The essential journalist news source
Back
6.
July
2021.
YSGOL UWCHRADD WILLOWS: ATHRO YSBRYDOLEDIG WEDI'I ANRHYDEDDU MEWN DATHLIAD MAWREDDOG O ADDYSGU YN Y DU

6/7/2021

Mae athro o Ysgol Uwchradd Willows wedi cael eianrhydeddu gyda Gwobr Arian yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson ar gyfer Athro Newydd Eithriadol y Flwyddyn.

Wedi'i ddewis o filoedd o enwebiadau o bob rhan o'r DU, derbyniodd Joe Gill yr anrhydedd am ei ymrwymiad rhagorol i newid bywydau'r plant y mae'n gweithio gyda nhw bob dydd. 

Wedi'i enwebu gan Uwch Dîm Arweinyddiaeth yr ysgol, mae gwaith rhagorol Joe wedi galluogi disgyblion sy'n agored i niwed i barhau i ddysgu er gwaethaf y pandemig. Mae hefyd wedi creu ac arwain rhaglen integreiddio fel y gellir cefnogi plant sy'n siarad ychydig iawn o Saesneg, neu ddim o gwbl, y mae llawer ohonynt wedi profi trawma yn eu gwledydd eu hunain, cyn iddyn nhw fynd i addysg brif ffrwd.

Ers ymuno â'r ysgol ym mis Medi 2020, mae Joe wedi dod â dysgu'n fyw ac mae'n dod ag offer adeiladu ac offer garddio i mewn, gan geisio cadw diddordeb disgyblion. Mae hefyd yn defnyddio ei amser egwyl a chinio i annog disgyblion i wneud chwaraeon, gan annog yn bwrpasol blant o wahanol gefndiroedd ethnig i ryngweithio a chydweithio.

Dywedodd Chris Norman, Pennaeth Ysgol Uwchradd Willows: "Rwyf mor falch dros Joe, mae'n gwbl haeddiannol o'r gydnabyddiaeth am y gwahaniaeth y mae'n ei wneud ym mywydau ein disgyblion mwyaf agored i niwed. Yn yr amser cymharol fyr y mae wedi bod yn Willows mae wedi cael effaith gadarnhaol enfawr ac wedi ein galluogi i ddod hyd yn oed yn fwy cynhwysol fel ysgol."

Wrth fyfyrio ar y wobr dywedodd Joe:"Rwy'n teimlo mor ostyngedig fy mod wedi cael y wobr fawreddog hon. Mae'n werth gwybod bod fy ngwaith wedi'i gydnabod a bod yr hyn rwy'n ei wneud yn cael effaith gadarnhaol iawn ar rai o'n disgyblion mwyaf agored i niwed. Mae llawer wedi wynebu trawma na allaf ddechrau ei ddychmygu ond nhw yw'r disgyblion mwyaf gweithgar a diolchgar rwyf erioed wedi gweithio gyda nhw. Mae eu positifrwydd yn heintus - eu gweld yn  datblygu hyder ac yn dechrau ffynnu yw'r rheswm pam rwy'n caru'r proffesiwn hwn. Rwy'n edrych ymlaen at weld beth sydd gan y dyfodol iddyn nhw ac i mi fy hun."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Merry: "Rwyf mor falch bod Joe wedi cael ei gydnabod fel addysgwr sy'n ymrwymedig ac yn ymroddgar ac y bydd ei ddull o addysgu yn newid bywydau llawer o bobl ifanc.

"Mae plant a phobl ifanc wedi colli'n anhygoel dros y flwyddyn neu fwy ddiwethaf a hoffwn dalu teyrnged i Joe, a holl athrawon Caerdydd, sydd wedi mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau i helpu i gefnogi a chadw disgyblion i gymryd rhan yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Mae Joseph bellach ar y rhestr fer i ennill un o ddim ond 15 Gwobr Aur yn ddiweddarach yn y flwyddyn, mewn rhaglen a fydd yn cael ei darlledu ar y BBC ac sy'n dathlu'r staff ysgol eithriadol sydd wedi gwneud rhyfeddodau yn ystod cyfnod hynod heriol i addysgwyr ledled y wlad. 

Mae Ysgol Uwchradd Willows yn cychwyn ar bennod newydd gyffrous ac mae cynigion yn cael eu datblygu ar hyn o bryd i adleoli ac ailadeiladu'r ysgol. Bydd proses ymgysylltu anstatudol, a fydd yn para am 6 wythnos, yn rhoi cyfle i ddisgyblion, aelodau o'r cyhoedd a rhanddeiliaid lleol ddweud eu dweud wrth greu gweledigaeth newydd ar gyfer yr ysgol, gan gynnwys y cwricwlwm, ail-frandio a datblygu adeilad newydd i'r ysgol.

I rannu eich barn ar-lein, ewch i  www.caerdydd.gov.uk/ysgoluwchraddwillows

Daw'r cyfnod ymgysylltu i ben ar 23 Gorffennaf 2021