Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Gaerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd;Dwy Lôn ar Stryd y Castell i ailagor i draffig cyffredinol; Caerdydd yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi cynlluniau adfer COVID y ddinas; Datgelu cynlluniau Coridor Trafnidiaeth y Gogledd-orllewin; a Datgelu Cynllun Amddiffyn yr Arfordir gwerth £25m ar gyfer Caerdydd.
Canolfan Brechu Torfal y Bae sesiynau Galw Heibio i gael Dos Cyntaf
Rydym yn cynnal clinigau heibio ar gyfer y dos cyntaf bob penwythnos yng Nghanolfan Brechu Torfol y Bae.
Dewch draw yfory os nad ydych wedi cael dos cyntaf eich Brechlyn COVID-19 eto, rydych chi'n 18 oed neu'n hŷn ac yn byw ac/neu yn gweithio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 11 Mehefin
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 528,951 (Dos 1: 347,303 Dos 2: 181,637)
- 80 a throsodd: 20,980 / 94.4% (Dos 1) 20,107 / 90.4% (Dos 2)
- 75-79: 15,093 / 96% (Dos 1) 14,606 / 92.9% (Dos 2)
- 70-74: 21,462 / 95.4% (Dos 1) 21,093 / 93.8% (Dos 2)
- 65-69: 21,843 / 93.6% (Dos 1) 20,876 / 89.5% (Dos 2)
- 60-64: 25,869 / 91.6% (Dos 1) 24,729 / 87.6% (Dos 2)
- 55-59: 29,113 / 89.4% (Dos 1) 18,839 / 57.9% (Dos 2)
- 50-54: 28,604 / 86.7% (Dos 1) 13,508 / 40.9% (Dos 2)
- 40-49: 53,644 / 79.5% (Dos 1) 20,283 / 30% (Dos 2)
- 30-39: 56,454 / 71.1% (Dos 1) 14,033 / 17.7% (Dos 2)
- 18-29: 70,384 / 69.5% (Dos 1) 12,973 / 12.8% (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 1,977 / 98% (Dos 1) 1,919 / 95.1% (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 11,288 / 93.2% (Dos 1) 10,708 / 88.4% (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,486 / 88.3% (Dos 1) 37,042 / 71.9% (Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (31 Mai - 06 Mehefin)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
10 Mehefin 2021, 09:00
Achosion: 51
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 13.9 (Cymru: 13.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,572
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 973.6
Cyfran bositif: 1.4% (Cymru: 1.4% cyfran bositif)
Dwy Lôn ar Stryd y Castell i ailagor i draffig cyffredinol
Disgwylir y bydd Stryd y Castell Caerdydd yn ailagor i draffig cyffredinol yn yr hydref cyn gynted ag y bydd gwaith ffordd, marciau ffordd ac arwyddion wedi'u rhoi ar waith i'w gwneud yn ddiogel.
Bydd argymhelliad i ailagor y stryd, a gaewyd i helpu busnesau bwyd a diod i barhau'n hyfyw yn ystod y cyfnod pan oedd y pandemig ar ei waethaf y llynedd, yn cael ei ddwyn gerbron Cabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod nesaf ar ddydd Iau, 17 Mehefin. Mae'n dilyn ymgynghoriad oedd yn cynnig dau opsiwn i'r cyhoedd:
1. Caniatáu i draffig cyffredinol ddefnyddio'r stryd;
2. Caniatáu i fysys, tacsis a beicwyr yn unig i ddefnyddio'r stryd.
Cymerodd dros 6,227 o bobl ran yn yr ymgynghoriad gyda 53.8% yn credu bod mantais sylweddol i ailagor y ffordd i draffig cyffredinol, a 33.8% yn credu ei bod yn fantais sylweddol i gadw traffig cyffredinol oddi ar y ffordd.
Er mwyn bodloni gofyniad cyfreithiol rwymol i ostwng llygredd ar y stryd i derfynau derbyniol, bydd Stryd y Castell yn cael ei chyfyngu i un lôn o draffig i'r naill gyfeiriad a'r llall i bob cerbyd. Bydd y llwybr beicio dwyffordd a'r lôn fysiau bwrpasol tua'r gorllewin yn parhau er mwyn sicrhau na eir yn uwch na'r terfynau llygredd cyfreithiol. Mae hyn yn cynrychioli cynllun gwreiddiol y Cyngor ar gyfer y ffordd fel y'i nodwyd yn y Strategaeth Drafnidiaeth a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020.
