The essential journalist news source
Back
26.
July
2021.
#DyfodolCadarnhaolCDYDD - Ysgol Gynradd Herbert Thompson yn cael gwobr am roi iechyd meddwl a lles plant wrth wraidd yr

26.07.2021

 

 

Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Herbert Thompson, a anrhydeddwyd gyda Gwobr Ysgol Ragoriaeth Thrive.

 

Mae'r wobr hon yn cydnabod ysgolion eithriadol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu dysgwyr a'r gymuned ehangach drwy roi lles emosiynol yn uchel ar yr agenda. 

 

Bu ffocws ar flaenoriaethu iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc drwy gydol y pandemig ac mae Herbert Thompson yncreu amgylchedd lle mae iechyd a lles emosiynol plant yn ffynnu. 

 

Dywedodd Joanna Dunne, athro babanod ac iau ac Arweinydd Thrive:

 

"Mae'r ysgol wedi mabwysiadu strategaethau Thrive penodol fel rhan o ymarfer bob dydd. Cyflwynwyd y rhain yn ystod wythnos ‘5 to Thrive', lle cyflwynwyd strategaeth newydd bob dydd am wythnos.

 

Un o'r strategaethau hyn fu cyfarch pob plentyn wrth iddo ddod i'r dosbarth, gan gynnig ysgwyd llaw neu gyfarchiad tebyg a galluogi'r disgyblion i ddatblygu eu dewis ffordd eu hunain o ddweud helo. Mae hyn wedi rhoi cyfleoedd ychwanegol ar gyfer cyswllt llygaid a rhyngweithio anffurfiol rhwng athrawon a disgyblion, gan helpu i ddyfnhau'r cysylltiad rhyngddynt. Mae'r plant bellach yn siantio mantra dyddiol sy'n cynnwys datganiadau cadarnhaol ee 'Dwi'n gryf, Dwi'n cael fy ngharu.' 

 

Yn fwy diweddar, rydym wedi sefydlu ein 'hyb lles' sydd â'r enw 'Y Cwtsh'. Mae plant yn mynychu am ystod o resymau o hunan-barch isel, y rheiny sydd wedi profi colled sylweddol a/neu drawma i'r rheiny sydd wedi bod mewn perygl o gael eu gwahardd neu eu gwahardd yn barhaol. Mae disgyblion yn Y Cwtsh yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau lles a therapiwtig, y mae llawer ohonynt yn seiliedig ar eu cynllun Gweithredu Thrive, gan eu galluogi i deimlo'n ddiogel ac yn arbennig ac i ddatblygu eu gallu i hunanreoleiddio.

 

Mae'r effaith y mae'r ddarpariaeth hon wedi'i chael ar ein plant, y rhieni, yr ysgol a'r gymuned ehangach wedi bod yn sylweddol gadarnhaol. Y mesur mwyaf perthnasol o lwyddiant i ni yw pan fydd plant yn gwenu ac yn gofyn 'beth fyddwn ni'n ei wneud yfory?' ac yn gallu hunanreoleiddio eu hemosiynau yn ystod cyfnod heriol."

 

️ Gall pobl ifanc gael gafael ar ystod o gymorth a chyngor o gymwysterau i iechyd meddwl, drwy fynd i un o'r gwefannau canlynol:

 

👉https://hwb.gov.wales/parthau/cadwn-ddiogel-ar-lein/gwasanaethau-cymorth/cymorth-cyfrinachol

 

👉https://www.cbac.co.uk/home/cefnogi-athrawon-a-dysgwyr-coronafeirws/eich-lles/

 

👉https://www.mind.org.uk/information-support/for-children-and-young-people

 

👉http://www.cardiffyouthservices.wales/cy/

 

👉www.caerdydd.gov.uk/bethnesaf

Rydym yn rhannu straeon ein plant a'n pobl ifanc bob wythnos ar Ystafell Newyddion Caerdydd a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol - chwiliwch#DyfodolCadarnhaolCDYDD #CDYDDsynDdaiBlant

 

Gobeithio y bydd y straeon hyn yn ddefnyddiol ac ysbrydoledig i chi.