Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: lansio ymgyrch i gynyddu'n sylweddol nifer ac amrywiaeth y gofalwyr maeth yng Nghaerdydd; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a annog trigolion i barhau i ymweld â Pharc Bute a'i fwynhau wrth i waith adfer barhau yn dilyn fandaliaeth.
Lansio ymgyrch i gynyddu'n sylweddol nifer ac amrywiaeth y gofalwyr maeth yng Nghaerdydd
Mae 'Maethu Cymru', y rhwydwaith cenedlaethol newydd o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol ledled y wlad, yn lansio ymgyrch heddiw sydd â'r nod o gael effaith genedlaethol sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc.
Ledled Cymru, mae pob plentyn sydd angen gofalwr maeth yng ngofal ei Awdurdod Lleol. Felly, y gobaith yw y bydd yr ymgyrch hysbysebu ddwyieithog newydd, ar ran Caerdydd a'r 21 tîm maethu awdurdod lleol nid er elw arall ym 'Maethu Cymru', yn cynyddu ar niferoedd y rhieni maeth sydd eu hangen er mwyn helpu i gadw plant yn eu hardal leol, pan fydd hynny'n iawn iddynt.
Gall helpu plant i aros yn eu cymuned leol fod o fudd mawr a golygu'r byd i blentyn. Nid yn unig y mae'n eu cadw mewn cysylltiad â'u ffrindiau, eu hysgol a'u hymdeimlad o hunaniaeth, ond mae hefyd yn magu hyder ac yn lleihau straen.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey: ‘Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad i helpu plant lleol sydd angen rhywun i wrando arnynt. I gredu ynddynt. Plant sydd angen rhywun ar eu hochr nhw, rhywun i'w caru nhw. Mae'n benderfyniad i weithio gyda phobl sy'n rhannu'r amcanion hynny, pobl fel tîm maethu eich Awdurdod Lleol yma yng Nghaerdydd.
Read more here:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27539.html
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (10 Medi - 16 Medi)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
20 Medi 2021, 09:00
Achosion: 1,541
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 420.0 (Cymru: 527.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 11,157
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 3,040.9
Cyfran bositif: 13.8% (Cymru: 15.1% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 15 Medi
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 711,750 (Dos 1: 370,513 Dos 2: 341,237)
- 80 a throsodd: 20,551 / 94.6% (Dos 1) 20,321 / 93.5% (Dos 2)
- 75-79: 15,050 / 96.3% (Dos 1) 14,864 / 95.1% (Dos 2)
- 70-74: 21,441 / 95.7% (Dos 1) 21,308 / 95.1% (Dos 2)
- 65-69: 21,957 / 94.2% (Dos 1) 21,685 / 93% (Dos 2)
- 60-64: 26,024 / 92.3% (Dos 1) 25,680 / 91.1% (Dos 2)
- 55-59: 29,369 / 90.3% (Dos 1) 28,816 / 88.6% (Dos 2)
- 50-54: 29,026 / 87.9% (Dos 1) 28,319 / 85.8% (Dos 2)
- 40-49: 55,312 / 81.6% (Dos 1) 53,119 / 78.4% (Dos 2)
- 30-39: 60,408 / 75.3% (Dos 1) 56,026 / 69.9% (Dos 2)
- 18-29: 79,464 / 76.4% (Dos 1) 69,681 / 67% (Dos 2)
- 16-17: 3,863 / 70.9% (Dos 1) 280 / 5.1% (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 2,074 / 98.1% (Dos 1) 2,074 / 96.8% (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 11,343 / 93.8% (Dos 1) 11,068 / 91.5% (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,243 / 90.1% (Dos 1) 44,495 / 86.6% (Dos 2)
Annog trigolion i barhau i ymweld â Pharc Bute a'i fwynhau wrth i waith adfer barhau yn dilyn fandaliaeth
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, wedi diolch i drigolion a ddaeth i ddangos eu cefnogaeth i Barc Bute ar ôl i filoedd o bunnoedd o ddifrod gael ei achosi gan fandaliaid.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Roedd yn galonogol iawn gweld cymaint o bobl yn dod allan i ddangos eu cefnogaeth i'r parc, ac am yr holl waith y mae timau ein parciau a'n gwirfoddolwyr yn ei wneud bob dydd, gan ei wneud yn drysor hardd, gwyrdd, yng nghanol Caerdydd.
"Yn dilyn y fandaliaeth ddifrifol a gyflawnwyd yno, mae timau parciau Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio'n galed yn sicrhau fod y parc yn ddiogel ac atgyweirio'r difrod wrth weithio gyda'r heddlu a chefnogi'r rhai y mae'r drosedd yn effeithio arnynt.
"Mae gwerth degau o filoedd o bunnoedd o ddifrod wedi'i wneud, fodd bynnag, mae timau wedi bwrw ati i ddechrau ar y gwaith o atgyweirio'r parc, gan gynnwys:
- Y gwaith sy'n rhaid ei wneud i sicrhau bod y parc yn ddiogel i drigolion barhau i ymweld ag ef a'i fwynhau.
- Mae'r holl botiau blodau sydd wedi'u fandaleiddio wedi'u hadfer, gyda gwaith ailblannu yn dal i fynd rhagddo.
- Mae biniau sbwriel wedi'u hailosod.
- Mae arwyddion a ddifrodwyd wedi'u casglu a byddant yn cael eu hailosod cyn bo hir.
- Mae seiri meini yn cael eu gwahodd i ddod i'r safle i weld y difrod a chynnig dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith o drwsio'r gwaith cerrig ar Bont yr Arglwyddes Bute.
- Mae gwaith atgyweirio ar y ceblau ffibr optig wedi'i gwblhau. Adferwyd y rhyngrwyd i'r adeiladau ac mae'r gorchudd y pibelli dŵr wedi'i ailosod.
- Mae ystafelloedd newid y Gored Ddu y torrwyd i mewn iddynt a'u difrodi wedi'u diogelu gyda drysau a chloeon newydd.
"Rwy'n gwybod bod y ddinas gyfan yn tristau ac wedi'i chynhyrfu gan y fandaliaeth ddisynnwyr hon, felly roedd yn wych gweld cefnogaeth o'r fath i'r parc. Rydym am i bawb wybod na ddylent adael i'r hyn sydd wedi digwydd eu hatal rhag dod i'r parc a mwynhau ei holl harddwch."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Hoffwn ddiolch i bawb am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i adfer Parc Bute.
"Rydym wedi cael ymateb ardderchog gan y gymuned ac mae'n wych gweld pawb yn tynnu at ei gilydd yn wyneb fandaliaeth mor ofnadwy.
"Mae ysbryd cymunedol wedi cael ei drafod llawer yn ystod y pandemig, felly mae'n wych gweld yr holl gefnogaeth i Barc Bute a'n timau parciau.
"Mae ein timau wedi bod yn gweithio ddydd a nos i atgyweirio'r hyn y gallant ac asesu hyd a lled y difrod.
"Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau ac mae'r tîm yn parhau i gyfrannu gwybodaeth tra bod y lluniau teledu cylch cyfyng yn cael eu hadolygu.
"Anogir unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111."