Wedi i'r ffordd gael ei hagor i draffig cyffredinol, bydd rhagor o waith modelu llifoedd traffig yn digwydd. Bydd y modelu hwn yn caniatáu i'r cyngor wneud asesiad o lygredd aer yng nghanol y ddinas wrth i gymudwyr ddychwelyd i'r gwaith ac wrth i nifer yr ymwelwyr ddychwelyd i'r lefelau arferol ar ôl y pandemig. Bydd effaith agor y llwybr i geir preifat, ar Stryd y Castell a'r ardaloedd cyfagos, hefyd yn cael ei monitro. Bydd y data newydd hwn ar lifoedd traffig ar ôl y pandemig wedyn yn cael ei ddefnyddio i lywio cynlluniau i leihau llygredd aer a thagfeydd yn y ddinas ymhellach.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae tagfeydd a lefelau ansawdd aer yn parhau i fod yn bryder mawr i breswylwyr. Er bod ansawdd aer yn gwella yn y ddinas yn gyffredinol, rydym yn rhannu pryderon y gall tagfeydd traffig lleol achosi problemau mewn ardaloedd preswyl canolog. Mae hyn yn rhywbeth rydym am gael mwy o ddata amdano yn enwedig wrth i bethau ddechrau dychwelyd i'r drefn arferol ac wrth i draffig gynyddu.
"Bydd yr oedi wrth weithredu cynllun mwy parhaol yn ein galluogi i gynnal asesiadau traffig pellach. Bydd hyn yn rhoi'r data diweddaraf ac amser real i ni ar lifoedd traffig ar ôl y pandemig, wrth i gymudwyr ac ymwelwyr ddychwelyd i'r ddinas. Mae angen i ni ddeall a fydd y newid i weithio gartref a'r cynnydd yn nifer y teithiau llesol yr ydym wedi'i weld yn cael effaith hirdymor ar lif traffig.
"Mae llawer ohonom wedi dod i arfer â llai o draffig yn ystod y pandemig ac wedi arfer â'r aer glanach a'r buddion a ddaw i iechyd yn sgil hynny. Dydw i ddim yn meddwl bod yr un ohonom am ddychwelyd i ddinas o dagfeydd traffig, a dyna pam, rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn llwybrau cerdded a beicio ac mewn opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus glanach, cyflymach a hygyrch. Rydym hefyd wedi ymrwymo i'n cynlluniau ar gyfer Metro De Cymru ac yn edrych ar ffyrdd o ariannu llwybrau a gorsafoedd newydd, gan gynnwys parhau â'n gwaith dichonoldeb o ran codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd."
Caerdydd yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi cynlluniau adfer COVID y ddinas
Mae darparu cysylltiad 'Highline' tebyg i Efrog Newydd, yn cysylltu canol dinas Caerdydd â'r Bae, adfer mawredd Fictoraidd Marchnad Caerdydd a chreu Parth Ieuenctid newydd yn Nhrelái yn dri chynllun yn unig o blith y prosiectau y mae Cyngor Caerdydd yn eu datblygu'n rhan o raglen 'Codi'r Gwastad' Llywodraeth y DU.
Mae'r rhaglen yn galw ar gynghorau i gynnig ceisiadau i rownd gyntaf Cronfa bedair blynedd Codi'r Gwastad, sy'n werth £4.8bn, ac sydd â'r nod o roi hwb i brosiectau a helpu ardaloedd ledled y DU i adfywio ar ôl y pandemig.
Gall awdurdodau lleol wneud cais am arian ar gyfer un prosiect fesul etholaeth seneddol, ynghyd ag un prosiect arall sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Mae hyn yn golygu y gall Caerdydd wneud cais am gyfanswm o hyd at bum prosiect sy'n cwmpasu Canol Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Caerdydd, Gogledd Caerdydd, a'r prosiect trafnidiaeth ychwanegol.
Bydd adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau, 17 Mehefin, yn argymell bod y Cyngor yn gwneud cais am arian ar gyfer y prosiectau canlynol:
- Y cysylltiad 'Highline' rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd (cais trafnidiaeth);
- Adfer Marchnad Caerdydd (Canol Caerdydd);
- Darparu 'Parth Ieuenctid' newydd ar gyfer Trelái (Gorllewin Caerdydd);
- Prosiect Coridor Afon Taf - agor glannau Caerdydd (De Caerdydd a Phenarth);
- Atyniad newydd i ymwelwyr yn canolbwyntio ar natur yn Fferm y Fforest (Gogledd Caerdydd).
Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet, bydd cais Marchnad Caerdydd yn mynd yn ei flaen ar gyfer rownd un ceisiadau'r gronfa. Yna bydd gwaith datblygu manylach yn cael ei wneud ar y prosiectau eraill cyn eu cyflwyno mewn cylchoedd ariannu diweddarach.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r cynigion hyn. Rydym wedi bod yn gweithio ar sawl syniad yn y cefndir ers peth amser a gallai'r cyfle hwn i sicrhau buddsoddiad ein helpu i roi hwb i'r prosiectau hyn, dod â swyddi a rhoi hwb hanfodol i'r ddinas wrth i ni geisio adnewyddu ac adfywio Caerdydd a dechrau ein hadferiad o effeithiau'r pandemig. Mae'r rhain yn gynlluniau a allai fod o gymorth mawr i gymunedau a busnesau ledled y ddinas. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cydnabod bod Caerdydd yn faes Blaenoriaeth 1 sydd ag angen codi'r gwastad, felly mae'n hanfodol bwysig eu bod yn dod ar y daith hon gyda ni ac yn cefnogi'r cynlluniau hyn."
Mae'n rhaid cyflwyno'r cylch cyntaf o geisiadau erbyn 18 Mehefin a disgwylir y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud cyhoeddiad ar geisiadau llwyddiannus yn ddiweddarach yn y flwyddn.
Datgelu cynlluniau Coridor Trafnidiaeth y Gogledd-orllewin
Mae cynlluniau newydd sydd wedi eu creu i helpu i gysylltu a gwella opsiynau teithio i breswylwyr a chymudwyr i Gaerdydd wedi cael eu datgelu.
Mae cam cyntaf astudiaeth gan Lywodraeth Cymru i 'Goridor Trafnidiaeth y Gogledd-orllewin' - sy'n rhedeg o Rondda Cynon Taf i ganol y ddinas drwy Donysguboriau, Llantrisant, Plasdŵr a Chreigiau wedi'i gyhoeddi.
Bydd Cyngor Caerdydd a Chyngor RhCT nawr yn adolygu'r cynlluniau i ystyried sut gallan nhw wasanaethu preswylwyr a chymudwyr orau.
Mae nifer o gynigion a gynlluniwyd i wella cysylltiadau cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus â'r ddinas-ranbarth ehangach erbyn 2025 yn rhan o astudiaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Cynyddu nifer y gwasanaethau ar Linell y Ddinas i o leiaf bedwar trên yr awr rhwng Canol Caerdydd a Radur;
- Gorsaf drenau newydd ar Linell y Ddinas ym Melin Trelái;
- Cynyddu nifer y gwasanaethau ar Brif Linell De Cymru, i wella gwasanaethau o Bont-y-clun;
- Creu gorsaf drenau Parc Caerdydd ar Brif Linell De Cymru wrth Gyffordd 34 oddi ar yr M4 gyda llinell drên gysylltiol i alluogi mynediad haws i swyddi i'r gorllewin a'r dwyrain o'r ddinas;
- Gwella'r gallu i gyfnewid dulliau teithio o gar i fws a/neu drên, ac i gerdded neu feicio mewn gorsafoedd trenau, hybiau trafnidiaeth a gwasanaethau parcio a theithio;
- Gwella teithio llesol, cyfnewidfa bysus a threnau yng ngorsaf drenau Radur ar Linell y Ddinas;
- Gwasanaeth parcio a theithio bws strategol wrth Gyffordd 33 oddi ar Draffordd yr M4;
- Llwybr Cludiant Cyflym Bysys newydd rhwng canol Caerdydd a Chyffordd 33 drwy Heol Lecwydd a'r A4232;
- Giât a changen bysys i ddarparu mynediad o'r A4232 (tua'r gogledd a'r de) i Blasdŵr;
- Cyfnewidfa teithio llesol/bws a thrên yng ngorsaf Parc Waungron ar Linell y Ddinas;
- Llwybr Cludiant Cyflym Bysus newydd o Ganol Caerdydd i Blasdŵr drwy Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Parc Waungron a'r Tyllgoed; a
- Llwybr Cludiant Cyflym Bysus newydd o Gyffordd 33 i Donysguboriau drwy'r A4119 gyda chysylltiadau ymlaen i dai yn ne Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried llawer o'r syniadau a nodwyd ym mhapur gwyn Caerdydd ar drafnidiaeth. Fel rydyn ni, maen nhw'n gweld yr angen i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, wrth i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu.
