The essential journalist news source
Back
26.
July
2021.
Yn Fyw ac yn Rhydd: Pedair noson o gerddoriaeth fyw yng Nghastell Caerdydd i gefnogi canolfannau llawr gwlad

26/07/21

Bydd pedair noson o gerddoriaeth fyw, wedi'u curadu gan ganolfannau cerddoriaeth llawr gwlad Caerdydd, yn cael eu cynnal yng Nghastell Caerdydd dros benwythnos gŵyl y banc ym mis Awst, fel rhan o gynllun gan Gyngor Caerdydd a ddatblygwyd gyda Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, i gefnogi cerddoriaeth fyw a rhoi diwylliant wrth wraidd adferiad y ddinas o Covid-19.

Bydd tair act yn perfformio bob nos, a bydd y canolfannau annibynnol Clwb Ifor Bach, Porters, Fuel a The Moon, yn curadu'r gerddoriaeth, yn gwerthu'r tocynnau, yn cadw'r holl incwm o'r tocynnau, ac yn talu'r cerddorion sy'n cymryd rhan, gan roi cymorth y mae mawr ei angen i ddiwydiant sydd wedi dioddef yn sgil y canllawiau iechyd cyhoeddus llym sydd eu hangen i reoli lledaeniad Covid-19.

Panic Shack

Yn dechrau ddydd Gwener 27 Awst, cynhelir noson agoriadol o gerddoriaeth wedi'i rhaglennu gan  Clwb Ifor Bach, gan gynnwys bandiau lleol Panic Shack, Buzzard Buzzard Buzzard a Bug Club.

Porters  fydd yn gyfrifol am raglen nos Sadwrn, gan gyflwyno Yasmine & the Euphoria, Year of the Dog a mwy.

Fuel  fydd yn cymryd yr awenau nos Sul, gyda rhaglen sy'n cynnwys Those Damn Crows, Cardinal Black, a Scarlet Rebels.The Moon  fydd yn dod â phenwythnos Gŵyl y Banc i ben ddydd Llun gyda Afro Cluster, a fydd yn dathlu lansiad eu halbwm newydd,The Allergies, Niques, DJ Trishna Jaikara, a Prendy.

Bydd tocynnau a mwy o wybodaeth ar gael ar wefannau neu gyfryngau cymdeithasol y canolfannau unigol o ddydd Mercher 28 Gorffennaf, gan gynnwys manylion y perfformwyr a ychwanegir at y rhai a restrir uchod.

Nod y sesiynau 'Yn Fyw ac yn Rhydd' yw rhoi llwyfan i gerddorion berfformio, a chynnig amgylchedd diogel sy'n ennyn hyder y cyhoedd wrth ddychwelyd i ddigwyddiadau byw ar ôl 17 o fisoedd heriol.

Bydd y digwyddiadau'n cynnig seddi ac ardaloedd sefyll i'r rhai sy'n mynd i'r gigs ddewis ohonynt. Fel amod i gael mynediad, bydd yn ofynnol i bawb sy'n bresennol gyflwyno Prawf Llif Unffordd negyddol (a gymerwyd yn ystod 24 awr flaenorol). Bydd angen cerdyn adnabod gyda llun arno a bydd gwybodaeth tracio ac olrhain hefyd yn ofynnol.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, a Chadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Mae canolfannau cerddoriaeth fyw a cherddorion wedi gorfod delio â heriau enfawr drwy gydol y pandemig. Hyd yn oed yn awr, wrth i gyfyngiadau gael eu llacio, mae rhai heriau'n parhau, ond ein gobaith yw y gallwn, drwy gynnal y gyfres hon o ddigwyddiadau yn y Castell, gefnogi'r diwydiant a'r bobl sy'n gweithio ynddo, ac yn bwysig, dod â rhywfaint o lawenydd yn ôl i'r ddinas. 

"Mae'r 17 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod pan fo cerddoriaeth efallai wedi bod ei hangen yn fwy nag erioed, felly mae wedi bod yn arbennig o ingol peidio â gallu gweld cerddoriaeth yn cael ei pherfformio'n fyw yn gyhoeddus. Rwyf wedi dweud o'r blaen fod cerddoriaeth yn gyfleustod cenedlaethol i'r enaid sy'n gofyn am fuddsoddiad, ond mae'n fwy na hynny, mae'n un o'r pethau sy'n gwneud bywyd yn werth ei fyw.

"Rydyn ni eisiau i gerddoriaeth a diwylliant fod wrth wraidd adferiad Caerdydd o Covid-19 ac rwy'n falch iawn y gallwn nawr ddechrau gwneud i hynny ddigwydd, gyda phedair noson o gerddoriaeth fyw yn dathlu talent ac amrywiaeth sin gerddoriaeth Caerdydd."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon, y Cynghorydd Peter Bradbury:  "Rydym wedi bod yn aros yn hir am ailgychwyn cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd.  Cyn y pandemig, gwnaethom osod uchelgais beiddgar i Gaerdydd ddod yn Ddinas Gerdd a gydnabyddir yn rhyngwladol.  Nawr yw'r amser i ailgydio a dechrau'r gwaith caled o wireddu'r uchelgais hwnnw."

Mae'r rhaglen lawn yn adlewyrchu'r ystod amrywiol o gerddoriaeth gyffrous sy'n cael ei gwneud a'i pherfformio yn y ddinas, gyda'r nod o ailgynnau cariad at gerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd.

Dywedodd Guto Brychan, Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach:  "Rydym wrth ei bodd i gael y cyfle i lwyfannu'r noson fel rhan o'r sesiynau Yn Fyw ac yn Rhydd yng Nghastell Caerdydd. Mae wedi bod yn 17 o fisoedd hir ers i ni gynnal digwyddiad byw ddiwethaf a bydd y cyfle i hyrwyddo bandiau gwych o flaen cynulleidfa mewn lleoliad mor eiconig yn anhygoel."