10/09/21
Bydd gwaith i ymestyn beicffordd allweddol yng Nghaerdydd, a fydd yn rhedeg o Cathays i Ysbyty'r Waun, yn dechrau ddydd Llun, 13 Medi.
Bydd Beicffordd 1 yn cael ei hymestyn o Gilgant Eglwys Andreas a Heol Senghennydd ac ar hyd Teras Cathays yn ail gam y gwaith o ddarparu beicffordd strategol ar un o brif lwybrau cymudo'r ddinas.
Bydd y llwybr yn cysylltu rhai o'r ardaloedd mwyaf poblog yng Nghymru â chanol y ddinas a rhai o gyrchfannau prysuraf y ddinas, Prifysgol Caerdydd, Theatr y Sherman, gorsaf drenau Cathays a safle Ysbyty Athrofaol Cymru a sawl ardal siopa. Mae'r llwybr hefyd yn mynd heibio sawl ysgol gynradd a llyfrgell gyhoeddus.
Bydd gwaith galluogi yn dechrau ar Deras Cathays ddydd Llun, 13 Medi, a bydd yn parhau drwy hydref 2022. Pan fydd wedi'i chwblhau, bydd y feicffordd ar wahân, ddwyffordd, yn ymestyn y llwybr presennol ar Gilgant Eglwys Andreas a Heol Senghennydd hyd at Ysbyty Athrofaol Cymru, drwy Heol yr Eglwys Newydd, Heol Allensbank a Rhodfa'r Brenin Siôr V.
Mae'r gwaith cynllunedig yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus gyda phreswylwyr. Mae cynghorwyr lleol a thrigolion sy'n byw yn Nheras Cathays wedi cael gwybod am y trefniadau a bydd mannau parcio eraill ar gael i ddeiliaid trwyddedau ar strydoedd cyfagos tra bo'r gwaith yn mynd rhagddo.
Yn ogystal â'r feicffordd ddwyffordd, bydd y cynllun hwn yn cyflwyno amrywiaeth o welliannau i dir y cyhoedd gan gynnwys:
- Gosod draeniau cynaliadwy newydd (SuDs) gan ddefnyddio gerddi glaw a phyllau coed;
- Gwell cyfleusterau i gerddwyr - gan ddefnyddio llwybrau troed parhaus ar draws ffyrdd ochr, gyda gwell croesfannau twcan a sebra;
- Gosod bwrdd arafu a rhwystrau ymwthiol ar gyffordd Clodien Avenue a Soberton Avenue
- Trefniadau parcio newydd i wella trefniadau parcio i breswylwyr, cyfyngu ar barcio gan gymudwyr, cynyddu opsiynau parcio arhosiad byr; a,
- Rhoi wyneb newydd y bob ffordd gerbydau a llwybrau troed ar hyd y llwybr.
Mae Beicffordd 1 yn un o bum beicffordd strategol a fydd yn cael eu hadeiladu yng Nghaerdydd. Bydd dolen yn cael ei gosod yng nghanol y ddinas ynghyd â beicffyrdd iLaneirwg, Bae Caerdydd, Trelái, Caerau a datblygiadau newydd yng ngogledd orllewin Caerdydd.
I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygu beicffyrdd yng Nghaerdydd, ewch i:https://keepingcardiffmoving.co.uk/cy/prosiect/beciffordd-1-2/