The essential journalist news source
Back
9.
July
2021.
CYNIGION I GYNYDDU LLEOEDD MEWN YSGOLION CYNRADD YNG NGOGLEDD-ORLLEWIN CAERDYDD

9/7/2021

Gellid datblygu cyfle buddsoddi ac ailddatblygu ar gyfer Ysgol Gynradd Pentyrch fel rhan o gynigion i gynyddu'r ddarpariaeth gynradd yng ngogledd-orllewin y ddinas.

Mae adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd yn argymell y cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i ehangu'r ysgol o 140 i 210 o leoedd, ac i sefydlu darpariaeth feithrin o 48 o leoedd rhan-amser yn yr ysgol.

Os cânt eu datblygu, byddai'r cynigion yn golygu y gallai'r ysgol elwa o adeiladau ysgol gwell, gwell amgylcheddau dysgu a chymorth i gynnal a pharhau i adeiladu ar ei chynnydd diweddar.

Byddaisefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol hefyd yn hyrwyddo parhad a dilyniant yn nysgu'r plant o dair oed ac ni fyddai'nrhaid i deuluoedd sy'n chwilio am leoedd meithrinfodloni ar leoedd mewn lleoliadau meithrin preifat neu deithio allan o ardal Pentyrch mwyach.

Yn amodol ar ymgynghoriad, byddai ehangu'r ysgol hefyd yn helpu i fodloni'r galw a ragwelir am leoedd ysgol i wasanaethu rhannau o Greigiau a Sain Ffagan, Pentyrch a Radur a Phentre-poeth. Byddai'n cynnig digon o leoedd i blant sy'n byw yn nalgylch presennol yr ysgol yn ogystal â phlant sy'n byw yn y datblygiad tai newydd ar Fferm Goitre Fach, ger Heol Llantrisant.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Os cytunir ar ymgynghoriad cyhoeddus a bod y cynlluniau'n mynd yn eu blaenau, byddai ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch yn cynnig amrywiaeth o fanteision a chyfleoedd cyffrous i'r ysgol a'i chymuned.

"Mae gwelliannau parhaus a'r cydweithio llwyddiannus gydag Ysgol Gynradd Llanisien Fach wedi paratoi llwybr cryf ar gyfer dyfodol yr ysgol. Byddai'r broses ehangu strategol hon yn rhoi mwy o gyfleoedd i staff a disgyblion, tra'n rhoi cyfle i fwy o blant elwa o'r addysg sydd ar gael ar y safle."

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Bydd y datblygiadau tai newydd yng ngogledd-orllewin Caerdydd yn arwain at gynnydd sylweddol yn y galw am leoedd ysgol yn yr ardal. Drwy ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch, gallem sicrhau ein bod yn ateb y galw hwnnw yn ogystal â rhoi mynediad i ddisgyblion a staff at amgylchedd dysgu rhagorol, modern."

Mae cynigion am nifer o ddatblygiadau tai newydd yng ngogledd-orllewin Caerdydd yn mynd rhagddynt a byddant yn cael eu cyflawni fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd sy'n nodi'r seilwaith sydd ei angen i hwyluso a chynnal twf y ddinas hyd at 2026.

Fel rhan o'r cytundeb cynllunio rhwng datblygwyr tai a'r Cyngor, cytunwyd ar gyfraniadau Adran 106 i fuddsoddi mewn seilwaith ar gyfer ardaloedd lleol.

Bydd yr adroddiad yn mynd i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau 15 Gorffennaf.