The essential journalist news source
Back
9.
July
2021.
Arena Dan Do yn cynnig cyfleoedd diwylliannol ehangach

09/07/21

Mae mwy o fanylion am gynlluniau cyffrous i ailddatblygu Bae Caerdydd ac i adeiladu'r arena dan do newydd â lle i 15,000 o bobl wedi'u datgelu.

 

Mae mwy o fanylion am gynlluniau Cyngor Caerdydd i greu cyrchfan penigamp i ymwelwyr yn y DU, a allai ddenu miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn a dod â dros £100m y flwyddyn i'r economi leol, yn cael eu hystyried mewn adroddiad diweddaru i Gabinet yr awdurdod lleol.

 

Mae'r adroddiad yn cynnwys newyddion am:

  • Yr arena dan do newydd sy'n cael ei hadeiladu mewn partneriaeth â Live Nation, GrŵpOak View a Robertson; 
  • Opsiynau ar gyfer Canolfan y Ddraig Goch newydd;
  • Gwaith gyda Chanolfan Mileniwm Cymru i greu partneriaeth cynhyrchu diwylliannol; a
  • Maes parcio aml-lawr newydd, a weithredir gan y Cyngor, a fydd yn cynnwys 1,300 o leoedd, mannau gwefru cerbydau trydan, fferm solar a mentrau gwyrdd eraill gan gynnwys 'wal werdd fyw' a chyfleuster hydroponig.

 

Ystyrir yn gyffredin mai arena dan do newydd yw'r peth pwysig sydd ei angen yn seilwaith y ddinas i gadarnhau enw da rhyngwladol Caerdydd fel dinas ddigwyddiadau mawr. Mae helpu i wneud cynnig sector preifat, wedi ei gefnogi gan y Cyngor, yn realiti wedi bod yn uchelgais a dyhead hirsefydlog gan weinyddiaethau cyngor olynol sydd wedi cadw cyllidebau wedi'u clustnodi ers 2006.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: Mae cymuned fusnes y ddinas wedi cefnogi'r prosiect ers blynyddoedd lawer, yn enwedig y sector lletygarwch. Bydd y sector preifat yn cymryd y rhan fwyaf o'r risg sy'n gysylltiedig ag adeiladau'r arena. Nod y Cyngor erioed fu adeiladu arena haen un ar sail niwtral o ran cost i drethdalwyr Caerdydd. Er mwyn gwneud hyn bydd yn rhaid i'r Cyngor fuddsoddi yn rhai o gostau ymlaen llaw'r prosiect, ond bydd y rhain yn cael eu had-dalugan ein partneriaid sector preifata fydd yn ymrwymo i brydles fasnachol hirdymor ar yr arena. Bydd y prosiect hwn a'r prosiectau deilliedig rydym yn awyddus eu cyflwyno ochr yn ochr ag ef yn chwarae rhan allweddol wrth greu swyddi yng Nghaerdydd wrth i ni geisio adfer o'r pandemig."

 

Ystyrir mai adeiladu'r arena â lle i 15,000 o bobl yw'r elfen allweddol yn Uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd Cyngor Caerdydd, a grëwyd i roi hwb i gam nesaf y gwaith o adfywio Bae Caerdydd. Fel rhan o'r gwaith adfywio hwnnw mae'r Cyngor yn llunio cynlluniau gyda Chanolfan Mileniwm Cymru i greu partneriaeth ddiwylliannol a fydd yn ehangu'n sylweddol nifer y sioeau a digwyddiadau diwylliannol y bydd y ddinas yn gallu eu cynnal a'u cynhyrchu.

 

nifer y sioeau a digwyddiadau diwylliannol y bydd y ddinas yn gallu eu cynnal a'u cynhyrchu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Goodway: "Mae'r sector diwylliannol yn ogystal â'r sector lletygarwch wedi cael ei effeithio'n fawr gan y pandemig felly mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w adfywio wrth i ni ddod allan o'r cyfnod cloi ac edrych i'r dyfodol. Mae diwylliant, cerddoriaeth, theatr a'r celfyddydau yn chwarae rhan allweddol wrth helpu dinas i'w diffinio ei hun. Maen nhw'n denu llawer o bobl i ddinas ac yn chwarae rhan enfawr yn economi unrhyw ddinas lwyddiannus. Yn ogystal â rhoi swyddi a gyrfaoedd i bobl gallan nhw hefyd arddangos dinas i'r byd. Mae angen atyniadau diwylliannol llwyddiannus o'r radd flaenaf ar Gaerdydd, prifddinas Cymru.  Rydym yn gweithio gyda Chanolfan Mileniwm Cymru i edrych ar ffyrdd o fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gefnogi economi greadigol y ddinas. Bydd y bartneriaeth yn creu cynyrchiadau a chynnwys lleol ar gyferdatblygiad Glanfa'r Iwerydd, Canolfan Mileniwm Cymru a lleoliadaudiwylliannoly ddinas. Bydd yn gwneud gwaitharloesolgyda chymunedau lleol ac ysgolion i feithrin talent greadigol y dyfodol.

 

"Rydym wedi llunio memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda'r amcanion clir o godi proffil rhyngwladol y sector creadigol yng Nghaerdydd; cynyddu gwerth cynyrchiadau creadigol a diwylliannol yn y ddinas; cynyddu presenoldeb a chyfranogiad mewn digwyddiadau creadigol a diwylliannol, tra'n cefnogi piblinell dalent amrywiol a fydd yn cynnal sector creadigol y ddinas."

 

Yn y cyfamser, lluniwyd opsiynau hefyd ar gyfer ailddatblygu Canolfan y Ddraig Goch (CDdG). Mae'r rhain yn cynnwys adeiladu CDdG newydd mewn dau gam. Byddai hyn yn galluogi'r gwaith o ailddatblygu'r ganolfan i fynd rhagddo cyn i'r CDdG bresennol gael ei dymchwel, gan alluogi cadw'r holl denantiaid presennol.

 

Yn y cyfarfod, argymhellir y dylai'r Cabinet nodi'r cynnydd ar y cynlluniau ar gyfer yr Arena Dan Do sydd bellach yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Caiff adroddiad pellach ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Medi yn gofyn am awdurdod i ymrwymo i Gytundeb Datblygu gyda'r cynigydd a ffefrir. Argymhellir hefyd y dylai'r Cabinet gymeradwyo'r achos busnes amlinellol ar gyfer maes parcio aml-lawr newydd ac awdurdodi datblygu achos busnes llawn. Gofynnir hefyd iddo gymeradwyo achos busnes amlinellol i ystyried opsiynau ar gyfer ailddatblygu Canolfan y Ddraig Goch.