Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a helpwch i lunio dyfodol Ysgol Uwchradd Willows.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 14 Mehefin
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 537,952 (Dos 1: 347,793 Dos 2: 190,149)
- 80 a throsodd: 20,954 / 94.3% (Dos 1) 20,095 / 90.4% (Dos 2)
- 75-79: 15,094 / 95.9% (Dos 1) 14,618 / 92.9% (Dos 2)
- 70-74: 21,453 / 95.4% (Dos 1) 21,092 / 93.7% (Dos 2)
- 65-69: 21,852 / 93.6% (Dos 1) 20,947 / 89.8% (Dos 2)
- 60-64: 25,871 / 91.6% (Dos 1) 24,829 / 87.9% (Dos 2)
- 55-59: 29,118 / 89.4% (Dos 1) 23,197 / 71.2% (Dos 2)
- 50-54: 28,621 / 86.7% (Dos 1) 14,196 / 43% (Dos 2)
- 40-49: 53,684 / 79.5% (Dos 1) 22,348 / 33.1% (Dos 2)
- 30-39: 56,539 / 71.1% (Dos 1) 14,950 / 18.8% (Dos 2)
- 18-29: 70,961 / 69.6% (Dos 1) 13,283 / 13.1% (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 1,968 / 98.1% (Dos 1) 1,913 / 95.3% (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 11,282 / 93.1% (Dos 1) 10,756 / 88.8% (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,486 / 88.3% (Dos 1) 38,407 / 74.6% (Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (03 Mehefin- 09 Mehefin)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
13 Mehefin 2021, 09:00
Achosion: 65
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 17.7 (Cymru: 18.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,610
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 983.9
Cyfran bositif: 1.8% (Cymru: 1.8% cyfran bositif)
Helpwch i Lunio Dyfodol Ysgol Uwchradd Willows
Byddwn yn lansio cyfle cyffrous i helpu i lunio dyfodol Ysgol Uwchradd Willows dydd Llun, 14 Mehefin.
Bydd y broses ymgysylltu anstatudol, a fydd yn para am 6 wythnos, yn rhoi cyfle i ddisgyblion, aelodau o'r cyhoedd a rhanddeiliaid lleol ddweud eu dweud wrth greu gweledigaeth newydd ar gyfer yr ysgol, gan gynnwys y cwricwlwm, ail-frandio a datblygu adeilad newydd i'r ysgol.
Byddai cynigion, a gyflawnir dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, Ysgolion Band B a Buddsoddi Mewn Addysg Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows newydd yn cynnwys:
- adeiladu ysgol newydd mewn lleoliad newydd ar Heol Lewis, Sblot i wasanaethu ardaloedd Adamsdown, Sblot a Thremorfa
- sicrhau cyfleusterau chwaraeon lleol o ansawdd uchel
- ysgol â ffocws cymunedol gyda chyfleusterau at ddefnydd y gymuned gyfan y tu allan i oriau ysgol craidd
- cyfleusterau gwell i gerddwyr i gefnogi trefniadau teithio llesol ar safle Heol Lewis
- lle i 900 o ddysgwyr 11 i 16 oed, yn unol â'r galw a ragwelir
- disgyblion i aros ar safle presennol Ysgol Uwchradd Willows nes y caiff adeiladau newydd yr ysgol eu cwblhau i leihau tarfu posibl.
Bydd y broses ymgysylltu yn rhoi cyfle i bobl rannu eu syniadau am y buddion a'r cyfleoedd a gyflwynir gan leoliad newydd yr ysgol.
Caiff y sylwadau o'r ymgysylltiad chwe wythnos eu hystyried wrth ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer yr ysgol, fydd yn amlinellu yr hyn y dylid ei addysgu yn yr ysgol a sut y dylid ei gyflwyno, yn unol â'r cwricwlwm newydd i Gymru fydd yn cael ei gyflwyno yn 2022. Bydd cyfleoedd ychwanegol i roi eich barn wrth i'r cynlluniau gael eu datblygu.
Darllenwch fwy yma: