Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; dweud eich dweud ar gampws addysgol arloesol yn y Tyllgoed; ac ysgolion y mae achosion COVID-19 yn effeithio arnynt.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (08 Gorffennaf - 14 Gorffennaf)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
18 Gorffennaf 2021, 09:00
Achosion: 692
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 188.6 (Cymru: 177.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 6,836
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,863.2
Cyfran bositif: 10.1% (Cymru: 9.7% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 19 Gorffennaf
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 665,002 (Dos 1: 355,452 Dos 2: 309,550)
- 80 a throsodd: 20,867 / 94.5% (Dos 1) 20,443 / 92.6% (Dos 2)
- 75-79: 15,098 / 96.2% (Dos 1) 14,855 / 94.6% (Dos 2)
- 70-74: 21,478 / 95.5% (Dos 1) 21,274 / 94.6% (Dos 2)
- 65-69: 21,944 / 94% (Dos 1) 21,580 / 92.5% (Dos 2)
- 60-64: 26,006 / 92.1% (Dos 1) 25,532 / 90.4% (Dos 2)
- 55-59: 29,287 / 89.9% (Dos 1) 28,560 / 87.7% (Dos 2)
- 50-54: 28,889 / 87.5% (Dos 1) 27,891 / 84.4% (Dos 2)
- 40-49: 54,611 / 80.6% (Dos 1) 51,339 / 75.8% (Dos 2)
- 30-39: 58,708 / 73.5% (Dos 1) 49,406 / 61.8% (Dos 2)
- 18-29: 76,080 / 73.9% (Dos 1) 48,926 / 47.5% (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 1,940 / 98.5% (Dos 1) 1,905 / 96.7% (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 11,333 / 93.8% (Dos 1) 11,048 / 91.5% (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,951 / 89.3% (Dos 1) 43,540 / 84.6% (Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Dweud eich dweud ar gampws addysgol arloesol yn y Tyllgoed
Mae cynigion ar y gweill i ddarparu adeiladau ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands ar safle a rennir yn y Tyllgoed ac rydym yn gofyn i aelodau o'r cyhoedd rannu eu barn ar ddyfodol y campws addysgol ar y cyd.
Bydd y broses ymgysylltu yn rhoi cyfle i bobl rannu eu syniadau am y manteision a'r cyfleoedd a gyflwynir gan y campws newydd a chaiff y sylwadau eu hystyried wrth ddatblygu ei weledigaeth a'r modd y bydd yr ysgolion yn gweithio orau dros y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Bydd yr arolwg hefyd yn gofyn wrth rieni beth ddylid ei addysgu a sut y dylid ei gyflwyno yn unol â chwricwlwm newydd i Gymru sydd i'w gyflwyno yn 2022/23.
Mae'r cynigion, a gyflawnir dan Raglen Fuddsoddi Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Caerdydd, yn cynnwys:
- Codi adeiladau ysgol newydd i Ysgol Uwchradd Cantonian yn lle'r rhai presennol ar yr un safle gan ehangu'r ysgol o chwe dosbarth mynediad i wyth dosbarth mynediad gyda darpariaeth chweched dosbarth i hyd at 250 o ddisgyblion;
- Ymestyn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) i ddysgwyr sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig (CSA), sydd a'i gartref yn Ysgol Uwchradd Cantonian i 30 lle mewn gofod pwrpasol yn adeiladau newydd yr ysgol;
- Adleoli Ysgol Arbennig Woodlands i gampws y Tyllgoed o'i safle presennol gerllaw Parc Trelái a chynyddu'r capasiti o 140 i 240 lle mewn adeilad newydd;
- Adleoli Ysgol Riverbank i gampws y Tyllgoed o'i safle presennol gerllaw Parc Trelái a chynyddu'r capasiti o 70 i 112 lle mewn adeilad newydd.
Dwedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Campws y Tyllgoed yn brosiect uchelgeisiol ac unigryw a fydd yn dwyn ynghyd dair ysgol wahanol iawn, pob un â'u hunaniaeth eu hunain, ar un campws.
"Y cyntaf o'i fath i Gaerdydd a thu hwnt, bydd y campws yn un o'r sefydliadau addysgol mwyaf datblygedig yn y Deyrnas Gyfunol, gan ddarparu cyfuniad penodol o ddysgu a fydd yn caniatáu i bob ysgol rannu cyfleusterau, arbenigedd a chyfleoedd addysgu a darparu profiad eithriadol i fyfyrwyr, staff a'r gymuned."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27084.html
Diweddariad am ysgolion y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt
Ysgol Gynradd Esgob Childs
Mae achos positif wedi'i gadarnhau ynYsgol Gynradd Esgob Childs.Mae 33 o ddisgyblion a un aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Uwchradd Caerdydd
Mae achos positif wedi'i gadarnhau ynYsgol Uwchradd Caerdydd. Mae 68 disgybl wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Gynradd Coryton
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau ynYsgol Gynradd Coryton. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 45 o ddisgyblion i hunanynysu.
Ysgol y Wern
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol y Wern. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 57 o ddisgyblion a dau aelod o staff i hunanynysu.