Yn gynharach eleni gofynnodd Cyngor Caerdydd i drigolion, ac ystod eang o sefydliadau, grwpiau a chyrff cyhoeddus, am eu barn ar y weledigaeth a'r amcanion drafft ar gyfer ei Gynllun Datblygu Lleol newydd.
Nododd canlyniadau'r ymgynghoriad, a gafodd 1,215 o ymatebion, y canlynol:
- Cefnogaeth gyffredinol
ar gyfer lefelau is o dwf tai a thwf swyddi canolig.
- Ffefrir yn gryf
ddefnyddio safleoedd tir llwyd.
- Gwell mynediad i
fannau gwyrdd fel prif flaenoriaeth ar gyfer gwella iechyd a lles.
- Creu cymdogaethau 15
munud, mynediad i fannau gwyrdd a theithio llesol fel y 3 dull pwysicaf o
ymateb i'r pandemig.
- Darparu cyfleusterau
cymunedol, lleihau troseddu a darparu llwybrau beicio da fel y 3
blaenoriaeth bwysicaf ar gyfer gwella cymdogaethau.
- Roedd dwy ran o dair o'r ymatebwyr yn cytuno â'r weledigaeth ddrafft, gan raddio mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, amgylcheddau iachach a diogelu seilwaith gwyrdd fel eu 3 blaenoriaeth uchaf yn nhrefn eu pwysigrwydd.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd adroddiad gan y cyngor, a gaiff ei drafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau, 23 Medi, yn argymell bod fersiynau diwygiedig o weledigaeth ac amcanion y CDLl, gan gynnwys newidiadau pwysig a manylion ychwanegol sylweddol, yn cael eu cymeradwyo.
Mae'r dogfennau allweddol hyn yn rhan annatod o'r
cam nesaf yn y broses o lunio’r CDLl newydd, sef ymgynghori ar opsiynau
strategol ar gyfer datblygu yn y ddinas.
Cynhelir cyfres o Grwpiau Ffocws a digwyddiadau dinasyddion rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror 2022 i lywio'r gwaith o baratoi "Strategaeth a Ffefrir" yr ymgynghorir arni yn hydref 2022.
Gwnaed newidiadau i nifer o feysydd o weledigaeth ac amcanion drafft mewn ymateb i ganlyniadau'r ymgynghoriad, ac mae fersiwn lawn ohono ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd. Mae rhai enghreifftiau o'r newidiadau hyn yn cynnwys:
- Cyflwyno cyfeiriad at
"gartrefi carbon isel" newydd yn lle "cartrefi
newydd".
- Newid o gyfeirio at
ddinas sy'n "haws symud o’i chwmpas" i ddinas sy'n ail-lunio
symudiad o amgylch "craidd o deithio llesol (cerdded a beicio) a
defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.”
- Cyfeiriadau newydd at
flaenoriaethu cyfleoedd ar gyfer cartrefi newydd a chyfleoedd cyflogaeth
mewn dinasoedd a chanolfannau lleol a "lleoliadau tir llwyd
cynaliadwy".
- Symudiad o siarad am "ofalu am" asedau naturiol, hanesyddol a diwylliannol y ddinas, i'w "gwella".
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae'r CDLl newydd yn mynd i lunio golwg a theimlad Caerdydd am flynyddoedd i ddod, felly roedd yn bwysig iawn i ni glywed ystod mor eang â phosibl o safbwyntiau ar y cam cynnar hwn, a cheisio adlewyrchu'r hyn a ddywedwyd wrthym yn y weledigaeth a'r amcanion diwygiedig.
“Rydym ar gam allweddol yn natblygiad y ddinas. Mae Caerdydd yn ddinas fywiog, gyffrous sy'n tyfu'n gyflym, ond yn yr angen i addasu i newid yn yr hinsawdd ac adfer o'r pandemig, mae'n wynebu heriau mawr.
"Rydym i gyd am i Gaerdydd fod yn ddinas gynaliadwy sy'n chwarae ei rhan wrth fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd – ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd tai fforddiadwy a chymunedau cysylltiedig. Gall barhau i ysgogi economi Cymru mewn byd ar ôl COVID, a bod yn fan lle gall pobl fyw bywydau iach a hapus mewn amgylchedd glân a fforddiadwy.
“Rydym yn ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i
rannu eu barn yn yr ymgynghoriad cyntaf hwn ac a'n helpodd i gymryd cam arall
tuag at gyflawni ein huchelgeisiau.