The essential journalist news source
Back
9.
July
2021.
Datgelu cynlluniau i wneud gwasanaethau bysiau Caerdydd yn fwy deniadol a fforddiadwy

09/07/21

Mae Caerdydd am ddyblu nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau yn y ddinas fel rhan o'i chynlluniau i leihau tagfeydd a gwella ansawdd aer ar draws y ddinas.

 

Mae cyngor y ddinas wedi llunio strategaeth naw pwynt a gynlluniwyd i wneud bysiau'n opsiwn mwy deniadol a fforddiadwy i deithwyr gan gynnwys:

 

  • Cyflwyno prisiau rhatach;
  • Gweithio gyda Thrafnidiaeth dros Gymru i ddatblyusystem docynnau integredig sy'n gweithio gyda'r Metro; 
  • Cael mwy o fysiau allyriadau isel ar y ffordd;
  • Adeiladu seilwaith a fydd yn gwneud teithio ar fysiau yn haws ac yn gynt; a
  • Creu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid.

Bydd Cabinet y cyngor yn ystyried y strategaeth fysiau Ddydd Iau, 15 Gorffennaf. Os caiff ei gymeradwyo, bydd pecyn gwybodaeth i'r cyhoedd yn cael ei baratoi a bydd ymgynghoriad â'r cyhoedd, partneriaid a rhanddeiliaid yn dechrau.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn dibynnu ar fysiau i gyrraedd eu gwaith a symud o amgylch y ddinas fel rhan o batrwm eu diwrnod, os gallwn wneud y teithiau hyn yn gyflymach, yn fwy cyfforddus, yn rhatach ac yn fwy dibynadwy, bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl. 

 

"Rwy'n credu y bydd argyhoeddi'r cyhoedd i fynd allan o'u ceir ac i fynd ar fws, cerdded neu fynd ar feic i'r gwaith yn dod yn fwyfwy pwysig i ni i gyd wrth i ni wynebu'r argyfwng hinsawdd a chydnabod bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â thagfeydd a llygredd aer yn ein dinasoedd.

 

"Os ydyn ni am wneud hynny yna rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i wasanaethau bysiau wella. Mae angen i bobl wybod bod bysiau'n fforddiadwy, yn lân, yn wyrdd, yn gyfforddus ac yn gallu eu cludo i'r man lle mae angen iddynt fod yn hawdd ac yn effeithiol. Rhaid iddo fod yn ddi-drafferth a rhaid iddo fod yn wasanaeth o safon. Dyna pam rydym wedi llunio strategaeth naw pwynt gyda syniadau i drawsnewid teithio ar fysiau yn y ddinas ac mae'n strategaeth y credwn all ddechrau symud pobl allan o'u ceir ac ar i drafnidiaeth gyhoeddus, gan helpu i wella'r amgylchedd i bawb."

 

Mae'r cyngor wedi gosod ei strategaeth drafnidiaeth ar gyfer y 10 mlynedd nesaf ger bron ac mae ei Bapur Gwyn ar Drafnidiaeth yn nodi nifer o gynlluniau i wella trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith teithio llesol nid yn unig ar draws y ddinas ond hefyd i ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Wild: "Rydyn ni eisiau i o leiaf 20% o breswylwyr a chymudwyr deithio ar fws erbyn 2030. Mae hynny'n dyblu'r rhif heddiw. Ni fydd hyn yn digwydd heb newid mawr yn y ffordd rydym yn gweithredu ein gwasanaethau bysiau. Dyna pam rydym wedi llunio strategaeth ar sut rydym yn mynd i gyflawni hyn mewn ymgynghoriad â'r cyhoedd. Credwn, gan weithio gyda phartneriaid y gall y naw pwynt strategaeth yma arwain at y newid ymddygiad sydd ei angen.

 

"Fel awdurdod lleol sy'n gweithio ar ein pen ein hunain, rydym yn gwybod ein bod wedi ein cyfyngu o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud. Rhaid rhoi clod i Lywodraeth Cymru sydd wedi sicrhau cyllid i weithredwyr bysiau drwy'r Cynllun Argyfwng Bysiau ac wedi rhoi sicrwydd ariannol i'r diwydiant bysiau yn ystod y pandemig. Mae'n rhaid dilyn hyn yn awr gyda pholisi newydd i gymryd mwy o reolaeth yn ôl dros ein gwasanaethau bysiau, ac ariannu'r math hanfodol hwn o drafnidiaeth yn iawn."

 

Mae strategaeth naw pwynt Cyngor Caerdydd yn cynnwys:

 

1)     Gorffen ac adeiladu'r seilwaith gofynnol: Mae hyn yn cynnwys cwblhau'r Gyfnewidfa Fysiau Ganolog ac adeiladu tair Cyfnewidfa Drafnidiaeth yn Heol Waungron yn y Tyllgoed, Gorsaf y Parc yn Llaneirwg a ger Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan. Bydd cyfleuster parcio a theithio newydd hefyd yn cael ei adeiladu oddi ar yr M4 wrth gyffordd 33 a bydd opsiynau'n cael eu harchwilio ar gyfer cyfleuster cyfnewid arall wrth Gyffordd 32 i ddisodli traffig oddi ar yr A470.

 

2)     Coridorau 'clyfar' newydd â blaenoriaeth i Fysiau: Coridorau 'clyfar' newydd â blaenoriaeth i Fysiau: Mae nifer o goridorau bws 'clyfar' wedi'u nodi, gan gynnwys llwybr traws-ddinas a llwybr cylchol posibl i ystod ehangach o gyrchfannau heb fod angen teithio i Ganol y Ddinas er mwyn mynd o un ochr i'r ddinas i'r llall. Byddai gwasanaethau'n amlach, gan ddefnyddio bysiau trydan mewn ardaloedd canol dinas neu mewn ardaloedd lle mae problemau ansawdd aer yn bodoli eisoes, gyda chyfleusterau o safon ar gael ar y bysiau i gwsmeriaid eu defnyddio a gwell gwybodaeth ar gael mewn arosfannau bysiau.

 

3)     Pecyn canol y ddinas: Yn ogystal â chwblhau'r Gyfnewidfa Ganolog, mae cynlluniau pellach yn cynnwys nifer o ganolfannau trafnidiaeth pellach o amgylch y ddinas, fel y gall cwsmeriaid gyfnewid rhwng teithio ar drên, bws, beicio a cherdded. Bydd 'dolen canol dinas' â blaenoriaeth glir iddi ar gyfer bysiau,acarosfannau a chyfleusterau bysiau sydd wedi'u lleoli'n dda er mwyn i gwsmeriaid eu defnyddio

 

4)     Integreiddio â'r Metro, tocynnau integredig a gwybodaeth glir i gwsmeriaid: Mae'r cynlluniau'n cynnwys nifer o fesurau gan gynnwys creu un tocyn integredig y gellir ei ddefnyddio ar drenau a chyda gwahanol gwmnïau bysiau. Er mwyn sicrhau y gall pobl gyfnewid rhwng trenau, bysiau a theithio llesol yn haws, bydd y cyngor yn parhau i ddatblygu llwybrau beicio wedi'u gwahanu a gwelliannau i lwybrau troed. Bydd gwelliannau'n cael eu gwneud i'r arwyddion a gwybodaeth ar y stryd fel y gall pobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn haws, a deall sut y gallant symud o amgylch y ddinas drwy gyfnewid rhwng gwahanol ddulliau teithio.

 

5)     Prisiau fforddiadwy integredig: Er mwyn sicrhau bod teithio ar fws yn apelio, rhaid i'r strwythur prisiau fod yn gywir ac efallai y bydd angen capio prisiau. Bydd adolygiad yn cael ei gynnal i sefydlu un strwythur prisiau, gan gynnwys edrych ar brisiau tocynnau £1 a gostyngiadau oddi ar yr oriau brig. Mae'n bwysig bod tocynnau'n gallu cael eu trosglwyddo fel y gellir eu defnyddio ar wasanaethau, waeth pa gwmni sy'n gweithredu'r llwybr bws.

 

6)     Adolygiad o lywodraethiant a chyllido'r rhwydwaith bysiau:Mae hyn yn cynnwys yr opsiynau hirdymor o integreiddio rhwydweithiau bysiau, gan gynnwys edrych ar yr opsiwn o fasnachfreinio a phartneriaethau a allai godi yn y dyfodol drwy ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru.

 

7)     Creu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid: Sicrhau bod bysiau'n darparu lefel uchel o gysur a'u bod wedi'u cysylltu'n ddigidol er budd cwsmeriaid i wneud teithio ar fysiau yn brofiad mwy pleserus.

 

8)     Fflyd allyriadau isel/di-garbon: Mae hyn yn golygu cynyddu nifer y bysiau di-garbon i fflyd y bysiau yn gynt. Bydd dadansoddiad pellach hefyd yn cael ei wneud ar gostau a manteision system gyfan bysiau trydan o'u cymharu â bysiau diesel y gellir eu defnyddio ar gyfer ceisiadau am gyllid.

 

9)     Integreiddio cludiant i'r ysgol: Mae'r cynlluniau'n cynnwys gwneud cludiant i'r ysgol yn rhatach ac yn haws ei ddefnyddio ar gyfer pob plentyn ysgol, tra'n bodloni'r holl ofynion statudol ar gyfer plant sydd â hawl i deithio ar fysiau am ddim. Bydd hyn hefyd yn golygu integreiddio agosach rhwng cynlluniau teithio ar fws a theithio llesol sydd wedi, neu sy'n cael eu datblygu ym mhob ysgol.