The essential journalist news source
Back
8.
October
2021.
Datgelu cynlluniau i hybu cyfleoedd addysg Gymraeg ledled Caerdydd


 8/10/2021 

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu strategaeth 10 mlynedd i gynyddu nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ysgolion Caerdydd.

Bydd y strategaeth, a gynlluniwyd i helpu Llywodraeth Cymru i wireddu ei tharged o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050, nawr yn mynd i ymgynghoriad cyhoeddus cyn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w chymeradwyo ym mis Ionawr 2022.

Un targed allweddol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yw i Gaerdydd sicrhau bod rhwng 25-29% o ddysgwyr Blwyddyn 1 yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2032.  Ar hyn o bryd mae 18% o ddysgwyr Blwyddyn 1 yn cael eu haddysgu'n Gymraeg.  Erbyn 2050, ledled Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i 40% o blant gael eu haddysgu'n Gymraeg ac y bydd 50% o'r plant a addysgir yn Saesneg yn gallu siarad Cymraeg.

Yn dilyn trafodaethau gydag arweinwyr ysgolion a rhanddeiliaid addysg eraill, paratowyd Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) 2022-2032 drafft gan Gyngor Caerdydd er mwyn ymgynghori â'r cyhoedd.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd: "Y weledigaeth ar gyfer y brifddinas yw datblygu Caerdydd ddwyieithog lle mae'r Gymraeg yn iaith fyw a bywiog. Byddwn yn ceisio gwneud hyn drwy gynyddu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn gynaliadwy tuag at y targedau a nodir yn Gymraeg 2050.  Mae ein cynllun yn adlewyrchu ein huchelgais y bydd pob person ifanc yn cael y cyfle i glywed, siarad a mwynhau Cymraeg. Y gobaith yw y bydd hyn yn caniatáu i bobl ifanc gofleidio'r iaith yn llawn fel rhan o'n gwead cenedlaethol a chydnabod ei lle yn agos i galon Caerdydd, prifddinas Cymru."

Mae'r strategaeth, a fydd yn rhedeg o 2022-2032, yn cynnwys nifer o ymyriadau i hybu'r iaith, gan gynnwys:

  • Tyfu ein darpariaeth gynradd ac uwchradd, sy'n cefnogi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050; 
  • Cefnogi'r ddarpariaeth bresennol ac ysgogi mwy o alw am addysg Gymraeg ar draws y ddinas;
  • Gweithio gyda phartneriaid a'r Fforwm Addysg Gymraeg i ddarparu sylfaen gref i'r Gymraeg allu tyfu a ffynnu yng Nghaerdydd.
  • Bywiogi'r gwaith o hyrwyddo cyfleoedd addysg drwy gyfrwng y Gymraeg (o'r blynyddoedd cynnar drwy addysg a gynhelir ac i addysg bellach ac uwch);
  • Gweithio gyda rhieni i ddeall y ffactorau sy'n dylanwadu wrth ddewis ysgol ar gyfer eu plentyn/plant;
  • Parhau i gefnogi darpariaeth Drochi ar gyfer hwyrddyfodiaid i'r iaith yng Nghaerdydd fel y gellir ystyried addysg Gymraeg fel opsiwn sydd ar gael i bob teulu;
  • Gweithio i gefnogi mwy o amrywiaeth yn y sector Cymraeg - gan sicrhau bod pob teulu yng Nghaerdydd yn ymwybodol ei fod yn ddewis sydd ar gael i'w plentyn a gweld eu hysgol leol yn adlewyrchiad o'u cymuned a'r ddinas;
  • Cynyddu nifer y staff addysgu a dysgu Cymraeg rhugl i gefnogi twf ac ymrwymiad parhaus i ddarparu addysg Gymraeg ac addysgu Cymraeg rhagorol yn ysgolion Caerdydd.

Dwedodd y Cynghorydd Merry: "Edrychwn ymlaen at ymgysylltu â'r cyhoedd ar y cynlluniau hyn.  Rydym am barhau i feithrin y galw am addysg Gymraeg ac mae ein gweledigaeth newydd ar gyfer addysg a dysgu yng Nghaerdydd yn gwneud ymrwymiad clir a diamwys i ddarparu mwy o leoedd ysgolion cyfrwng Cymraeg. Rydym eisoes wedi cymryd camau breision ymlaen yn y maes hwn gan agor ysgolion Cymraeg newydd ledled y ddinas a sicrhau bod mwy o leoedd i ddisgyblion ar gael mewn ysgolion sy'n bod yn barod.

"Rydym yn benderfynol o sicrhau bod lleoedd ar gael i bob teulu sy'n dewis addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ac rydym yn awyddus i rieni groesawu'n llawn y cyfleoedd y gallai bod yn ddwyieithog yng Nghymru eu cynnig i'w plant o'u geni hyd y byddant yn oedolion. Nid oes fawr o amheuaeth bod pobl yn dod yn fwy ymwybodol o fanteision addysg ddwyieithog, ond mae gwaith i'w wneud o hyd i sicrhau bod gan y wybodaeth gan bob teulu i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth a theimlo'n hyderus i ddewis addysg Gymraeg i'w plant. Mae gan ein Uned Trochi Cymraeg hanes profedig o helpu teuluoedd sy'n symud i Gaerdydd neu rai sy'n dewis symud draw o addysg Saesneg i addysg yn y sector Gymraeg, a hynny ran o'r ffordd trwy daith addysg eu plentyn, ond mae angen i ni barhau i weithio ar hyrwyddo'r gefnogaeth sydd ar gael i rieni sydd â'u plant yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Yn olaf, mae'n rhaid i ni barhau i fod yn ymwybodol o anghenion ein holl ysgolion ar hyn o bryd wrth i ni gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg. Drwy gynyddu'r ddarpariaeth mewn ffordd strategol, gan ystyried amcanestyniadau cyfredol o ran y boblogaeth a chyfraddau geni - sy'n rhagweld gostyngiad cychwynnol yn niferoedd disgyblion hyd at 2024 - rydym yn ceisio sicrhau bod ein holl ysgolion ar sail ariannol gref a bod pob ysgol Gymraeg bresennol yn parhau i fod yn rai hyfyw."

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Cyngor Caerdydd wedi codi ac agor tair ysgol Gymraeg newydd a chynyddu capasiti yn llawer o'i ysgolion sefydledig.   Yng nghyd-destun gostyngiad yn niferoedd disgyblion sy'n derbyn addysg gynradd, mae amcanestyniadau darpariaeth ysgolion presennol y Cyngor yn awgrymu y bydd y llefydd yma ynghyd â'r ddarpariaeth ychwanegol a gynlluniwyd eisoes, yn cynnig lefel gymharol uchel o lefydd dros ben ar draws ysgolion y sector Cymraeg i gefnogi twf cynaliadwy ym mlynyddoedd cynnar y cynllun deng mlynedd. 

Bydd cyflawni targedau'r CSCA o gynyddu niferoedd y disgyblion sy'n gael eu haddysgu mewn ysgolion Cymraeg o 18% yn 2021 i 25-29% yn 2032 yn gofyn am fwy o leoedd ysgol Cymraeg ledled Caerdydd.  Wrth i ysgolion ymateb yn gadarnhaol i'r Cwricwlwm i Gymru newydd ac ymateb i'r awydd cynyddol i allu siarad Cymraeg, rydym yn hyderus y bydd ysgolion Saesneg hefyd yn awyddus i adeiladu ar eu sgiliau iaith cynyddol gydag ysgolion yn symud i gyflwyno mwy o addysgu Cymraeg gan feithrin hyder eu disgyblion i siarad a mwynhau'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Dwedodd y Cynghorydd Merry: "O gofio'r amcanestyniadau poblogaeth a'r gostyngiad tebygol yn nifer y disgyblion sy'n mynd i ysgolion dros y blynyddoedd nesaf, mae angen i ni feddwl yn strategol am y ffordd allwn sicrhau'r defnydd gorau posibl o'r holl leoedd sydd ar gael ar hyn o bryd ar draws y ddinas a'r lleoedd ychwanegol sydd eisoes wedi eu cynllunio gennym fydd ar gael yn fuan. Rydym wedi gweld twf cadarnhaol yn y nifer sy'n manteisio ar ein darpariaeth Gymraeg dros y 10 mlynedd diwethaf, ond mae angen inni edrych nawr ar ffyrdd arloesol o annog mwy o rieni i edrych ar addysg Gymraeg fel yr opsiwn gorau i'w plant i ddod a mwynhau bod yn ddwyieithog yng Nghymru.

"Er gwaethaf yr amcanestyniadau poblogaeth ar hyn o bryd, mae cynlluniau i ehangu gennym ar waith i gynyddu nifer y lleoedd Cymraeg yn y sector cynradd, a fydd yn hwyluso cynnydd pellach yn nifer y plant oedran derbyn i gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod cyfnod y cynllun hwn, bydd ysgol newydd hefyd yn agor i wasanaethu datblygiad tai Plasdŵr.  Bydd hwn yn fodel newydd o ysgol i Gaerdydd, sy'n deillio o ysgolion llwyddiannus yng Ngwlad y Basg a helpodd i dyfu'r defnydd o'r iaith yno yn sylweddol. Bydd yr ysgol dau ddosbarth mynediad hon ag un dosbarth yn cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r dosbarth arall yn cael ei sefydlu fel dosbarth dwy iaith (Cymraeg a Saesneg). Y gobaith yw y bydd yr ysgol hon yn gweithredu fel enghraifft o arfer dda a all gefnogi ysgolion eraill i symud ar hyd y continwwm iaith er mwyn cynnig mwy o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg maes o law."

Bydd yr ymgynghoriad yn agor ar 15 Hydref.

Ar ôl ei gwblhau, bydd adroddiad yn dod yn ôl i'r Cabinet gydag argymhellion cyn cytuno ar y strategaeth ac yna'i hanfon at Lywodraeth Cymru i'w chymeradwyo. I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn cliciwch ymawww.cardiff.gov.uk/WelshStrategyConsultations