The essential journalist news source
Back
27.
October
2021.
Cynigion i wella Parciau Sglefrfyrddio Caerdydd – Ymgynghoriad cyhoeddus

27.10.2021

A picture containing person, skating, ground, buildingDescription automatically generated

Mae ymgynghoriad sy'n gwahodd aelodau o'r cyhoedd i ddweud eu dweud ar barciau sglefrfyrddio presennol yng Nghaerdydd, yn dal i fod ar gael i'w gwblhau ar-lein.

Ar hyn o bryd mae Adran Barciau Cyngor Caerdydd yn cynnal asesiad o barciau sglefrfyrddio ar draws y ddinas ac wedi lansio Ymgynghoriad Parc Sglefrfyrddio i bobl gael dweud eu dweud.

Fel rhan o'r asesiad, bydd yr Adran Barciau yn adolygu sut mae'r gymuned sglefrfyrddio yn defnyddio'r parciau sglefrfyrddio a mannau cyhoeddus ar hyn o bryd.

Bydd hyn yn helpu'r tîm i wella neu ddisodli safleoedd sy'n bodoli eisoes, nodi lleoliadau newydd, a chynllunio dyluniad dros y blynyddoedd nesaf.

Mae Adran Barciau Cyngor Caerdydd wedi ymuno â'r ymgynghorwyr arobryn, 

VDZ+A, i baratoi Strategaeth Sglefrfyrddio Caerdydd.

Fel rhan o'r strategaeth, mae'r tîm wedi paratoi arolwg a hoffent glywed gan y gymuned sglefrfyrddio a'r cyhoedd.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:  "Y bwriad yw cael mannau cynhwysol i drigolion ac ymwelwyr o bob oed i gael cymdeithasu ac ymysgwyd.

"Rydym am i Gaerdydd fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant, lle gall plant a phobl ifanc ddweud eu dweud am benderfyniadau sy'n cael eu gwneud a fydd yn effeithio arnynt, felly rwy'n annog unrhyw un o fewn y gymuned sglefrfyrddio i lenwi'r arolwg byr er mwyn ein helpu i ddatblygu cynllun sglefrio newydd ar gyfer y ddinas.

"Bydd eich barn yn ein helpu i ddatblygu dyluniad sglefrio newydd gan gynnwys maint parciau, opsiynau mynediad, mathau o dir a lleoliadau a argymhellir ar gyfer parciau newydd."

Mae'r Arolwg Parc Sglefrfyrddio i'w weld yma:https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=163187811098

Bydd yr arolwg ar agor tan ddiwedd mis Hydref 2021.