Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; ac ysgolion y mae achosion COVID-19 yn effeithio arnynt.
#CadwCaerdyddynDdiogel
Dwylo. Wyneb. Gofod. Awyr Iach.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (25 Mehefin - 01 Gorffennaf)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
05 Gorffennaf 2021, 09:00
Achosion: 513
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 139.8 (Cymru: 103.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 6,655
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,813.8
Cyfran bositif: 7.7% (Cymru: 5.8% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 06 Gorffennaf
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:624,662(Dos 1: 352,686 Dos 2: 271,903)
- 80 a throsodd: 20,902 / 94.5% (Dos 1) 20,247 / 91.5% (Dos 2)
- 75-79: 15,107 / 96.1% (Dos 1) 14,743 / 93.8% (Dos 2)
- 70-74: 21,477 / 95.5% (Dos 1) 21,251 / 94.5% (Dos 2)
- 65-69: 21,931 / 94% (Dos 1) 21,371 / 91.6% (Dos 2)
- 60-64: 25,984 / 92% (Dos 1) 25,451 / 90.1% (Dos 2)
- 55-59: 29,259 / 89.8% (Dos 1) 28,402 / 87.2% (Dos 2)
- 50-54: 28,847 / 87.3% (Dos 1) 27,647 / 83.7% (Dos 2)
- 40-49: 54,377 / 80.4% (Dos 1) 48,764 / 72.1% (Dos 2)
- 30-39: 57,959 / 72.7% (Dos 1) 36,946 / 46.3% (Dos 2)
- 18-29: 74,502 / 72.8% (Dos 1) 23,856 / 23.3% (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 1,950 / 98.4% (Dos 1) 1,913 / 96.5% (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 11,334 / 93.7% (Dos 1) 11,021 / 91.1% (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,836 / 89% (Dos 1) 43,069 / 83.6% (Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Diweddariad am ysgolion y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt
Ysgol Uwchradd Caerdydd
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Caerdydd. Mae 89 o ddisgyblion Blwyddyn 10 ac un aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Uwchradd Corpus Christi
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Corpus Christi. Mae 37 o ddisgyblion Blwyddyn 8 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Uwchradd Fitzalan
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Fitzalan. Mae 35 o ddisgyblion Blwyddyn 9 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Uwchradd Llanisien
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Llanisien. Mae 35 o ddisgyblion Blwyddyn 8 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Plasmawr
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Plasmawr. Mae 31 o ddisgyblion Blwyddyn 9 ac un aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Illtud Sant
Mae pum achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Illtud Sant. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 133 o ddisgyblion i hunanynysu.
Ysgol Teilo Sant
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Teilo Sant. Mae 56 o ddisgyblion Blwyddyn 8 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol y Wern
Mae pimp achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol y Wern. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 27 o ddisgyblion a dau aelod o staff i hunanynysu.
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol yr Eglwys Newydd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 61 o ddisgyblion ac un aelod o staff i hunanynysu.
Ysgol Uwchradd Willows
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Willows. Mae 25 o ddisgyblion Blwyddyn 10 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.