Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Gaerdydd, sy'n cwmpasu: y pandemig yn cynyddu'r galw am wasanaethau gan greu bwlch gwerth sawl miliwn yn y gyllideb; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; acysgolion y mae achosion COVID-19 yn effeithio arnynt.
#CadwCaerdyddynDdiogel
Dwylo. Wyneb. Gofod. Awyr Iach.
Y pandemig yn cynyddu'r galw am wasanaethau gan greu bwlch gwerth sawl miliwn yn y gyllideb
Mae adroddiad newydd wedi datgelu y bydd angen i Gyngor Caerdydd ddod o hyd i £21.3 miliwn i fantoli'r cyfrifon ym mlwyddyn ariannol 2022/23 ac £80.8 miliwn erbyn 2026 wrth i ganlyniadau'r pandemig achosi cynnydd yn y galw am wasanaethau allweddol.
Bydd Cabinet y cyngor yn derbyn Adroddiad Strategaeth Cyllideb 2022/23 yn ei gyfarfod nesaf Ddydd Iau, 15 Gorffennaf, lle bydd yn ystyried cynlluniau cychwynnol, lefel uchel i gau'r bwlch.
Ni wneir penderfyniadau ar y gyllideb tan y Gwanwyn nesaf. Mae'r tybiaethau cyllidebol lefel uchel dros dro ar gyfer 2022/23 a allai o bosibl gau'r bwlch cyllido o £21.3 miliwn yn cynnwys:
- £15 miliwn mewn arbedion effeithlonrwydd;
- Cynnydd yn y Dreth Gyngor er mwyn helpu i fantoli'r cyfrifon. Mae hyn wedi'i fodelu ar hyn o bryd fel cynnydd o 4% (a fyddai'n cyfateb i £1 yr wythnos ar gartref Band D), sy'n codi dros £6m.
Bydd y penderfyniad terfynol ar ffurf y gyllideb yn cael ei wneud ar ôl yr ymgynghoriad cyhoeddus, cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Bydd preswylwyr hefyd yn gallu ateb rhai cwestiynau cyllidebol yn yr haf os byddant yn cymryd rhan yn Arolwg blynyddol Holi Caerdydd.
Mae canllaw cwestiynau cyffredin i Strategaeth Cyllideb Cyngor Caerdydd ar gael i'w weld yma.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Moderneiddio, y Cynghorydd Chris Weaver: "Wrth i ni ddod allan o'r cyfnod cloi a dechrau delio â chanlyniadau'r pandemig rydym yn dechrau gweld cynnydd yn y galw am lawer o'n gwasanaethau allweddol. Mae yna drigolion sydd wedi colli eu swyddi a'u cartrefi, pobl sy'n agored i niwed y mae angen mwy o gymorth arnynt i oroesi ynghyd â llwyth achosion cynyddol yn y gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r cyfan yn dangos bod pobl angen mwy a mwy o gymorth ac mae'r rhagolygon a welwn ar gyfer diweithdra yn codi i tua 6.5% o bosibl ar ôl i'r cynllun ffyrlo ddod i ben, yn golygu ein bod yn gorfod paratoi ar gyfer cynnydd enfawr yn y galw am ein gwasanaethau ar yr un adeg pan fyddwn yn wynebu ansicrwydd ariannol hefyd. Cafodd COVID effaith enfawr ar allu'r cyngor hwn i gynhyrchu incwm. Ers dechrau'r cyfnod clo rydym wedi colli £38.2 miliwn mewn incwm ac ni allwn fod yn siŵr faint o'r arian hwnnw a ddaw yn ôl unwaith y bydd pethau'n dychwelyd i'r arfer.
"Ar hyn o bryd mae tua dwy ran o dair o'n cyllideb yn cael ei gwario ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol ac mae'r costau hyn yn cynyddu bob blwyddyn. Rhaid bodloni holl anghenion eraill ein trigolion am wasanaethau gyda'r gweddill. Gwasanaethau sy'n dod yn bwysicach fyth wrth i ni ddod allan o'r cyfnod clo a yn wynebu bil COVID, wedi'u gosod yn erbyn realiti ein sectorau manwerthu a lletygarwch sydd mewn trafferth a diweithdra uwch, gyda'r holl straen ychwanegol sy'n dod yn sgil hynny ar fywydau pobl.
