The essential journalist news source
Back
21.
July
2021.
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 21 Gorffennaf

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a cymorth i denantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (10 Gorffennaf - 16 Gorffennaf)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

20 Gorffennaf 2021, 09:00

 

Achosion: 706

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 192.4 (Cymru: 190.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 6,664

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,816.3

Cyfran bositif: 10.6% (Cymru: 10.6% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 21 Gorffennaf

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  669,009 (Dos 1: 355,763 Dos 2:  313,246)

 

  • 80 a throsodd: 20,857 / 94.5% (Dos 1) 20,435 / 92.6% (Dos 2)
  • 75-79: 15,096 / 96.2% (Dos 1) 14,862 / 94.7% (Dos 2)
  • 70-74: 21,475 / 95.6% (Dos 1) 21,274 / 94.7% (Dos 2)
  • 65-69: 21,945 / 94% (Dos 1) 21,588 / 92.5% (Dos 2)
  • 60-64: 26,007 / 92.1% (Dos 1) 25,542 / 90.4% (Dos 2)
  • 55-59: 29,289 / 89.9% (Dos 1) 28,573 / 87.7% (Dos 2)
  • 50-54: 28,892 / 87.5% (Dos 1) 27,923 / 84.5% (Dos 2)
  • 40-49: 54,647 / 80.7% (Dos 1) 51,484 / 76% (Dos 2)
  • 30-39: 58,789 / 73.5% (Dos 1) 50,318 / 62.9% (Dos 2)
  • 18-29: 76,226 / 74% (Dos 1) 51,624 / 50.1% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,939 / 98.5% (Dos 1) 1,906 / 96.7% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,332 / 93.8% (Dos 1) 11,050/ 91.5% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,945 / 89.3% (Dos 1) 43,587 / 84.7% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Cymorth i denantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent

Mae cymorth ymarferol ar gael gan y Cyngor i aelwydydd sydd wedi cael trafferth talu eu rhent ac sy'n poeni am golli eu cartref oherwydd ôl-ddyledion rhent cronnol.

Mae cymorth ar gael i bob tenant sy'n cael trafferth talu ei rent, p'un a yw'n cael budd-daliadau ai peidio, gan gynnwys tenantiaid Cymdeithasau Tai, tenantiaid y Cyngor a'r rheini sy'n rhentu gan landlord preifat. 

Cynghorir tenantiaid sy'n profi caledi ac anawsterau yn ystod y pandemig i gysylltu â'r Cyngor ar frys i gael gwybod am y ffyrdd amrywiol y gall yr awdurdod eu helpu a'u cefnogi.

Mae help ar gael drwy ffonio'r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu drwy e-bostio  cymorthrhent@caerdydd.gov.uk

Mae'r timau Dewisiadau Tai a Chynghori wedi gweithio gyda'i gilydd i greu pecyn cynhwysfawr i'r rheini sydd wedi cronni ôl-ddyledion rhent neu sy'n ei chael hi'n anodd talu eu hymrwymiadau rhent parhaus.

Bydd aelwydydd ag ôl-ddyledion rhent yn gallu gwneud cais am gymorth ymarferol i leihau eu hôl-ddyledion, yn ogystal â chael cyngor ar wasanaethau'r Cyngor a all helpu i fynd i'r afael â'u pwysau ariannol, fel rheoli arian a chyngor ar ddyledion, gwybodaeth am fudd-daliadau, grantiau a disgowntiau y gallant fod yn gymwys i'w cael, cyfeirio at gymorth gwaith a hyfforddiant a mwy.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "I lawer o aelwydydd yn y ddinas, y pecyn achub rhent newydd yw'r peth a fydd yn eu helpu i beidio â cholli eu cartrefi. Yn amlwg, mae unigolion a theuluoedd sydd ag ôl-ddyledion rhent oherwydd y pandemig eisoes wedi cael anawsterau mawr felly

rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw pobl yn eu cartrefi ac i atal hyd yn oed mwy o alw am wasanaethau digartrefedd, sydd eisoes dan bwysau sylweddol.

"Rydym yn gwybod bod yna aelwydydd yn y ddinas nad ydynt erioed wedi bod ar ei hôl hi gyda'u rhent o'r blaen nac wedi ystyried ceisio help bellach mewn ôl-ddyledion oherwydd yr argyfwng. Mae'r cyfnod hwn yn parhau'n un anodd, ond rydym yma i'ch helpu. Nid dim ond i gwsmeriaid sy'n cael budd-daliadau y mae ein help, rydym yma i bawb."

Read more here:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27094.html