The essential journalist news source
Back
15.
November
2021.
Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu: Sicrhau bod pobl ifanc yng Nghaerdydd yn ddiogel, yn hapus ac yn ffynnu

15/11/21

Mae dogfen sy'n nodi amcanion clir i wella bywydau plant a phobl ifanc, wrth gyflwyno cyfleoedd gwirioneddol i'w grymuso i fwynhau bywydau gwell yng Nghaerdydd, wedi'i rhyddhau.

Mae 'Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu'wedi'i datblygu ar y cyd rhwng Gwasanaethau Addysg, Plant ac Ieuenctid Cyngor Caerdydd. Mae'n amlinellu dull o ddiogelu pobl ifanc yn ystod y glasoed a'r cyfnod pontio o blentyn i oedolyn, gan helpu i hyrwyddo gwydnwch, lleihau risgiau a mynd i'r afael â niwed fel y gall pobl ifanc fyw'n ddiogel yn eu teuluoedd a'u cymunedau.

Drwy ymgynghori â phobl ifanc 14-18 oed, amrywiaeth o bartneriaid a gweithwyr proffesiynol a Grŵp Creawdwyr Ifanc, rhan o Dîm Digidol Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, gan ganolbwyntio ar chwe nod:

  • Bod pobl ifanc yn teimlo'n ddiogel
  • Bod gan bobl ifanc iechyd (corfforol a meddyliol) a lles da
  • Bod pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu haddysgu am risg, yr arwyddion i'w hadnabod a sut i'w datrys
  • Bod gan yr holl bobl ifanc fynediad at addysg a gweithgareddau a fydd yn eu helpu i baratoi at eu dyfodol
  • Bod cartref sefydlog gan bob person ifanc a chefnogaeth yn eu cymuned
  • Bod gan bobl ifanc brofiad cadarnhaol o'r cyfnod pontio, ac yn derbyn arweiniad i allu goresgyn eu brwydrau a chymorth i addasu i newidiadau.

Y weledigaeth yw y bydd pobl ifanc sy'n byw yng Nghaerdydd yn teimlo'n ddiogel ac y byddant yn ddiogel drwy ddull diogelu cyd-destunol ac mae'r papur yn pwysleisio pwysigrwydd y cyd-destun y mae pobl ifanc yn bodoli ynddo, boed hynny'n gymdogaeth, yn ysgol, ar-lein neu hyd yn oed eu cam datblygu.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae bron i 22,000 o bobl ifanc yng Nghaerdydd rhwng 11 a 18 oed ac er y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn ffynnu ac yn cyflawni gyda chefnogaeth eu teuluoedd, ysgolion a chymunedau ehangach, bydd angen cymorth ychwanegol neu arbenigol ar rai.

"Dyna pam y mae'n hanfodol bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i brofiadau a brwydrau gwirioneddol pobl ifanc. Fe ddwedon nhw wrthym ni beth fyddai'n gwneud iddynt deimlo'n ddiogel yn y ddinas, a all fynd ymhell y tu hwnt i'r hyn a allai gael ei ystyried fel arfer yn 'ddiogelu'.

Gan fyfyrio ar y profiad, dywedodd Samar: "Mae gweithio ar ddatblygu Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu wedi rhoi'r cyfle i mi gyfarfod pobl newydd a thrafod y problemau a'r pryderon sydd gan bobl ifanc sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae clywed barn pobl eraill a deall beth allai pobl eraill fod wedi'i wynebu wedi gwneud i mi fyfyrio ar ddiogelwch pobl ifanc a sut y gellir ei wella."

Yr egwyddorion a'r dulliau gweithredu allweddol a nodir yn Llais Pobl Ifanc ar Ddiogeluyn seiliedig ar weledigaeth y Cyngor Caerdydd Sy'n Dda i Blant sy'n rhoi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd penderfyniadau'r ddinas.

Fe'i cefnogir hefyd gan Addewid Caerdydd, menter gan y Cyngor sy'n dwyn ynghyd y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, diwydiant a darparwyr addysg, i godi ymwybyddiaeth o ehangder y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn helpu i ddatblygu sgiliau plant a phobl ifanc i lunio twf swyddi yn y dyfodol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Mae cyfraniadau pobl ifanc wrth wraidd y gwaith ac mae ganddynt berchnogaeth dros y gwaith hwn, gan helpu i ymgorffori ymhellach ymrwymiad Caerdydd i ddod yn ddinas sy'n dda i blant lle mae pobl ifanc yn helpu i lunio ein polisïau a dyfodol y ddinas."

Cydnabu Pwyllgor y DU ar gyfer UNICEF (UNICEF UK) y rôl arloesol y mae Cyngor Caerdydd wedi'i chwarae fel un o'r rhai cyntaf i ymuno â'i raglen Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Blant a bod cynnydd da wedi'i wneud o ran ymgorffori hawliau plant yn strategaethau'r Cyngor a'r ffordd y caiff ein pobl ifanc eu cefnogi a'u meithrin.

O ganlyniad, mae UNICEF UK wedi argymell bod Caerdydd yn gwneud cais am gael cydnabyddiaeth fel Dinas sy'n Dda i Blant yn y Flwyddyn Newydd.

I ddarllen Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu, ewch i:www.caerdydd.gov.uk/diogelupoblifanc

Yn ogystal â chyfrannu at ddatblygu'r nodau, mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, Grŵp Creawdwyr Ifanc hefyd wedi rhannu'r cyfrifoldeb am ddylunio'r dogfennau a chreu cymeriadau wedi'u hanimeiddio i'w defnyddio i hyrwyddo'r ddogfen. Gallwch weld yr animeiddiadau sy'n addas i blant yma:https://youtu.be/SBbUjDqNbC4