"Mae gan y cyngor hwn gynlluniau uchelgeisiol er mwyn helpu i roi hwb cychwynnol i adferiad Caerdydd o'r pandemig. Byddwn yn dod â swyddi i'r ddinas drwy ein prif gynllun adeiladu cartrefi cyngor, y mwyaf yng Nghymru, a thrwy ein datblygiadau mawr fel yr Arena Dan Do ac Uwchgynllun Bae Caerdydd, yn ogystal â'n cynlluniau cyffrous ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Mae prosiectau mawr fel y rhain, ochr yn ochr â'n gwariant gwerth miliynau o bunnoedd ar ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, a'r gwaith rydym yn ei wneud gyda Llywodraeth Cymru ar y metro, yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus a dewisiadau teithio llesol fel beicio ar draws y ddinas, i gyd yn helpu i wneud gwahaniaeth, dod â swyddi a chreu dinas lanach, werddach, ond ni allwn ddianc rhag y ffaith y bydd yn rhaid i'r cyngor wneud arbedion mawr o fewn ein cyllideb ar adeg pan fo angen iddo wario i gynorthwyo'r adferiad."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27006.html
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (28 Mehefin - 04 Gorffennaf)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
08 Gorffennaf 2021, 09:00
Achosion: 585
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 159.4 (Cymru: 122.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 7,108
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,937.3
Cyfran bositif: 8.2% (Cymru: 6.5% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 09 Gorffennaf
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 635,204 (Dos 1: 353,143 Dos 2: 281,987)
- 80 a throsodd: 20,892 / 94.5% (Dos 1) 20,295 / 91.8% (Dos 2)
- 75-79: 15,105 / 96.2% (Dos 1) 14,771 / 94% (Dos 2)
- 70-74: 21,472 / 95.5% (Dos 1) 21,256 / 94.6% (Dos 2)
- 65-69: 21,936 / 94% (Dos 1) 21,442 / 91.9% (Dos 2)
- 60-64: 25,992 / 92% (Dos 1) 25,480 / 90.2% (Dos 2)
- 55-59: 29,270 / 89.9% (Dos 1) 28,470 / 87.4% (Dos 2)
- 50-54: 28,862 / 87.4% (Dos 1) 27,748 / 84% (Dos 2)
- 40-49: 54,425 / 80.4% (Dos 1) 49,740 / 73.5% (Dos 2)
- 30-39: 58,135 / 72.9% (Dos 1) 42,385 / 53.2% (Dos 2)
- 18-29: 74,827 / 73.1% (Dos 1) 30,792 / 30.1% (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 1,946 / 98.4% (Dos 1) 1,911 / 96.6% (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 11,336 / 93.7% (Dos 1) 11,035 / 91.3% (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,855 / 89.1% (Dos 1) 43,239 / 84% (Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Diweddariad am ysgolion y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt
Ysgol Gynradd Adamsdown
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Adamsdown. Mae 27 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Gynradd Santes Bernadette
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Santes Bernadette. Mae 32 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Bro Edern
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd Bro Edern. Mae 42 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Uwchradd Fitzalan
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Fitzalan. Mae chwech o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Uwchradd Glantaf
Mae 10 achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd Glantaf. Mae 53 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Gynradd Lakeside
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Lakeside. Mae 54 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Forwyn Fair
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Forwyn Fair. Mae 25 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Gynradd Parc Ninian
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Parc Ninian. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 45 o ddisgyblion a un aelod o staff i hunanynysu.
Ysgol Gynradd Peter Lea
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Peter Lea. Mae 35 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Uwchradd Plasmawr
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Plasmawr. Mae wyth o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Gynradd Trelai
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Trelai. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 113 o ddisgyblion a wyth aelod o staff i hunanynysu.
Ysgol y Wern
Mae pedwar achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol y Wern. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 28 o ddisgyblion a tri aelod o staff i hunanynysu.