The essential journalist news source
Back
15.
September
2021.
Llai nag wythnos ar ôl i fusnesau allu cyflwyno eu ceisiadau ar gyfer Gwobrau Busnes cyntaf Caerdydd

15/09/21

Does dim rhaid dweud i'r amgylchedd busnes fod yn gythryblus a dweud y lleiaf dros y 18 mis diwethaf, gyda COVIDaBREXIT yn effeithio ar fusnesau mewn cymaint o ffyrdd.

Gyda'r gymuned fusnes yn brwydro'n ôl a busnesau'n dangos gwytnwch, rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi Gwobrau Busnes Caerdydd 2021, fel prif noddwyr.

Mae'r gwobrau'n cydnabod y mentrau entrepreneuraidd ac arloesol hynny sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein dinas wych ac nid oes amser gwell i ni ddathlu llwyddiant y byd busnes.

Gelwir ar fusnesau ym mhob sector i ymuno â Gwobrau Busnes Caerdydd a gynhelir am y seithfed tro, cyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau Ddydd Gwener 17 Medi 2021, gyda'r seremoni wobrwyo i'w chynnal Ddydd Gwener 26 Tachwedd 2021 yn Neuadd y Ddinas.

Lansiwyd Gwobrau Busnes Caerdydd mawr eu bri yn 2015 i ddathlu'r busnesau hynny yng Nghaerdydd a oedd yn gwneud gwahaniaeth ac yn hyrwyddo'r Ddinas. Mae enillwyr blaenorol Busnes y Flwyddyn yn cynnwys: IQE, Eversheds, Sure Chill, Celsa Steel, Euroclad a GorillaTV.

Mae Caerdydd yn parhau i dyfu fel canolfan ar gyfer gweithgarwch economaidd ac fel lle gwych i weithio a byw ynddo. Nid yn unig y mae cwmnïau gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yn cael eu denu i adleoli i'r ddinas ond mae cwmnïau sydd eisoes yma yn ehangu ac mae yna sîn cychwyn busnes newydd cyffrous yma mewn sectorau fel gwyddorau bywyd, technoleg ariannol a'r sectorau creadigol a digidol.

Dwedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: 

"Rwyf wrth fy modd y bydd Cyngor Caerdydd yn parhau â'i rôl fel noddwr arweiniol Gwobrau Busnes Caerdydd 2021. Bydd hwn yn gyfle i ddathlu busnesau lleol ar draws y sectorau busnes a chydnabod faint o fusnesau sydd wedi gorfod delio â dwy her COVID a BREXIT a'r cyfraniad y maent yn parhau i'w wneud i'n heconomi a'n cymunedau yn y brifddinas. Edrychaf ymlaen at rannu'r llwyfan gyda rhai o'r cwmnïau hyn yn y seremoni wobrwyo fis Tachwedd".

Meddai Liz Brookes, Cyfarwyddwr Digwyddiadau Grapevine a sylfaenydd Gwobrau Busnes Caerdydd: 

"Mae'n wych cael Cyngor Caerdydd yn ôl fel ein prif noddwr eto ar gyfer 2021.

Roedd Gwobrau Busnes Caerdydd 2020 yn cynnwys y nifer uchaf erioed o fusnesau gwych, er gwaethaf y pandemig na lwyddodd i leihau eu penderfyniad i ymateb ac addasu i'r dirwedd fusnes heriol.

Rwy'n edrych ymlaen at groesawu nifer o ymgeiswyr teilwng yn 2021, i ddathlu eu llwyddiant ysbrydoledig ac sydd oll yn rhannu thema gyffredin o ddiogelu, galluogi ac ysbrydoli eu staff drwy arweinyddiaeth dda ac ysbryd tîm.

Os ydych am enwebu, mae gennych tan Ddydd Gwener yma (17 Medi) i gysylltu â ni a sicrhau bod eich dewis chi o fusnes yn cael ei gydnabod ymhlith y sefydliadau mwyaf blaengar yng Nghaerdydd.

Felly, os ydych chi'n gwybod am unrhyw un sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn, mae'n bryd cael eich cynigion i mewn. Ewch i'n gwefan i gyflwyno eich cynigion,www.cardiffbusinessawards.com