The essential journalist news source
Back
6.
October
2021.
Adnewyddu Ardal Chwarae Caeau Llandaf

06.10.2021

A picture containing tree, furnitureDescription automatically generated

Mae gwaith gwella i adnewyddu un o ardaloedd chwarae Caerdydd wedi dechrau'r mis hwn.

Bydd ardal Chwarae Caeau Llandaf yn gweld gwelliannau yn mynd rhagddynt i'r ardal chwarae o fis Hydref 2021.

Bydd yr holl offer chwarae presennol yn yr ardal chwarae yn parhau ar agor ar gyfer y rhan fwyaf o'r gwaith.

Yn gynharach eleni, gwahoddodd Adran Parciau Caerdydd ysgolion o bob rhan o'r ddinas i roi eu barn a'u syniadau ar sut y gellid datblygu'r ardal chwarae.

Cyflwynodd disgyblion o Ysgol Gynradd Creigiau, Ysgol Gynradd Kitchener, Ysgol Gynradd Millbank, Ysgol Gynradd Severn, Ysgol Gynradd St Cuthbert, Ysgol Gynradd Dewi Sant, Ysgol Gynradd Santes Monica, yn ogystal â chynigion ar wahân gan blant eraill, eu lluniau a'u syniadau.

Yn dilyn syniadau'r plant, bydd Cyngor Caerdydd yn datblygu'r arglawdd canolog yn nodwedd chwarae newydd. Bydd yn cynyddu o ran ei uchder a bydd arwyneb rwber newydd yn cael ei ychwanegu.

Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd plant lleol hefyd yn gallu mwynhau:

  • 3 sleid fawr newydd
  • rhwydi dringo
  • rhaffau dringo
  • cerrig camu sffêr mawr
  • bydd meinciau, llwybrau ac offer chwarae dringo eraill hefyd yn cael eu hychwanegu at y gofod.

Bydd yr offer chwarae presennol yn yr ardal chwarae yn cael ei gadw a bydd rhannau eraill o'r ardal chwarae yn cael eu hadolygu'n ddiweddarach. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:  "Rydym wedi gweithio'n agos gyda phlant mewn ysgolion ledled y ddinas i sicrhau bod ein cynlluniau adnewyddu yn diwallu anghenion ein cymunedau ac rydym yn falch iawn o wireddu'r cynlluniau hyn.

"Mae plant yn elwa cymaint o allu cwrdd yn yr awyr agored a chwarae gyda'i gilydd felly bydd yr offer chwarae newydd a gwell hwn yn gyfleuster gwych i deuluoedd lleol ei ddefnyddio."

I gael rhagor o wybodaeth, bydd arwyddion yn cael eu hychwanegu at ffensys y contractwr.