The essential journalist news source
Back
12.
November
2021.
10 rheswm gwych dros ymweld â Chaerdydd y Nadolig hwn!

12.11.2021

A picture containing text, peopleDescription automatically generated

Mae'r pwmpenni wedi'u rhoi o'r neilltu a'r tân gwyllt wedi chwythu'i blwc... mae'r Nadolig ar y gorwel yng Nghaerdydd!

Ar ôl blwyddyn heriol, mae'n siŵr bod llawer o drigolion ac ymwelwyr Caerdydd yn edrych ‘mlaen at Nadolig 2021 ac ychydig o hwyl o'r diwedd.

Gyda'r machlud ar 12 Tachwedd, bydd y ddinas yn camu i mewn i dymor yr ŵyl gan gynnau goleuadau'r Nadolig, agor y stondinau pren a'u haddurniadau hyfryd yn y Farchnad Nadolig, a bydd Siôn Corn hefyd yn symud i mewn i'w groto.

Os nad yw hynny'n ddigon i chi, dyma ein 10 prif reswm dros ymweld â Chaerdydd dros yr ŵyl:

  1. Gŵyl y Gaeaf Caerdydd

Ar agor:Dydd Mawrth16 Tachwedd 2021 - Dydd Sul 2 Ionawr 2022

Amseroedd:Amrywio, mwy ymawww.croesocaerdydd.com/events/gwyl-gaeaf-caerdydd

Bydd Gŵyl y Gaeaf enwog a phoblogaidd Caerdydd yn ôl yn 2021, yn fwy ac yn well nag erioed.

Mae bellach yn ymestyn dros ddau safle trawiadol - Neuadd y Ddinas a Chastell Caerdydd - gyda nodweddion newydd fel y Bar Barrug a theras to awyr agored.

Gwisgwch eich sgidiau sglefrio, mae'r tocynnau ar werth nawr! Prynwch eich tocynnau yma:http://www.croesocaerdydd.com/events/gwyl-gaeaf-caerdydd/

  1. Marchnad Nadolig Caerdydd

Ar agor:Dydd Iau 11 Tachwedd 2021 - Dydd Iau 23 Rhagfyr 2021

Oriau:Llun - Sad: 10:00 - 18:00,Sul: 10:00 - 17:00

Fel y gwelwyd yn Best UK Christmas MarketsThe Times! 

Ar eich ymweliad â Chaerdydd, gallwch fod yn siŵr eich bod yn prynu gwaith gwreiddiol gan ddetholiad o wneuthurwyr talentog. Ynghyd ag amrywiaeth o fwyd a diod tymhorol, bydd awyrgylch Nadoligaidd bywiog i chi ei fwynhau.

Cymerwch olwg ar y stondinau fydd ar gael yn ein 28ainFarchnad Nadolig flynyddol yma:https://www.croesocaerdydd.com/digwyddiadau-wyl/marchnad-nadolig-caerdydd/

  1. Y Nadolig ym Mharc Bute

Ar agor:Dydd Iau 25 Tachwedd 2021 - Dydd Gwener 31 Rhagfyr 2021(ac eithrio Dydd Nadolig).

Amseroedd:Mae'r amseroedd yn amrywio, edrychwch ar y wefan am y manylion diweddaraf

Bydd y Nadolig ym Mharc Bute yn mynd ag ymwelwyr ar daith arbennig o amgylch un o dirnodau mwyaf poblogaidd y brifddinas ac ar hyd y llwybr goleuadau Nadolig mwyaf a welodd Cymru erioed.

Profiad gwirioneddol hudolus i blant ac oedolion! I gael rhagor o wybodaeth am y Nadolig ym Mharc Bute ac i archebu tocynnau, ewch ihttps://www.croesocaerdydd.com/events/nadolig-parc-bute/
 

  1. Goleuadau Nadolig Caerdydd 2021

Yn cael eu cynnau:Dydd Gwener 12 Tachwedd

Amser:Daw'r goleuadau ‘mlaen wrth iddi nosi

Er na fydd seremoni oleuo eleni, bydd Nadolig Caerdydd yn dechrau'n swyddogol ddydd Gwener 12 Tachwedd wrth i ni gynnau'r goleuadau am y tro cyntaf. Ochr yn ochr â'r arddangosfeydd hardd yng nghanol y ddinas, bydd goleuadau lliw newydd sbon hefyd ar waliau Castell Caerdydd.
 

  1. Ymweld â Siôn Corn yng Nghaerdydd

Ar agor:Mae'r amseroedd yn amrywio, edrychwch ar wefan Croeso Caerdydd am y manylion diweddaraf

Ar yr adeg brysur hon o'r flwyddyn, mae Siôn Corn bob amser yn llwyddo i ddod o hyd i amser yn ei ddyddiadur i ymweld â Chaerdydd wrth i'r Nadolig nesáu. Mae weithiau'n ymddangos mewn sawl lle ar unwaith - allwn ni ddim esbonio ei ffyrdd hudolus, ond gwell peidio â'i holi am y peth sbo...

