The essential journalist news source
Back
2.
November
2021.
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 02 Tachwedd

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; hunanynysu - y newidiadau o 29 Hydref 2021; a llwybr cyflymach, symlach i Caerdydd ar Waith.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (22 Hydref - 28 Hydref)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

01 Tachwedd 2021, 09:00

 

Achosion: 2,227

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 607.0 (Cymru: 548.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 8,901

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,426.0

Cyfran bositif: 25.0% (Cymru: 23.3% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 01 Tachwedd

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  792,570 (Dos 1: 383,418 Dos 2:  346,293 DOS 3: 3,668 Dosau atgyfnertha: 59,138)

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 26 Hydref

 

  • 80 a throsodd: 20,321 / 94.6% (Dos 1) 20,133 / 93.7% (Dos 2)
  • 75-79: 15,001 / 96.4% (Dos 1) 14,836 / 95.4% (Dos 2)
  • 70-74: 21,406 / 95.8% (Dos 1) 21,273 / 95.2% (Dos 2)
  • 65-69: 21,974 / 94.3% (Dos 1) 21,726 / 93.2% (Dos 2)
  • 60-64: 26,073 / 92.4% (Dos 1) 25,746 / 91.2% (Dos 2)
  • 55-59: 29,437 / 90.4% (Dos 1) 28,936 / 88.8% (Dos 2)
  • 50-54: 29,116 / 88.1% (Dos 1) 28,471 / 86.2% (Dos 2)
  • 40-49: 55,605 / 81.9% (Dos 1) 53,710 / 79.1% (Dos 2)
  • 30-39: 61,221 / 76% (Dos 1) 57,364 / 71.3% (Dos 2)
  • 18-29: 81,305 / 77.3% (Dos 1) 72,789 / 69.2% (Dos 2)
  • 16-17: 4,057 / 73.9% (Dos 1) 312 / 5.7% (Dos 2)
  • 12-15: 8,508 / 32.1% (Dos 1)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,134 / 98.2% (Dos 1) 2,106 / 96.9% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,267 / 94.5% (Dos 1) 11,069 / 92.8% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,974 / 90.2% (Dos 1) 44,401 / 87.2% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol (12-15): 546 / 56.1% (Dos 1)

 

Hunanynysu - Y newidiadau o 29 Hydref 2021

Mae trefn hunanynysu newydd pan fo rhywun yn eich cartref â symptomau coronafeirws neu wedi cael prawf coronafeirws positif.

Wedi'ch brechu'n llawn neu rhwng 5 ac 17 oed

Os ydy rhywun yn eich cartref â symptomau neu wedi profi'n bositif a chithau wedi'ch brechu'n llawn neu rhwng 5 ac 17 oed, dylech hunanynysu a chymryd prawf PCR. Os yw'r prawf yn negatif, cewch stopio hunanynysu.

Heb eich brechu'n llawn

Os yw rhywun yn eich cartref wedi profi'n bositif a chithau heb eich brechu'n llawn, dylech hunanynysu am 10 diwrnod. Dylech gymryd prawf PCR ar ddiwrnod 2 ac 8. A dylech hunanynysu am 10 diwrnod hyd yn oed os yw eich profion PCR yn negatif.

Plant o dan 5

Nid oes rhaid i blant o dan 5 oed hunanynysu na chymryd prawf os ydynt wedi dod i gysylltiad ag achos positif yn eu cartref neu rywle arall.

Prif bwyntiau

Os oes gennych chi unrhyw rai o symptomau'r coronafeirws (tymheredd uchel, peswch cyson newydd, colli blas neu arogl - neu newid yn y synhwyrau hynny), dylech hunanynysu gartref a chael prawf. Ni ddylech fynd i feddygfa, fferyllfa nac ysbyty. Mae hunanynysu yn berthnasol i oedolion a phlant o bob oed.

Mae hunanynysu yn golygu nad ydych chi'n gadael y tŷ. Dylech hunanynysu ar unwaith os oes gennych chi symptomau a pharhau i hunanynysu hyd nes y cewch ganlyniad prawf PCR COVID-19.

Os ydych wedi cael canlyniad positif am COVID-19, neu os yw gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru wedi gofyn i chi hunanynysu, rhaid i chi aros gartref. Rydych chi'n torri'r gyfraith a gallech chi gael dirwy os nad ydych chi'n aros gartref ac yn hunanynysu.

Y cyfnod hunanynysu yw 10 diwrnod ers:

  • y diwrnod yn syth ar ôl y dyddiad y dechreuodd eich symptomau
  • y diwrnod yn syth ar ôl dyddiad eich prawf positif
  • y dyddiad a gadarnhawyd i chi gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu os cawsoch eich nodi fel cyswllt agos i rywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19.

 

Llwybr cyflymach, symlach i Caerdydd ar Waith

Mae Caerdydd ar Waith, asiantaeth recriwtio fewnol y Cyngor, wedi symleiddio'i brosesau ymgeisio i'w gwneud yn gyflymach ac yn haws i ymgeiswyr wneud cais am swyddi dros dro.

Gall ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn cofrestru i wneud cais am unrhyw un o'r ystod eang o swyddi dros dro o fewn yr awdurdod, sydd ar gael drwy Caerdydd ar Waith, gwblhau ffurflen gais ac asesiad ar-lein - gan gyflymu'r broses a oedd gynt yn gofyn i ymgeiswyr fynychu asesiad wyneb yn wyneb.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Moderneiddio, y Cynghorydd Chris Weaver: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i helpu pobl i gael swyddi a gyrfaoedd da, ac i gael gwared ar rwystrau y mae pobl yn eu hwynebu i fynd i mewn i swydd. Ar hyn o bryd, mae gennym ystod eang o swyddi gwag dros dro o fewn yr awdurdod ac mae cofrestru gyda Caerdydd ar Waith yn cynnig yr hyblygrwydd i ymgeiswyr roi cynnig ar wahanol rolau, dysgu sgiliau newydd ac agor drysau i gyfleoedd eraill, a allai arwain at gyflogaeth tymor hwy.

"Mae swyddi ar gael mewn rolau gweinyddol a chlerigol - ond mae hefyd amrywiaeth enfawr o gyfleoedd eraill ar hyn o bryd sy'n adlewyrchu'r ystod eang o wasanaethau y mae'r Cyngor yn eu darparu ledled y ddinas.

"Drwy ei gwneud hi'n haws cofrestru gyda Caerdydd ar Waith, a galluogi pobl i lenwi'r ffurflen gais a gwneud yr asesiad ar-lein, byddwn, gobeithio, yn annog hyd yn oed mwy o bobl i roi cynnig ar Caerdydd ar Waith."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27916.html