Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: gwaith ffordd gyda'r hwyr yn dechrau ar Stryd y Castell; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg.
Gwaith Ffordd Gyda'r Hwyr yn dechrau ar Stryd y Castell
Bydd gwaith ffordd yn dechrau ar Stryd y Castell nos Sul - 5 Medi - gyda'r nod o ailagor y ffordd i draffig cyffredinol erbyn diwedd mis Hydref.
Er y bydd y gwaith dan sylw yn mynd rhagddo drwy gydol y nos, bydd Stryd y Castell yn parhau ar agor i dacsis a bysiau i deithio un ffordd, o Heol y Bont-faen a Heol y Porth i Heol y Gogledd. Bydd y gwaith ond yn mynd rhagddo rhwng 8pm a 6am ac felly yn ystod y dydd bydd Stryd y Castell yn parhau ar agor i fysiau a thacsis i'r ddau gyfeiriad.
Bydd y llwybr i ganol y ddinas o Boulevard de Nantes, i'r de i Heol y Gogledd, tuag at Stryd y Castell, ar gau i bob traffig, ac eithrio'r gwasanaethau brys, a fydd yn gallu teithio i'r ddau gyfeiriad. Tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo, bydd ein contractwr ar y safle yn rheoli pob danfoniad i siopau a busnesau.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y dramwyfa, penderfynodd Cabinet Cyngor Caerdydd ym mis Mehefin eleni i ailagor y stryd dros dro i draffig tra bod mwy o ddata'n cael ei gasglu ar lifoedd traffig ar ôl y pandemig a lefelau llygredd aer yng nghanol y ddinas.
Fodd bynnag, bydd y cynllun dros dro yn dal i leihau faint o draffig cyffredinol sy'n gallu defnyddio Stryd y Castell yn sylweddol o'i gymharu â'r cyfnod cyn covid, gan leihau nifer y lonydd sydd ar gael o dair i ddwy.
Cymeradwywyd y cynllun hwn yn y lle cyntaf gan banel arbenigol annibynnol Llywodraeth Cymru a'i gymeradwyo gan Weinidogion fel rhan o Gynllun Aer Glân wedi'i rwymo mewn cyfraith ar gyfer canol y ddinas a gymeradwywyd ym mis Rhagfyr 2019 cyn dyfodiad y pandemig.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27420.html
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (27 Awst - 02 Medi)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
06 Medi 2021, 09:00
Achosion: 1,430
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 389.7 (Cymru: 468.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 9,446
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,574.5
Cyfran bositif: 15.1% (Cymru: 18.9% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 27 Awst
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 703,059 (Dos 1: 367,717 Dos 2: 335,342)
- 80 a throsodd: 20,637 / 94.6% (Dos 1) 20,282 / 93% (Dos 2)
- 75-79: 15,074 / 96.3% (Dos 1) 14,869 / 95% (Dos 2)
- 70-74: 21,456 / 95.7% (Dos 1) 21,312 / 95% (Dos 2)
- 65-69: 21,960 / 94.2% (Dos 1) 21,666 / 92.9% (Dos 2)
- 60-64: 26,021 / 92.3% (Dos 1) 25,650 / 91% (Dos 2)
- 55-59: 29,341 / 90.2% (Dos 1) 28,764 / 88.4% (Dos 2)
- 50-54: 28,996 / 87.8% (Dos 1) 28,242 / 85.5% (Dos 2)
- 40-49: 55,161 / 81.4% (Dos 1) 52,824 / 78% (Dos 2)
- 30-39: 60,050 / 74.9% (Dos 1) 54,145 / 68.8% (Dos 2)
- 18-29: 78,708 / 75.9% (Dos 1) 67,537 / 65.1% (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 1,876 / 98.5% (Dos 1) 1,852 / 97.3% (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 11,305 / 93.3% (Dos 1) 11,064 / 91.3% (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,186 / 89.8% (Dos 1) 44,357 / 86.3% (Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser