The essential journalist news source
Back
4.
November
2021.
Gwaith Cynnal a Chadw Tir Arfaethedig - Coedwigoedd Y Goredd Ddu

04.11.2021

A picture containing tree, ground, outdoor, forestDescription automatically generated

Dechreuodd y gwaith o ddatblygu llwybr newydd drwy Goed y Gored Ddu yr wythnos yn dechrau Dydd Llun 25 Hydref 2021. Gwnaed hyn gan dîm rheoli coetir mewnol y Cyngor.

Mae Coed y Gored Ddu yn Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SoBCN) felly rydym yn gwneud y gwaith hwn i ddiogelu bioamrywiaeth ein coetiroedd ac i wneud y parc yn hygyrch.

Bydd gwaith yn y dyfodol yn cynnwys gwaith diogelwch hanfodol ar goed, plannu bylbiau brodorol a gosod naddion pren mewn ardaloedd mwdlyd i gadw'r llwybr yn hygyrch drwy gydol y flwyddyn. Bydd yr holl goed y gellir eu cadw yn y coetir - yn fyw neu farw - yn cael eu cadw gan eu bod yn gynefin pwysig iawn i amrywiaeth eang o rywogaethau.

Ymhen amser byddwn yn cau'r hen lwybr i ganiatáu i fflora'r coetir adfywio ac adfer. Gobeithiwn y byddwch yn deall pam fod y gwaith hwn yn bwysig, ac yn mwynhau'r llwybr newydd rydym wedi'i greu i chi.

Yn olaf, ry'n ni'n ffans mawr o'r "wâcs welîs" ym Mharc Bute ac yn annog pobl i roi eu welîs ‘mlaen i gerdded yn ein coetiroedd. Bydd hyn yn helpu i atal problemau tebyg ar hyd y llwybr newydd gan na fydd angen i bobl grwydro oddi ar y llwybr i osgoi ardaloedd mwdlyd. 

Mwy yma:  https://bute-park.com/cy/gcac/