Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru; datgelu cynlluniau newydd i sicrhau dyfodol yr Hen Lyfrgell; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a yr Eglwys Norwyaidd, y wybodaeth ddiweddaraf am achub adeilad treftadaeth Caerdydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru
Cynhelir arfer Sul y cofio cenedlaethol Cymru, sy'n cael ei gynnal ar y cyd gan Gyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol ddydd Sul 14 Tachwedd 2021.
Bydd carfannau o'r Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Bysgota a'r Cadetiaid yn gorymdeithio o Neuadd y Ddinas ac ar hyd Rhodfa'r Brenin Edward VII at Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd lle byddant yn cyrraedd erbyn 10:40am ac yn ymuno o amgylch y gofeb.
Bydd colofnau o gyn-filwyr yn ymuno â nhw, wedi'u trefnu gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a cholofnau o sifiliaid yn cynrychioli sefydliadau sy'n gysylltiedig â gwrthdaro yn y presennol a'r gorffennol.
Bydd detholiad o gerddoriaeth yn cael ei chwarae gan Fand Byddin Yr Iachawdwriaeth Treganna o 10:30am tan ychydig cyn 11am, pan fydd y gwasanaeth yn dechrau gyda chais a geiriau o ysgrifau a roddwyd gan Gaplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd, y Parchedig Ganon Stewart Lisk. Côr Gwragedd Milwrol Caerdydd a Chôr Meibion y Barri fydd yn arwain yr emynau yn ystod y gwasanaeth.
Am 10:59am bydd biwglwr o Fand Catrawd Brenhinol Cymru a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn seinio'r 'Caniad Olaf' yn dilyn am 11am gan gwn o'r 104 o'r Gatrawd Frenhinol Gymreig, Casnewydd a fydd yn tanio i nodi dechrau'r ddwy funud o dawelwch a fydd yn cael ei chadw. Bydd ei derfyn yn cael ei farcio unwaith eto gan danio'r gwn a chwarae 'Reveille' gan y biwglwr.
Mae trefn y seremoni, a ddilynir ar y diwrnod, ar gael i'w lawrlwytho yma:
https://app.prmax.co.uk/collateral/186613.pdf
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27958.html
Datgelu cynlluniau newydd i sicrhau dyfodol yr Hen Lyfrgell
Mae diweddariad argamau Cyngor Caerdydd i sicrhau dyfodol yr Hen Lyfrgellwedi'i ddatgelu.
Mae adroddiad, a gyflwynir i Gabinet yr awdurdod lleol Ddydd Iau 18 Tachwedd, yn gofyn am awdurdod i drosglwyddodefnydd o'r adeilad drwy brydles hir - a fydd hefyd yn talu am y costau rhedeg a chynnal a chadw yn llawn -i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Gofynnir i'r Cabinet ystyried cynlluniau'r Coleg sy'n cynnwys cyflwyno cyfres o fannau cerddoriaeth a pherfformio yn yr ystafelloedd presennol adatblygu'r gwaith presennol yn yr Hen Lyfrgell o ran y Gymraeg, i hyrwyddo a diogelu'r iaith.
Mae cynlluniau llawn Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru'n cynnwys:
- cynnal a dyfnhau yr amcanion presennol yn yr Hen Lyfrgell i hyrwyddo a diogelu'r Gymraeg.
- dychwelyd yr Hen Lyfrgell i'w swyddogaeth addysgol wreiddiol ar gyfer myfyrwyr a chyfranogwyr y Coleg.
- adfer yr adeilad rhestredig i arddangos ei nodweddion gwreiddiol, gan gadw cynllun gwreiddiol yr adeilad.
- cyflwyno cyfres o fannau perfformio, arddangos ac ymarfer i'r ystafelloedd presennol.
- darparu mynediad cyhoeddus i "ystafell fyw yn y ddinas" ar y llawr gwaelod, gyda chaffi/man gweithio creadigol.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r rhain yn gynlluniau newydd cyffrous iawn ar gyfer dyfodol yr Hen Lyfrgell, a fydd yn parhau i fod yn ystyriol o hanes a thraddodiad yr adeilad."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27965.html
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (01 Tachwedd - 07 Tachwedd)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
11 Tachwedd 2021, 09:00
Achosion: 1,971
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 537.2 (Cymru: 477.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 9,161
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,496.8
Cyfran bositif: 21.5% (Cymru: 19.1% cyfran bositif)
Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (29/10/21 i 04/11/21)
Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 539
- Disgyblion a myfyrwyr = 486
- Staff, gan gynnwys staff addysgu = 53
Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 57,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 05 Tachwedd
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 830,094 (Dos 1: 394,849 Dos 2: 359,466 DOS 3: 4,191 Dosau atgyfnertha: 71,516)
Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 26 Hydref
- 80 a throsodd: 20,321 / 94.6% (Dos 1) 20,133 / 93.8% (Dos 2)
- 75-79: 14,997 / 96.4% (Dos 1) 14,838 / 95.4% (Dos 2)
- 70-74: 21,410 / 95.8% (Dos 1) 21,277 / 95.2% (Dos 2)
- 65-69: 21,978 / 94.3% (Dos 1) 21,732 / 93.3% (Dos 2)
- 60-64: 26,081 / 92.4% (Dos 1) 25,756 / 91.3% (Dos 2)
- 55-59: 29,440 / 90.4% (Dos 1) 28,942 / 88.8% (Dos 2)
- 50-54: 29,117 / 88.1% (Dos 1) 28,484 / 86.2% (Dos 2)
- 40-49: 55,646 / 82% (Dos 1) 53,799 / 79.3% (Dos 2)
- 30-39: 61,330 / 76.1% (Dos 1) 57,569 / 71.5% (Dos 2)
- 18-29: 81,552 / 77.3% (Dos 1) 73,189 / 69.5% (Dos 2)
- 16-17: 4,057 / 74.2% (Dos 1) 324 / 5.9% (Dos 2)
- 12-15: 12,829 / 48.2% (Dos 1)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 2,119 / 98.2% (Dos 1) 2,094 / 97.1% (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 11,252 / 94.5% (Dos 1) 11,055 / 92.8% (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,948 / 90.3% (Dos 1) 44,408 / 87.2% (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol (12-15): 573 / 58.2% (Dos 1)
Yr Eglwys Norwyaidd: Y wybodaeth ddiweddaraf am achub adeilad treftadaeth Caerdydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Cyngor Caerdydd wrth sicrhau dyfodol yr Eglwys Norwyaidd wedi'i datgelu.
Bydd adroddiad, a fydd yn cael ei gyflwyno i Gabinet yr awdurdod lleol ddydd Iau 18 Tachwedd, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion i drosglwyddo'r Eglwys Norwyaidd, gan gynnwys y brydles bresennol, i gorff elusennol newydd dan arweiniad Cymdeithas Norwyaidd Cymru.
Bydd y dull arfaethedig yn golygu bod y corff elusennol newydd yn buddsoddi yn yr adeilad ac yn cymryd rheolaeth dros redeg yr Eglwys o ddydd i ddydd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Yr Eglwys Norwyaidd yw un o'r adeiladau mwyaf eiconig ar lannau Bae Caerdydd ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o'i gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Darllenwch fwy yma: