The essential journalist news source
Back
14.
June
2021.
Helpwch i Lunio Dyfodol Ysgol Uwchradd Willows

14/06/21

Byddwn yn lansio cyfle cyffrous i helpu i lunio dyfodol Ysgol Uwchradd Willows dydd Llun, 14 Mehefin.

Bydd y broses ymgysylltu anstatudol, a fydd yn para am 6 wythnos, yn rhoi cyfle i ddisgyblion, aelodau o'r cyhoedd a rhanddeiliaid lleol ddweud eu dweud wrth greu gweledigaeth newydd ar gyfer yr ysgol, gan gynnwys y cwricwlwm, ail-frandio a datblygu adeilad newydd i'r ysgol.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Willows\VISIONING ENGAGEMENT\mhorwood_Willows_High_School_160321_03 (1).JPG

Byddai cynigion, a gyflawnir dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, Ysgolion Band B a Buddsoddi Mewn Addysg Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows newydd yn cynnwys: 

-          adeiladu ysgol newydd mewn lleoliad newydd ar Heol Lewis, Sblot i wasanaethu ardaloedd Adamsdown, Sblot a Thremorfa

-          sicrhau cyfleusterau chwaraeon lleol o ansawdd uchel

-          ysgol â ffocws cymunedol gyda chyfleusterau at ddefnydd y gymuned gyfan y tu allan i oriau ysgol craidd

-          cyfleusterau gwell i gerddwyr i gefnogi trefniadau teithio llesol ar safle Heol Lewis

-          lle i 900 o ddysgwyr 11 i 16 oed, yn unol â'r galw a ragwelir

-          disgyblion i aros ar safle presennol Ysgol Uwchradd Willows nes y caiff adeiladau newydd yr ysgol eu cwblhau i leihau tarfu posibl.

Bydd y broses ymgysylltu yn rhoi cyfle i bobl rannu eu syniadau am y buddion a'r cyfleoedd a gyflwynir gan leoliad newydd yr ysgol.

Caiff y sylwadau o'r ymgysylltiad chwe wythnos eu hystyried wrth ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer yr ysgol, fydd yn amlinellu yr hyn y dylid ei addysgu yn yr ysgol a sut y dylid ei gyflwyno, yn unol â'r cwricwlwm newydd i Gymru fydd yn cael ei gyflwyno yn 2022.  Bydd cyfleoedd ychwanegol i roi eich barn wrth i'r cynlluniau gael eu datblygu. 

C:\Users\c739646\Downloads\mhorwood_Willows_High_School_160321_10.JPG

Bydd hyn yn helpu'r ysgol i gynllunio cwricwlwm ac adeiladau ysgol i gefnogi ei disgyblion i ddod yn bobl ifanc uchelgeisiol, galluog a pharod i ddysgu drwy gydol eu hoes wrth hyrwyddo unigolion iach a hyderus fydd yn barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o'r gymdeithas.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Ysgol Uwchradd Willows ar fin cychwyn cyfnod cyffrous a bydd yr adeilad newydd yn darparu cyfleusterau dysgu modern o'r radd flaenaf, a fydd yn ysbrydoli ac yn cefnogi disgyblion a staff i gyrraedd eu potensial. Ond nid brics a morter yn unig mohono, mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r ysgol ail-ddychmygu ei dyfodol a'r ffordd y bydd yn trawsnewid bywydau dysgwyr lleol wrth roi cyfleoedd i bobl leol."

"Mae'r gweithgaredd ymgysylltu cychwynnol hwn yn cynnig cyfle i bobl rannu sut maen nhw eisiau i'r ysgol newydd weithio i'r gymuned ac yn ein helpu i ddeall beth sy'n bwysig iddyn nhw a ble y dylid buddsoddi adnoddau."

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry, "Hoffwn annog pobl i rannu eu barn, yn enwedig plant a phobl ifanc a fydd yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer yr ysgol ac yn cefnogi uchelgais Caerdydd o gael ei chydnabod fel Dinas sy'n Dda i Blant, lle mae barn plant a phobl ifanc wrth wraidd yr holl benderfyniadau a wnaed."

Dywedodd Chris Norman, Pennaeth Ysgol Uwchradd Willows: "Mae pob un ohonom yn Willows yn llawn cyffro bod y broses o greu ein hysgol newydd ar y gweill. Mae'n gyfle unwaith mewn oes i greu rhywbeth rhagorol a fydd o fudd i staff, disgyblion a'r gymuned am flynyddoedd i ddod.

"Rydym yn edrych ymlaen yn arbennig at feithrin cysylltiadau â llawer o'r arweinwyr ym mhob un o'r sectorau cyflogaeth sy'n gweithredu yn y ddinas i roi hwb i ddyheadau ein disgyblion. Mae Caerdydd yn ddinas anhygoel gyda phosibiliadau diddiwedd bron a bydd y rhan fwyaf ohonynt o fewn pellter cerdded i'n hadeilad newydd.

"Rydyn ni eisiau i'r ysgol hon fod wrth galon y gymuned, felly cymerwch yr amser i gymryd rhan yn y broses ymgysylltu a gwnewch yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed."

C:\Users\c739646\Downloads\mhorwood_Willows_High_School_160321_06 (1).JPG

I rannu eich barn ar-lein, ewch i'rwww.caerdydd.gov.uk/ysgoluwchraddwillows

Caiff cyfres o sesiynau galw heibio hefyd ei chynnal ar y dyddiadau canlynol:

Dydd Mawrth 22 Mehefin10am - hanner dyddTesco Pengam Green

Dydd Iau 24 Mehefinhanner dydd - 2pmBrewery Field (gyferbyn â Rubicon Dance)

Dydd Mercher 30 Mehefin 2pm - 4pmHen Lyfrgell, Singleton Road

Dydd Mawrth 06 Gorffennaf 6pm - 8pmPafiliwn Chwaraeon Parc Sblot

 

Dydd Llun 12 Gorffennaf 10am tan 12pm

Plas Iona, Stryd Bute, Butetown, CF10 5HW
 

Dydd Iau 15 Gorffennaf  4pm tan 6pm

Plas Iona, Stryd Bute, Butetown, CF10 5HW

 

Daw'r cyfnod ymgysylltu i ben ar 23 Gorffennaf 2021