The essential journalist news source
Back
27.
July
2021.
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 27 Gorffennaf

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: pedair noson o gerddoriaeth fyw yng Nghastell Caerdydd i gefnogi canolfannau llawr gwlad; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

Yn Fyw ac yn Rhydd: Pedair noson o gerddoriaeth fyw yng Nghastell Caerdydd i gefnogi canolfannau llawr gwlad

Bydd pedair noson o gerddoriaeth fyw, wedi'u curadu gan ganolfannau cerddoriaeth llawr gwlad Caerdydd, yn cael eu cynnal yng Nghastell Caerdydd dros benwythnos gŵyl y banc ym mis Awst, fel rhan o gynllun gan Gyngor Caerdydd a ddatblygwyd gyda Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, i gefnogi cerddoriaeth fyw a rhoi diwylliant wrth wraidd adferiad y ddinas o Covid-19.

Bydd tair act yn perfformio bob nos, a bydd y canolfannau annibynnol Clwb Ifor Bach, Porters, Fuel a The Moon, yn curadu'r gerddoriaeth, yn gwerthu'r tocynnau, yn cadw'r holl incwm o'r tocynnau, ac yn talu'r cerddorion sy'n cymryd rhan, gan roi cymorth y mae mawr ei angen i ddiwydiant sydd wedi dioddef yn sgil y canllawiau iechyd cyhoeddus llym sydd eu hangen i reoli lledaeniad Covid-19.

Yn dechrau ddydd Gwener 27 Awst, cynhelir noson agoriadol o gerddoriaeth wedi'i rhaglennu gan  Clwb Ifor Bach,  gan gynnwys bandiau lleol Panic Shack, Buzzard Buzzard Buzzard a Bug Club.

Porters   fydd yn gyfrifol am raglen nos Sadwrn, gan gyflwyno Yasmine & the Euphoria, Year of the Dog a mwy.

Fuel  fydd yn cymryd yr awenau nos Sul, gyda rhaglen sy'n cynnwys Those Damn Crows, Cardinal Black, a Scarlet Rebels.  The Moon  fydd yn dod â phenwythnos Gŵyl y Banc i ben ddydd Llun gyda Afro Cluster, a fydd yn dathlu lansiad eu halbwm newydd,The Allergies, Niques, DJ Trishna Jaikara, a Prendy.

Bydd tocynnau a mwy o wybodaeth ar gael ar wefannau neu gyfryngau cymdeithasol y canolfannau unigol o ddydd Mercher 28 Gorffennaf, gan gynnwys manylion y perfformwyr a ychwanegir at y rhai a restrir uchod.

Nod y sesiynau 'Yn Fyw ac yn Rhydd' yw rhoi llwyfan i gerddorion berfformio, a chynnig amgylchedd diogel sy'n ennyn hyder y cyhoedd wrth ddychwelyd i ddigwyddiadau byw ar ôl 17 o fisoedd heriol.

Bydd y digwyddiadau'n cynnig seddi ac ardaloedd sefyll i'r rhai sy'n mynd i'r gigs ddewis ohonynt. Fel amod i gael mynediad, bydd yn ofynnol i bawb sy'n bresennol gyflwyno Prawf Llif Unffordd negyddol (a gymerwyd yn ystod 24 awr flaenorol). Bydd angen cerdyn adnabod gyda llun arno a bydd gwybodaeth tracio ac olrhain hefyd yn ofynnol.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, a Chadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Mae canolfannau cerddoriaeth fyw a cherddorion wedi gorfod delio â heriau enfawr drwy gydol y pandemig. Hyd yn oed yn awr, wrth i gyfyngiadau gael eu llacio, mae rhai heriau'n parhau, ond ein gobaith yw y gallwn, drwy gynnal y gyfres hon o ddigwyddiadau yn y Castell, gefnogi'r diwydiant a'r bobl sy'n gweithio ynddo, ac yn bwysig, dod â rhywfaint o lawenydd yn ôl i'r ddinas."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon, y Cynghorydd Peter Bradbury:  "Rydym wedi bod yn aros yn hir am ailgychwyn cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd.  Cyn y pandemig, gwnaethom osod uchelgais beiddgar i Gaerdydd ddod yn Ddinas Gerdd a gydnabyddir yn rhyngwladol.  Nawr yw'r amser i ailgydio a dechrau'r gwaith caled o wireddu'r uchelgais hwnnw."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27150.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (16 Gorffennaf - 22 Gorffennaf)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

26 Gorffennaf 2021, 09:00

 

Achosion: 564

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 153.7 (Cymru: 164.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,181

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,412.1

Cyfran bositif: 10.9% (Cymru: 11.0% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 27 Gorffennaf

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  680,456  (Dos 1: 356,653 Dos 2:  323,803)

 

  • 80 a throsodd: 20,800 / 94.5% (Dos 1) 20,399 / 92.7% (Dos 2)
  • 75-79: 15,093 / 96.2% (Dos 1) 14,867 / 94.8% (Dos 2)
  • 70-74: 21,472 / 95.6% (Dos 1) 21,284 / 94.7% (Dos 2)
  • 65-69: 21,943 / 94% (Dos 1) 21,609 / 92.6% (Dos 2)
  • 60-64: 26,006 / 92.1% (Dos 1) 25,560 / 90.5% (Dos 2)
  • 55-59: 29,303 / 90% (Dos 1) 28,622 / 87.9% (Dos 2)
  • 50-54: 28,897 / 87.5% (Dos 1) 27,995 / 84.8% (Dos 2)
  • 40-49: 54,722 / 80.8% (Dos 1) 51,888 / 76.6% (Dos 2)
  • 30-39: 58,993 / 73.8% (Dos 1) 52,479 / 65.6% (Dos 2)
  • 18-29: 76,641 / 74.4% (Dos 1) 59,523 / 57.8% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,926 / 98.5% (Dos 1) 1,897 / 97% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,312 / 93.9% (Dos 1) 11,046 / 91.7% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,986 / 89.4% (Dos 1) 43,798 / 85.1% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser