The essential journalist news source
Back
27.
August
2021.
Tanio fflyd gyntaf erioed o e-feiciau yng Nghaerdydd

27/08/21 

Cafodd hanner cant o feiciau trydan eu cyflwyno i strydoedd Caerdydd yr wythnos hon wrth i gynllun Beiciau OVO y ddinas, sy'n cael ei weithredu gan nextbike, ddod yn fwy hygyrch nag erioed. 

Lansiwyd y fflyd o 50 o e-feiciau OVO a chwe gorsaf drydan heddiw (26 Awst), wrth i'r cyhoedd weld y Beiciau OVO ar waith am y tro cyntaf yn y ddinas.  Bydd 75 o e-feiciau a naw gorsaf arall yn cael eu cyflwyno'n ddiweddarach, gan greu fflyd o 125 o e-feiciau.

Mae'r lansiad yn golygu y bydd beicwyr yn gallu defnyddio e-feic OVO i feicio rhwng Caerdydd a Bro Morgannwg, gan fod y cynlluniau wedi'u cysylltu am y tro cyntaf - sydd wedi bod yn uchelgais ers tro ar gyfer nextbike, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg.

Lansiwyd fflyd o 50 o e-feiciau ym Mhenarth y llynedd, ac mae wedi bod yn hynod boblogaidd gyda'r cyhoedd.

Mae e-feic yn gyfuniad o feic confensiynol a modur sy'n golygu bod angen ymdrechu llai i bedlo.  Gyda chyflymder uchaf o 25km yr awr, gall yr e-feiciau deithio'n bellach ynghynt a gyda llai o ymdrech. 

Roedd yr e-feiciau OVO, a fydd yn ymuno â fflyd bresennol Caerdydd o 1,000 o feiciau OVO arferol, yn bosibl diolch i gyllid gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Cafodd y cyflenwr pŵer gwyrddOVO Energyei gyhoeddi fel noddwr teitl newydd cynllun beicio'r ddinas yn gynharach y mis hwn (Awst) yn ogystal â'r cynllun yn Glasgow.

Mae dinasyddion Caerdydd wedi gwneud mwy nag 1.1 miliwno siwrneiau ar feiciau rhent ers i nextbike gael ei lansio yn y ddinas yn 2018, gan feicio pellter anhygoel o 3.7 miliwn km o amgylch y ddinas - sy'n cyfateb i feicio i'r lleuad ac yn ôl bron i 5 gwaith.

Bydd rhentu e-feic yn costio £1 am 30 munud i gwsmeriaid sydd ag aelodaeth fisol neu flynyddol neu £2 am 30 munud ar sail talu wrth ddefnyddio.  Rhaid dychwelyd e-feiciau i orsafoedd e-feiciau neu bydd dirwyon ychwanegol yn cael eu rhoi.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Rwy'n falch iawn o weld OVO Energy yn ymuno fel partner allweddol, a nextbike yn ychwanegu e-feiciau at y fflyd. Mae hyn yn gadarnhad pellach bod Caerdydd yn ddinas feicio, a'r awydd mawr sydd ymhlith trigolion, cymudwyr ac ymwelwyr i deithio ar feic yn y brifddinas.

"Fel Cyngor, rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith o roi'r seilwaith cywir yn ei le i alluogi'r rhai sy'n teithio ar feic i wneud hynny'n ddiogel, yn gyfforddus ac yn hyderus, ac i annog hyd yn oed mwy o bobl i fynd i feicio.  Mae ein strategaeth drafnidiaeth 10 mlynedd yn cynnwys cynlluniau'r Cyngor i adeiladu pum prif feicffordd ar draws y ddinas, wedi'u cysylltu â dolen yng nghanol y ddinas o lwybrau beicio o ansawdd uchel, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n wych.

"Drwy wella'r cyfleoedd beicio, yn ogystal â'r cyfleoedd cerdded a thrafnidiaeth gyhoeddus i bawb, gallwn annog mwy a mwy o bobl i adael eu ceir gartref, lleihau tagfeydd, glanhau'r aer rydym yn ei anadlu a'n helpu ni i gyd i fod ychydig yn iachach.

"Mae partneriaeth OVO Energy, buddsoddiad parhaus nextbike yn ei fflyd, a gwaith parhaus Cyngor Caerdydd i adeiladu'r seilwaith beicio sydd ei angen, i gyd yn dangos bod Caerdydd wir yn cyflawni o ran creu'r ddinas trafnidiaeth gynaliadwy sydd mor fawr ei hangen arnon ni a chenedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr nextbike, Krysia Solheim, ei bod yn gyffrous i ddod ag e-feiciau OVO i'r ddinas.

"Mae lansio e-feiciau OVO Caerdydd nid yn unig yn newyddion gwych i'r ddinas, ond hefyd i bawb sy'n defnyddio cynllun e-feiciau Bro Morgannwg hefyd. Mae gallu cysylltu'r ddau gynllun yn golygu y bydd pobl yn gallu teithio'n gynaliadwy rhwng y dref a'r ddinas yn rhwydd.

"Mae e-feiciau nid yn unig yn wych ar gyfer lleihau amser teithio a beicio ar fryniau serth, ond maen nhw hefyd yn ffordd wych o wella cynhwysiant a chyflwyno pobl o bob gallu a lefel ffitrwydd i feicio. 

"Mae Caerdydd yn parhau i fod yn un o'n cynlluniau mwyaf poblogaidd ac rydym yn falch iawn o fod yn cynyddu'r fflyd fel hyn.

"Hoffem ddiolch i'n partneriaid am eu cefnogaeth i wireddu'r uchelgais hwn, gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Cyngor Bro Morgannwg a noddwyr ein cynllun OVO Energy."

I gael gwybod mwy am Feiciau OVO, y Llwybr Gwyrdd ac i lawrlwytho'r map, yn ogystal â chadw llygad am fwy o fentrau Beiciau OVO yn y dyfodol, ewch i:

www.ovoenergy.com/ovo-bikes.