The essential journalist news source
Back
20.
July
2021.
Cymorth i denantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent

20/07/21

Mae cymorth ymarferol ar gael gan y Cyngor i aelwydydd sydd wedi cael trafferth talu eu rhent ac sy'n poeni am golli eu cartref oherwydd ôl-ddyledion rhent cronnol.

Mae cymorth ar gael i bob tenant sy'n cael trafferth talu ei rent, p'un a yw'n cael budd-daliadau ai peidio, gan gynnwys tenantiaid Cymdeithasau Tai, tenantiaid y Cyngor a'r rheini sy'n rhentu gan landlord preifat. 

Cynghorir tenantiaid sy'n profi caledi ac anawsterau yn ystod y pandemig i gysylltu â'r Cyngor ar frys i gael gwybod am y ffyrdd amrywiol y gall yr awdurdod eu helpu a'u cefnogi.

Mae help ar gael drwy ffonio'r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu drwy e-bostiocymorthrhent@caerdydd.gov.uk

Mae'r timau Dewisiadau Tai a Chynghori wedi gweithio gyda'i gilydd i greu pecyn cynhwysfawr i'r rheini sydd wedi cronni ôl-ddyledion rhent neu sy'n ei chael hi'n anodd talu eu hymrwymiadau rhent parhaus.

Bydd aelwydydd ag ôl-ddyledion rhent yn gallu gwneud cais am gymorth ymarferol i leihau eu hôl-ddyledion, yn ogystal â chael cyngor ar wasanaethau'r Cyngor a all helpu i fynd i'r afael â'u pwysau ariannol, fel rheoli arian a chyngor ar ddyledion, gwybodaeth am fudd-daliadau, grantiau a disgowntiau y gallant fod yn gymwys i'w cael, cyfeirio at gymorth gwaith a hyfforddiant a mwy.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "I lawer o aelwydydd yn y ddinas, y pecyn achub rhent newydd yw'r peth a fydd yn eu helpu i beidio â cholli eu cartrefi. Yn amlwg, mae unigolion a theuluoedd sydd ag ôl-ddyledion rhent oherwydd y pandemig eisoes wedi cael anawsterau mawr felly rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw pobl yn eu cartrefi ac i atal hyd yn oed mwy o alw am wasanaethau digartrefedd, sydd eisoes dan bwysau sylweddol.

"Rydym yn gwybod bod yna aelwydydd yn y ddinas nad ydynt erioed wedi bod ar ei hôl hi gyda'u rhent o'r blaen nac wedi ystyried ceisio help bellach mewn ôl-ddyledion oherwydd yr argyfwng. Mae'r cyfnod hwn yn parhau'n un anodd, ond rydym yma i'ch helpu. Nid dim ond i gwsmeriaid sy'n cael budd-daliadau y mae ein help, rydym yma i bawb.

"Ond mae angen i unrhyw un sydd angen ein help gysylltu ar frys. Ni fydd modd cael yr arian sydd ar gael am byth a pho hiraf y gadewir i ôl-ddyledion gronni, y gwaethaf fydd y sefyllfa i denantiaid. Ni dim ond help dros dro fydd yr help y byddwn yn ei roi - gall gwasanaethau edrych ar gynaliadwyedd hirdymor tenantiaethau, pryderon ariannol a chyfeirio cwsmeriaid at wasanaethau eraill rydym yn eu darparu, fel y Gwasanaeth i Mewn i Waith, neu at gyfleoedd dysgu a all eu rhoi ar y trywydd iawn i'r dyfodol." 

Mae'r Cyngor hefyd yn awyddus i glywed gan landlordiaid tenantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent. Mae gwasanaethau'r Cyngor yn gweithio gyda pherchnogion eiddo rhent preifat i gynnal ymyriadau i gadw tenantiaethau. Gall landlordiaid ffonio 029 2057 0750 neu e-bostioTimSectorRhentPreifat@caerdydd.gov.uk

Dylai tenantiaid sydd angen help ffonio'r Llinell Gynghori ar 029 2087 1071 neu e-bostiocymorthrhent@caerdydd.gov.uk