolig a gallant ddechrau mwynhau byw yn eu cartrefi byw newydd yng Nghaerdydd mor fuan."

 

Mae'r cartrefi'n rhan o bartneriaethCartrefi Caerdydd Wates Residential â Chyngor Caerdydd i ddarparu 1,500 o gartrefi newydd ar draws 40 o safleoedd yn y ddinas dros gyfnod o 10 mlynedd, gan gynnwys cartrefi fforddiadwy i'w rhentu a'u gwerthu, llety â chymorth a chartrefi mwy hygyrch ac addasadwy i bobl hŷn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:https://cardiffliving.wales/cy/