The essential journalist news source
Back
26.
September
2021.
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 27/09/21

 

24/09/21 - Cytundeb ar ail-osod cladin i Fflatiau Lydstep

Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau ei ymrwymiad i gyflawni gwaith ail-osod gorchudd cladin i dri o flociau fflatiau uchel yr awdurdod, y tynnwyd eu cladin gwreiddiol yn dilyn trychineb Grenfell.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27591.html

 

24/09/21 - Cwestiynau ac Atebion Argae Parc y Rhath

Mae Cyngor Caerdydd yn gyfreithiol gyfrifol am gynnal a chadw Argae Parc y Rhath, sy'n eiddo cyhoeddus, ac mae angen archwiliadau rheolaidd dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr (1975).

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27588.html

 

24/09/21 - Dechrau'r gwelliannau i Argae Parc y Rhath

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith ar Argae Parc y Rhath, cyn i'r gwaith gwella ddechrau yn hydref 2021.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27583.html

 

23/09/21 - App Cymorth i Mewn i Waith

Mae app newydd i gefnogi pobl sy'n chwilio am waith a'r rhai sydd am newid gyrfa yng Nghaerdydd i gael gafael ar wybodaeth a chyngor amser real am wasanaethau cyflogadwyedd y Cyngor bellach ar gael i'w lawrlwytho.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27581.html

 

23/09/21 - WOW! Rhaglen cerdded i'r ysgol Caerdydd wedi'i chyflwyno i nifer o ysgolion

Mae nifer o blant ysgol Caerdydd yn teithio i'r ysgol mewn ffyrdd iachach a glanach fel rhan o raglen cerdded i'r ysgol y DU.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27572.html

 

22/09/21 - Llwyddiant i Raglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol Caerdydd

Yr haf hwn, manteisiodd dros 1200 o blant a phobl ifanc ar Raglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (RhCGY) Caerdydd, sy'n golygu bod y niferoedd uchaf erioed wedi gallu mwynhau'r rhaglen gyffrous o ddarpariaeth chwaraeon ac addysgol, ochr yn ochr â phrydau maeth

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27565.html

 

20/09/21 - Annog trigolion i barhau i ymweld â Pharc Bute a'i fwynhau wrth i waith adfer barhau yn dilyn fandaliaeth

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, wedi diolch i drigolion a ddaeth i ddangos eu cefnogaeth i Barc Bute ar ôl i filoedd o bunnoedd o ddifrod gael ei achosi gan fandaliaid.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27546.html

 

20/09/21 - Trigolion yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i lunio dyfodol Caerdydd

Mae barn trigolion Caerdydd, a gasglwyd mewn ymgynghoriad cyhoeddus, yn helpu i lywio sut y bydd prifddinas Cymru yn datblygu ac yn tyfu dros y 15 mlynedd nesaf.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27543.html

 

20/09/21 - Lansio ymgyrch i gynyddu'n sylweddol nifer ac amrywiaeth y gofalwyr maeth yng Nghaerdydd

Mae 'Maethu Cymru', y rhwydwaith cenedlaethol newydd o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol ledled y wlad, yn lansio ymgyrch heddiw sydd â'r nod o gael effaith genedlaethol sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27539.html