The essential journalist news source
Back
17.
September
2021.
Pwysau ar Ofal Cymdeithasol ar hyn o bryd

17/9/2021


Fel y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru, mae Cyngor Caerdydd yn parhau i wynebu heriau digynsail yn sgil COVID-19. Mae wedi effeithio'n arbennig ar Ofal Cymdeithasol, wrth i'r galw am wasanaethau gynyddu, gyda phrinder staff allweddol yn y gweithlu ledled y wlad yn y sector ar yr un pryd. 

 

Mae ein partneriaid sy'n darparu gofal ar ran Caerdydd wedi gweithio'n eithriadol o galed drwy gydol y pandemig i ddiwallu anghenion ein dinasyddion mwyaf agored i niwed, ond maen nhw bellach yn ei chael hi'n anodd darparu'r lefel uwch o ofal sydd ei hangen. 

 

Er ein bod yn gweithio ar ddatrys y materion hyn yn y tymor byr, gallai trefniadau gael eu haddasu dros dro  mewn rhai amgylchiadau. Er enghraifft, gallai hyn achosi newidiadau i amseroedd ymweld neu apwyntiadau a newidiadau i'r staff sy'n gwasanaethu.

 

Fel cyngor rydym yn ceisio egluro mwy am y sefyllfa i unigolion a theuluoedd, a gofyn yn garedig iddyn nhw am eu dealltwriaeth a'u cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn. Rydyn ni hefyd yn diolch iddyn nhw am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad parhaus wrth i ni wneud ein gorau glas i ddychwelyd i'r trefniadau arferol.

 

Mae amrywiaeth o gyngor a gwybodaeth i gefnogi eich lles, a gwybodaeth am bobl, sefydliadau a gwasanaethau lleol a all eich helpu ar gael ar wefan Dewis Cymru:https://www.dewis.cymru/(neu chwiliwch am Dewis Cymru).

 

Os yw unrhyw un yn aros i'r Gwasanaethau i Oedolion gysylltu, neu'n credu bod arnyn nhw neu aelod o'u teulu angen naill ai asesiad brys neu adolygiad o'u hanghenion gofal a chymorth, dylid cysylltu â'r Gwasanaethau i Oedolion ar 029 2053 6422 neu drwy e-bost GO-CymorthTimACM@Caerdydd.gov.uk

 

Ar fater cysylltiedig, ac i gefnogi atebion tymor byr a thymor hirach, byddem yn annog pawb sy'n ystyried gyrfa mewn gofal i ymweld â gwefan www.Gofalwn.Cymru lle mae amrywiaeth o swyddi ar gael.

 

Gall tîm Gwasanaeth i Mewn i Waith y Cyngor hefyd ddarparu cymorth pwrpasol i bobl sydd â diddordeb mewn gweithio mewn gofal. Gall hyn gynnwys hyfforddiant am ddim, mentora personol, a mynediad i gronfa mynd i'r afael â rhwystrau i helpu gyda gofal plant a theithio i ymgeiswyr cymwys. Gellir cysylltu â'r tîm drwy ffonio 029 20 871 071 neu drwy e-bostio cyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk neu drwy ymweld â'r wefan www.imewniwaithcaerdydd.co.uk