I le ewch chi? Darllenwch ganllaw Croeso Caerdydd a dewiswch eich hoff groto:https://www.croesocaerdydd.com/2021/10/04/ble-gallwch-ddod-o-hyd-i-sion-corn-yng-nghaerdydd/

 

  1. Siopa Nadolig

Yn dechrau:Amrywio, gwiriwch amseroedd agor y siop ar-lein

Mae gan Gaerdydd amrywiaeth o opsiynau siopa Nadolig o arcedau traddodiadol i Ganolfan Dewi Sant, prif gyrchfan siopa Cymru. 

Gyda chymaint o ddewis gwych o'r canolfannau brand mawr i'r arcedau Edwardaidd unigryw, rydych chi'n siŵr o gael popeth sydd ei angen arnoch yng Nghaerdydd eleni.

Chwilio am ysbrydoliaeth? Mae canllaw siopa Croeso Caerdydd ar gael yma:https://www.croesocaerdydd.com/gweld-gwneud/siopa/
 

  1. Sioeau bale'r Nadolig yn Neuadd Dewi Sant

Ar agor:Yn amrywio, edrychwch ar wefan Neuadd Dewi Sant am ddyddiadau sioeau penodol

Amser:Yn amrywio, edrychwch ar wefan Neuadd Dewi Sant am ddyddiadau sioeau penodol

Rydym yn barod ar gyfer y Nadolig yn Neuadd Dewi Sant, Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, gyda PHEDWAR cynhyrchiad cyfareddol gan yr enwog Fale Gwladol Rwsiaidd a Cherddorfa Siberia mewn partneriaeth â Raymond Gubbay Ltd.

Dewiswch o blith The Nutcracker, Swan Lake, Cinderella a Romeo a Juliet.

Beth am sbwylio'ch anwyliaid - a chi'ch hun - gyda thrît Nadoligaidd arbennig?

Dysgwch fwy ac archebwch eich tocynnau yma:https://www.neuadddewisantcaerdydd.co.uk/newyddion-diweddaraf/sioeau-baler-nadolig/

  1. Panto Nadolig yn y Theatr Newydd

Yn agor:Dydd Sadwrn 4 Rhagfyr 2021 - Dydd Sul 2 Ionawr 2022

Oriau:Yn amrywio, edrychwch ar wefan y Theatr Newydd am fanylion:https://newtheatrecardiff.co.uk/Online/pantomime-tickets-cardiff-wales

Yw hi'n Nadolig go iawn heb banto? Ooo nagyw ddim!

Ymunwch â Paul Chuckle, Gareth Gates, Gareth Thomas a Mike Doyle yn y Theatr Newydd dros yr ŵyl ar gyfer y pantomeim hudolus Aladdin.

Cewch chwerthin nerth eich pen a joio golygfeydd godidog, gwisgoedd hardd, digonedd o fŵan a hisian... a charped hud. Beth gwell i'ch helpu chi a'ch teulu ganfod hwyl yr ŵyl eleni?

Gyda gostyngiadau hael i grwpiau, consesiynau a chyfraddau arbennig ar gyfer ysgolion - sydd ar gael ar gyfer perfformiadau penodol - dyw hi byth yn rhy gynnar i sicrhau'r seddi gorau. Dysgwch fwy ac archebwch yma:https://newtheatrecardiff.co.uk/Online/pantomime-tickets-cardiff-wales

  1. Adolig yn y Castell

Ar agor:Mae Castell Caerdydd ar agor i ymwelwyr 7 diwrnod yr wythnos trwy gydol y flwyddyn, heblaw am 25 a 26 Rhagfyr, ac 1 Ionawr. 

Oriau:Yn amrywio,check Cardiff Castle websitewww.castell-caerdydd.com/nadolig

Mae llawer mwy i'w weld yng Nghastell Caerdydd, yn enwedig adeg y Nadolig, Uwchraddiwch eich tocyn ac ymunwchâ thaith dywysedig o'r rhandai Fictoraidd wedi'u haddurno'n hardd, neu dadorchuddiwch bennod anghofiedig o hanes Cymru gyda Haesion yTŵr Du.

Yn siop rhoddion y Castell, fe welwch ddetholiad o anrhegion a chofroddion hardd, nwyddau wedi'u gweneudâ llaw a chynnyrch lleol; llenwyr hosan delfrydol i'ch anwyliaid. Adeg y Nadolig mae yna hefyd ystod hyfryd o addurniadau traddodiadol. Cofiwch mae gostyngiad o 10% gydag Allwedd y Castell!

  1. Drysfa Oleuadau a Sioe Daflunio Gerddi Sant Ioan

Ar agor:I'w gadarnhau,mwy o wybodaeth yn dod i wefan Croeso Caerdydd yn fuan

Drysfa Oleuadau- Drysfa ymdrochol a rhyngweithiol sy'n dod â phrofiad golau unigryw i Erddi Sant Ioan. Gallwch ymweld pan mae'r parc ar agor ond gallwch fwynhau'r goleuadau 24 awr y dydd, hyd yn oed pan fydd y parc wedi'i gloi.

Sioe Daflunio- Dewch i Erddi Sant Ioan o 4pm i fwynhau sioe daflunio Nadoligaidd i'r teulu gyda goleuadau a sain ar ochr adeilad yr Hen Lyfrgell.

  1. Os ydych yn chwilio am hyd yn oed mwy o resymau i ymweld â Chaerdydd y Nadolig hwn, ewch i wefan Croeso Caerdyddwww.croesocaerdydd.com