Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a Gwên o Haf ar gyfer plant a phobl ifanc Caerdydd.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (11 Mehefin - 17 Mehefin)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
21 Mehefin 2021, 09:00
Achosion: 134
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 36.5 (Cymru: 31.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,949
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,076.3
Cyfran bositif: 3.4% (Cymru: 2.7% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 22 Mehefin
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 571,078 (Dos 1: 349,729 Dos 2: 221,294)
- 80 a throsodd: 20,959 / 94.5% (Dos 1) 20,197 / 91% (Dos 2)
- 75-79: 15,110 / 96.1% (Dos 1) 14,693 / 93.5% (Dos 2)
- 70-74: 21,475 / 95.5% (Dos 1) 21,208 / 94.3% (Dos 2)
- 65-69: 21,913 / 93.9% (Dos 1) 21,185 / 90.8% (Dos 2)
- 60-64: 25,974 / 91.9% (Dos 1) 25,289 / 89.5% (Dos 2)
- 55-59: 29,230 / 89.7% (Dos 1) 27,888 / 85.6% (Dos 2)
- 50-54: 28,777 / 87.1% (Dos 1) 26,403 / 79.9% (Dos 2)
- 40-49: 54,085 / 80% (Dos 1) 30,205 / 44.7% (Dos 2)
- 30-39: 57,312 / 72% (Dos 1) 18,881 / 23.7% (Dos 2)
- 18-29: 72,927 / 71.5% (Dos 1) 15,949 / 15.6% (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 1,961 / 98.2% (Dos 1) 1,916 / 95.9% (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 11,330 / 93.6% (Dos 1) 10,950 / 90.4% (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,685 / 88.7% (Dos 1) 41,814 / 81.2% (Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Gwên O Haf Ar Gyfer Plant A Phobl Ifanc Caerdydd
Mae rhaglen Gwên o Haf wedi'i pharatoi i wneud i blant a phobl ifanc Caerdydd wenu o glust i glust, gan ddechrau â thirwedd chwarae canol dinas llawn hwyl, sydd i agor wythnos hon.
Bydd mynd i dre yn llawer mwy cyffrous i blant nawr, ar ôl i leoliad yn benodol i deuluoedd wedi'i greu yn Ffordd Churchill, gyda ‘Bryn Roli Poli' mawr yn y canol.
Y dirwedd chwarae, a gaiff ei hagor ddydd Gwener 25 Mehefin, yw'r cyntaf o gyfres o weithgareddau a digwyddiadau a gynhelir ledled y ddinas drwy gydol gwyliau'r ysgol.
Trefnir 'Gwên o Haf' gan y Cyngor, gyda chefnogaeth partneriaid allweddol, yn rhan o agenda Da i Blant y Cyngor i adfer o'r pandemig a'i nod yw canmol cyflawniadau a gwydnwch pob plentyn a pherson ifanc yn y ddinas drwy'r flwyddyn anodd ddiwethaf a mwy. Dyluniwyd y rhaglen weithgareddau i annog plant i chwarae, symud a mwynhau eu hunain yn ar ôl y cyfnodau hir o gloi a dysgu o bell.
Mae'r adferiad, a'r cynlluniau haf, yn cydweddu'n agos ag uchelgais Caerdydd i gael ei chydnabod fel Dinas sy'n Dda i Blant, a'i pharatoadau i gyflwyno cais am gydnabyddiaeth fel Dinas sy'n Dda i Blant yn nes ymlaen eleni, fel y'i hargymhellir gan Bwyllgor UNICEF y DU.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Does dim amheuaeth bod plant a phobl ifanc Caerdydd wedi mynd drwy lawer yn y 15 mis diwethaf, ac am gyfnod hir doedd fawr ddim i wenu amdano.
"Mae'n bryd newid hynny ac rydyn ni'n mynd i wneud ein gorau glas i roi gwên yn ôl ar wynebau'n plant a'n pobl ifanc gan eu dathlu a dweud diolch wrthynt am fod eu hunain, a byddwn yn rhoi profiad haf bythgofiadwy am bob rheswm iawn iddyn nhw."
Bydd Bryn Roli Poli ar Ffordd Churchill yn cynnig ardal chwarae naturiol i blant, a chaiff ei amgylchynu gan osodiadau celf, ardal chwarae drefol, ardaloedd a choed wedi'u tirlunio, byrddau a seddi picnic. Bydd gan deuluoedd gyfle i ymweld â'r hafan werdd yng nghanol ardal siopa'r ddinas, chwarae yno a mwynhau'r lleoliad creadigol.
Dywedodd y Cynghorydd Merry: "Bydd Bryn Roli Poli yn anhygoel. Mae gwaith wedi'i gynllunio ar gyfer Ffordd Churchill yn hwyrach eleni, felly rydym yn achub ar y cyfle i ddefnyddio'r lle i greu atyniad cyffrous i blant, pobl ifanc a theuluoedd, gan eu hannog i ddod yn ôl i ganol y ddinas.
"Dyma ran fach o haf a fydd yn llawn gweithgareddau sydd yn yr arfaeth, ond nid ydym yn datgelu ein cynlluniau mwy o faint ar gyfer gwyliau'r haf am y tro ac rydym yn gofyn i bawb gadw llygad amdani - rydym yn llawn cyffro a byddwn yn rhannu'r manylion cyn bo hir.
"Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod yn bwriadu cynnal digwyddiadau a gweithgareddau ar sail pedair prif thema - Creadigrwydd a'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Chwaraeon ac Anturiaethau, a Chwarae a Hwyl i'r Teulu. Rydyn ni eisiau cynnig digwyddiadau gyda rhywbeth at ddant pawb, felly o blantos bach i'r glasoed, bydd rhywbeth addas i bawb.
"Rydyn ni i gyd wedi ymrwymo i ymgorffori hawliau ac anghenion plant a phobl ifanc ym mhopeth a wnawn. Mae ein cynlluniau haf yn ffordd wych o ddangos ein huchelgais i Fod yn Ddinas Sy'n Dda i Blant UNICEF y DU wrth gynnig i blant a phobl ifanc rywbeth wirioneddol dda i'w cael yn gwenu o glust i glust."
Dilynwch sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor dros yr wythnosau nesaf am ragor o newyddion am Wên o Haf - yn dod yn rhan o'r ddinas yn agos atoch yn fuan.