The essential journalist news source
Back
15.
November
2021.
Ymchwiliadau tir yn dechrau yn Argae Parc y Rhath

15.11.2021

A picture containing tree, outdoor, sky, groundDescription automatically generated

Rydym wedi dechrau'r gwaith o ymchwilio i dir Argae Parc y Rhath i sicrhau y gellir mwynhau un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd yn ddiogel nawr ac yn y dyfodol.

Yn dilyn archwiliad rheolaidd (dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975), canfuwyd na fyddai'r gorlifan, sef y rhaeadr ger y caffi, yn ddigon mawr i wrthsefyll llifogydd eithafol a allai ddigwydd, yn ddamcaniaethol, ac felly mae angen gwelliannau.

Mae Cyngor Caerdydd wedi penodi Arup, ymgynghorwyr peirianneg blaenllaw, i gynnal astudiaeth i nodi'r opsiynau gorau i sicrhau effeithiolrwydd yr argae yn y dyfodol. Derbyniwyd Caniatâd Adeilad Rhestredig yn ddiweddar ar gyfer y gwaith o ymchwilio i dir yr argae.

Bydd yr ymchwiliad tir yn cael ei gynnal dros y ddwy i dair wythnos nesaf ac oherwydd hyn bydd angen cau rhai rhannau o'r parc er mwyn gwneud y gwaith yn ddiogel. Bydd y promenâd ar draws yr argae ar gau yn ystod y cyfnod hwn, ond bydd modd cael mynediad o'r ochr arall i'r parc o'r gogledd a'r de o'r promenâd.

Bydd rhannau eraill o'r parc ar gau am gyfnodau byrrach, gan gynnwys yr ardal chwarae a fydd ar gau am ddeuddydd, dydd Mawrth 16 i ddydd Iau 18Tachwedd, tra bydd y gwaith yn cael ei gwblhau.

Bydd y gwaith ymchwilio i'r tir yn cynnwys tyllau o wahanol feintiau a siapiau yn yr argae ac ar hyd y gorlifan fel y gellir astudio cyfansoddiad y ddaear.

Caiff rhai tyllau eu cloddio â llaw ac eraill gan beiriannau arbenigol. Ar ddiwedd y gwaith, bydd y tyllau'n cael eu lefelu a bydd yr arwyneb yn cael ei wneud i edrych fel y mae ar hyn o bryd.

Meddai'r Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd,"Mae'r angen i gau rhannau o'r parc am gyfnod byr yn hanfodol er mwyn i gam cyntaf yr ymchwiliadau fynd rhagddo. Bydd y prosiect cyfan yn sicrhau effeithiolrwydd yr argae yn y dyfodol fel y gellir parhau i fwynhau'r parc yn ddiogel wrth i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ddod yn fwyfwy amlwg.

"Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r gymuned leol i sicrhau bod pawb yn deall y gwaith dan sylw.  Wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen, cynhelir mwy o ddigwyddiadau gwybodaeth cymunedol fel bod trigolion, busnesau a rhanddeiliaid eraill yn parhau i gael eu hysbysu o'r newyddion diweddaraf am y prosiect."

Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar gael ar wefan y prosiect -   https://www.outdoorcardiff.com/cy/parciau/parc-y-rhath/prosiect-argae-parc-y-rhath/.

Mae arwyddion wedi'u lleoli ym mhob rhan o'r parc yn rhoi gwybod am y gwaith tir gyda manylion cyswllt ar gyfer y prosiect. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am y prosiect neu os hoffech dderbyn diweddariadau rheolaidd amdano, cysylltwch â thîm y prosiect.

Ffôn:  02920 130061

E-bost:roathparkdam@grasshopper-comms.co.uk