Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; croesawu ymwelwyr dydd yn ôl i Ynys Echni.
#CadwCaerdyddYnDdiogel
Dwylo. Wyneb. Gofod. Awyr iach.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (21 Mehefin - 27 Mehefin)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
01 Gorffennaf 2021, 09:00
Achosion: 367
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 100.0 (Cymru: 71.7 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 5,522
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,505.0
Cyfran bositif: 6.6% (Cymru: 4.5% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 02 Gorffennaf
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 611,177 (Dos 1: 351,794 Dos 2: 259,312)
- 80 a throsodd: 20,920 / 94.5% (Dos 1) 20,230 / 91.4% (Dos 2)
- 75-79: 15,107 / 96.1% (Dos 1) 14,726 / 93.7% (Dos 2)
- 70-74: 21,472 / 95.5% (Dos 1) 21,243 / 94.5% (Dos 2)
- 65-69: 21,928 / 93.9% (Dos 1) 21,332 / 91.4% (Dos 2)
- 60-64: 25,983 / 92% (Dos 1) 25,434 / 90.1% (Dos 2)
- 55-59: 29,253 / 89.8% (Dos 1) 28,362 / 87.1% (Dos 2)
- 50-54: 28,835 / 87.3% (Dos 1) 27,581 / 83.5% (Dos 2)
- 40-49: 54,292 / 80.3% (Dos 1) 47,764 / 70.6% (Dos 2)
- 30-39: 57,796 / 72.5% (Dos 1) 32,356 / 40.6% (Dos 2)
- 18-29: 74,145 / 72.5% (Dos 1) 20,670 / 20.2% (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 1,956 / 98.3% (Dos 1) 1,919 / 96.5% (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 11,335 / 93.7% (Dos 1) 11,016 / 91% (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,795 / 89% (Dos 1) 42,929 / 83.4% (Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Croesawu ymwelwyr dydd yn ôl i Ynys Echni
Bydd ymwelwyr dydd yn cael eu croesawu yn ôl i Ynys Echni ddydd Sadwrn pan fydd yr ynys yn ailagor i'r cyhoedd am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.
Ar ôl cyrraedd ar gwch gwib yr RIB, bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau dihangfa dair awr ar yr ynys, gan gynnwys sgwrs groeso gan y warden; digon o amser rhydd i archwilio hanes a bywyd gwyllt diddorol Ynys Echni; ac ymweliad â'r Gull a Leek, tafarn fwyaf deheuol Cymru.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Ar ôl dros flwyddyn heb unrhyw ymwelwyr, mae hyn yn fwy o newyddion da i Ynys Echni yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am gyllid Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am ein prosiect 'Ynys Echni: Taith Gerdded Drwy Amser' gwerth £1.1 miliwn sydd â'r nod o adfer adeiladau hanesyddol yr ynys a gwella ei chynefinoedd bywyd gwyllt.
"Rwy'n gwybod bod y tîm yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pobl yn ôl, ac os ydych chi am ddianc rhag prysurdeb y ddinas am ychydig oriau, nid oes modd dod o hyd i lawer o leoedd gwell na'r trysor cudd hwn ym Môr Hafren."
Mae nifer o fesurau diogelwch Covid-19 ar waith i sicrhau bod pobl yn gallu ymweld â'r ynys yn ddiogel, gan gynnwys y canlynol:
- Bydd sgyrsiau croeso gan y Warden yn cael eu cynnal yn yr awyr agored.
- Ni fydd unrhyw deithiau tywys ar gael - teithiau hunandywys yn unig.
- Ni fydd cysgod dan do ar gael.
- Bydd toiledau dynion a merched, a hylif diheintio dwylo, ar gael.
- Bydd tafarn y 'Gull and Leek' ar agor am awr yn ystod ymweliadau, a bydd nifer y bobl y tu mewn yn cael eu cyfyngu i un person/teulu ar y tro. Rhaid gwisgo masgiau a diheintio dwylo wrth fynd i mewn. Ni fydd diodydd poeth ar gael, ond bydd poteli, caniau a siocled/creision/byrbrydau wedi'u selio ar gael. Arian parod yn unig. Dim ond y tu allan y caniateir yfed diodydd neu fwyta byrbrydau.
- Rhaid i ymwelwyr fynd â'i holl sbwriel adref.
- Mae rheolau cadw pellter cymdeithasolyn ar waith ac mae'n rhaid eu dilyn.
I gael gwybodaeth fanwl, mwy o ddyddiadau ac i gadw lle, ewch i:
www.bayislandvoyages.co.uk/booking-flat-holm-visit/.
I gael gwybod mwy am yr ynys, ewch i: