The essential journalist news source
Back
27.
September
2021.
“Rhowch Bump I Ni” - Ceisiadau Am Leoedd Mewn Ysgolion Uwchradd Caerdydd Yn Agor Heddiw


27/09/21

Mae ceisiadau am leoedd mewn ysgolion uwchradd ym mis Medi 2022 yn agor heddiw (dydd Llun 27, Medi) ac anogir teuluoedd i ‘roi pum' dewis ysgol i ni, er mwyn cynyddu eu siawns o gael lle mewn ysgol o'u dewis.

Mae nodi pum ysgol yn y ffurflen gais gyntaf yn un o 7 awgrym gan Dîm Derbyn Cyngor Caerdydd, sy'n ceisio helpu teuluoedd sy'n gwneud cais am le mewn ysgol yng Nghaerdydd.

Mae cyngor ac arweiniad syml gam wrth gam ar gael ar-lein a thrwy animeiddiad wedi'i anelu at blant a theuluoedd, sy'n helpu i esbonio'r 7 awgrym gan gynnwys sut mae'r broses dderbyn yn gweithio a phwysigrwydd defnyddio'r holl ddewisiadau sydd ar gael.

Mae hefyd yn cwmpasu pethau megis:

-          Pwysigrwydd gwneud cais yn brydlon, erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer gwneud cais

-          Manteision ystyried yr holl ysgolion yn yr ardal y mae'r plentyn yn byw ynddi trwy edrych ar eu gwefannau a darllen eu hadroddiadau

-          Gwneud yn siŵr bod y ffurflen gais yn cynnwys gwybodaeth hanfodol megis a oes gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol neu unrhyw anghenion dysgu, meddygol neu gymdeithasol ychwanegol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rydyn ni'n gwybod y gall gwneud cais am le mewn ysgol fod yn amser pryderus i lawer o deuluoedd ac felly rydyn ni eisiau gwneud y broses mor syml a didrafferth ag y gallwn ni, gan helpu teuluoedd i ddeall sut mae'r broses yn gweithio a sut i gael y cyfle gorau i gael ysgol y maen nhw ei heisiau.

"Mae gan Gaerdydd lawer o ysgolion gwych, felly gall lleoedd lenwi'n gyflym. Drwy roi pum dewis ysgol i ni yn y ffurflen gais gyntaf, gall teuluoedd gael y cyfle gorau i sicrhau un o'u hysgolion dewisol."

Mae'r ymgyrch 7 awgrym ddiweddaraf y gwasanaeth Derbyn i Ysgolion yn cefnogi addewid Caerdydd i fod yn un o Ddinasoedd sy'n Dda i Blant Unicef cyntaf y DU, gan roi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau Caerdydd. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Nod yr ymgyrch hon yw gwneud y broses mor syml a thryloyw â phosibl, fel bod gan bob teulu yng Nghaerdydd y wybodaeth, y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth i sicrhau nad ydynt dan anfantais wrth wneud cais am le mewn ysgol."

"Os oes unrhyw deuluoedd yn ansicr am unrhyw agwedd ar y broses, gallant gael cymorth gan ein staff yn Hybiau'r Cyngor ledled y ddinas neu drwy ffonio C2C ar 029 20872088."  

 

I weld canllaw'r 7 awgrym a'r animeiddiad, ewch  yma.

Mae'r wybodaeth hefyd ar gael mewn sawl iaith gan gynnwys Arabeg, Bengaleg, Cantoneg, Tsieceg, Mandarin, Pwyleg, Portiwgaleg, Rwmaneg, Portiwgaleg, Rwseg, Somalïeg a Chymraeg wrth gwrs.

 

Ar gyfer teuluoedd sydd angen cymorth a chymorth yn ystod y broses ymgeisio, ewch i unrhyw un o Hybiau'r Cyngor lle bydd staff yn gallu helpu neu ffoniwch C2C ar 029 20872088.  

Bydd ceisiadau am le mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2022 yn cau ar 22 Tachwedd 2021.

I wneud cais am le mewn ysgol ewch i https://www.caerdydd.gov.uk/DerbyniYsgolion