The essential journalist news source
Back
25.
October
2021.
Taro a Chwarae - Parc Bute i ddod yn fyw gyda cherddoriaeth!

25.10.2021

A picture containing text, newspaperDescription automatically generated

Mae Parc Bute wedi cyhoeddi ei brosiect gwella newydd i wella parc canol dinas Caerdydd.

Dewiswyd 'Taro a Chwarae' fel y prosiect codi arian nesaf ar ôl i adborth defnyddwyr awgrymu y byddai ymwelwyr â'r parc yn hoffi gweld offer chwarae gwell i ategu'r cwrs cydbwyso'r coed presennol, nifer o gerfluniau chwarae a chyfleoedd chwarae naturiol.

Bydd y man dysgu a chwarae hygyrch newydd yn cynnwys:


Gellir gwneud cyfraniadau trwy ymweld â  gwefan Parc Bute  neu drwy sganio cod QR, sticeri a phosteri ledled y parc. Fel arall, gellir cyfrannu hefyd dros y ffôn yn ystod oriau swyddfa'r parc. Mae'r holl arian a godir yn cael ei neilltuo ar gyfer y cynllun, gweler  Telerau ac Amodau  am fwy o wybodaeth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:  "Rydym yn gwybod bod Parc Bute yn lle arbennig iawn i lawer o'n trigolion a'n hymwelwyr. Bydd y prosiect newydd cyffrous hwn yn caniatáu i blant - ac oedolion - ddod at ei gilydd i greu cerddoriaeth, chwarae ac ymchwilio i'w hamgylchedd naturiol.

"Ein huchelgais yw i Gaerdydd gael ei chydnabod fel Dinas sy'n Dda i Blant ac fel lle gwych i gael eich magu, felly rwy'n falch iawn y byddwn yn gallu cynnig y cyfleoedd hygyrch ac amlsynhwyraidd newydd hyn yn ein parc yng nghanol y ddinas.

"Hefyd, gall cerddoriaeth gael effaith mor gadarnhaol ar iechyd meddwl felly gallai'r cyfle i fwynhau'r offerynnau anhygoel hyn mewn lleoliad mor brydferth â Pharc Bute hefyd gefnogi lles ymwelwyr."

Bydd yr offer chwarae wedi'i leoli ar hyd llwybr sy'n ffinio â'r cwrs cydbwyso'r coed, ger Caffi'r Tŷ Haf, sy'n ardal boblogaidd o'r parc gyda theuluoedd.

Mae Cynllun Cyfrannu Prosiect Gwella Parc Bute wedi'i ddatblygu'n gwbl fewnol a'i nod yw bod yn gwbl hunangyllidol.

Y targed codi arian ar gyfer yr ymgyrch Taro a Chwarae yw £18,106.90. Mae balans agoriadol o £575.30 ar gyfer y prosiect.

Am ragor o wybodaeth, ewch i  www.parc-bute.com/rhoi