The essential journalist news source
Back
23.
September
2021.
App Cymorth i Mewn i Waith


23/09/21

Mae app newydd i gefnogi pobl sy'n chwilio am waith a'r rhai sydd am newid gyrfa yng Nghaerdydd i gael gafael ar wybodaeth a chyngor amser real am wasanaethau cyflogadwyedd y Cyngor bellach ar gael i'w lawrlwytho.

Mae app symudol I Mewn i Waith Caerdydd yn darparu gwybodaeth am yr ystod eang o wasanaethau cymorth cyflogaeth a ddarperir gan Wasanaethau I Mewn i Waith y Cyngor gan gynnwys clybiau swyddi, prosiectau mentora un i un, cyrsiau Dysgu Oedolion, hyfforddiant, digwyddiad cyflogaeth, helpu i gael gafael ar gyllid a mwy, i gyd ar flaenau bysedd y defnyddiwr ar eu ffôn clyfar neu dabled.

Wedi'i ddatblygu ar gyfer Gwasanaethau Cyngor i Mewn i Waith gan Wasanaethau Ymgynghori Tata (TCS), mae'r app ar gael i'w lawrlwytho am ddim ar y Apple Store ac yn Google Play ac mae'n rhoi diweddariadau rheolaidd i geiswyr gwaith am gyrsiau hyfforddi newydd, digwyddiadau a gwybodaeth i'w helpu i fynd i rôl y mae ganddynt ddiddordeb ynddi.

Drwy lawrlwytho'r app, gall defnyddwyr hefyd gofrestru ar gyfer cymorth I Mewn i Waith, gan ei gwneud yn gyflymach ac yn haws i bobl gael cymorth sydd ei angen arnynt i gael y swydd y maent ei heisiau.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:   "Mae gan ein gwasanaethau i Mewn i Waith hanes gwych o gefnogi pobl i gael gwaith mewnystod o wahanol sectorau, gan helpu i'w harfogi â'r hyn sydd ei angen arnynt i ddychwelyd i'r gwaith, gan gefnogi eraill i uwchsgilio i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd a chael swydd y maent wir ei heisiau, neu i hyfforddiant ac addysg.

"Gyda'r app newydd, bydd hyd yn oed yn haws i bobl gael gwybod y diweddariadau diweddaraf i'r ddarpariaeth, boed hynny'n wybodaeth am glybiau swyddi, cyrsiau newydd y gallent fod â diddordeb ynddynt, neu brosiectau a all eu cael ar y llwybr i ble maent am fod.

"Bydd ein cynghorwyr arbenigol ar gael o hyd i helpu cleientiaid i lunio CVs, gwneud cais am swyddi, paratoi ar gyfer cyfweliadau, cael gafael ar gyllid sydd ar gael iddynt i weithio tuag at gymwysterau penodol ac yn y blaen, a bydd yr app yn ategu'r gwaith hwnnw i sicrhau ein bod yn cynorthwyo cymaint o bobl ag y gallwn gyda'r gefnogaeth gywir i gael y rôl gywir ar eu cyfer."

Lawrlwythwch yr app newydd I Mewn i Waith Caerdydd am ddim drwy ymweld â'r Apple Store neu Google Play. I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Cyngor i Mewn i Waith Caerdydd, ewch i www.imewniwaithcaerdydd.co.uk