"Ar gam cynnar y mae cynllun Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru Llywodraeth Cymru, ond mae'n rhoi cyfle i ni nawr eistedd i lawr gyda'n cydweithwyr yng Nghyngor RhCT i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen i breswylwyr a chymudwyr sy'n teithio i mewn ac allan o Gaerdydd.
"Mae angen system drafnidiaeth gyhoeddus ar Gaerdydd sy'n addas i brifddinas sy'n tyfu. Roedd ein Papur Gwyn yn nodi llwybr clir at ddarparu'r system honno. Gallai cynlluniau Llywodraeth Cymru helpu i wella opsiynau trafnidiaeth i ganol y ddinas. Bydd yn creu cysylltiadau â'r datblygiadau tai newydd, sy'n darparu tai y mae mawr eu hangen. Gallai hefyd helpu i sicrhau dyfodol gwyrddach, mwy cynaliadwy ac iachach i'n cymunedau tra'n lleihau ein dibyniaeth ar y car preifat.
"Cyn y pandemig roeddem i gyd yn gwybod bod y cynnydd yn nifer y cymudwyr oedd yn defnyddio ceir yn effeithio ar y ddinas, yn tagu'r ffyrdd mewn mannau prysur penodol ar y rhwydwaith, yn creu llygredd ac yn niweidio ein hiechyd. Nawr, mae gennym gyfle, gan weithio gyda'n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, i gysylltu safleoedd strategol yng ngogledd y ddinas â chanol dinas Caerdydd, a Rhondda Cynon Taf, gan wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis mwy hyfyw a deniadol i gymudwyr a thrigolion."
Nid oes unrhyw benderfyniadau ffurfiol wedi eu gwneud ynghylch beth fydd y llwybrau neu'r atebion, gan y bydd yr opsiynau strategol a nodwyd ac sydd ar y rhestr fer yn cael eu hasesu drwy brosesau Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol. Y weledigaeth a'r dyhead hirdymor yw darparu ateb trafnidiaeth gyhoeddus cyflym sy'n cysylltu'r cymunedau ar hyd Coridor y Gogledd-orllewin â Metro ehangach De Cymru.
Datgelu Cynllun Amddiffyn yr Arfordir gwerth £25m ar gyfer Caerdydd
Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu amddiffynfa rhag llifogydd gwerth miliynau o bunnoedd i amddiffyn de-ddwyrain Caerdydd rhag storm unwaith-mewn-200-mlynedd a rhag lefelau môr uwch yn sgil newid yn yr hinsawdd.
Mae cynlluniau ar gyfer y cynllun gwerth £25m i amddiffyn yr arfordir ar lannau'r Afon Rhymni wedi cael eu rhyddhau gan Gyngor Caerdydd.
Bydd yr amddiffynfa rhag llifogydd newydd, a allai fod yn barod erbyn 2023, yn helpu i:
- Reoli perygl llifogydd ar gyfer ychydig yn llai na 1,200 o eiddo;
- Atal deunydd o safle tirlenwi Ffordd Lamby rhag erydu i'r môr;
- Diogelu seilwaith ffyrdd allweddol, archfarchnad a safle Teithwyr Ffordd Rover am y 100 mlynedd nesaf.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Y perygl mwyaf i Gaerdydd ar hyn o bryd yw llifogydd a lefelau'r môr yn codi oherwydd newid yn yr hinsawdd. Mae ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd ar hyd y blaendraeth ger Ffordd Rover mewn cyflwr gwael a chawsant eu creu ar gyfer y tymor byr i ganolig yn unig, felly mae'n bwysig iawn bod camau'n cael eu cymryd nawr i ddiogelu'r rhan hon o'r ddinas."
Mae'r cynllun wedi'i ddylunio i sicrhau cyn lleied o effaith â phosibl ar gynefinoedd presennol yr afonydd a blaendraethau arfordirol.
Mae'r cynigion ar gyfer yr amddiffynfeydd newydd yn cynnwys:
- Gosod amddiffynfeydd meini ar y blaendraeth arfordirol ar ddwy ochr yr afon Rhymni;
- Codi a chynnal a chadw amddiffynfeydd môr ar hyd yr afon Rhymni;
- Codi'r argloddiau amddiffyn arfordirol sy'n bodoli eisoes.
Bydd Llywodraeth Cymru yn talu 85% o gost y cynllun a bydd Cyngor Caerdydd yn darparu'r gweddill.
Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: "Bydd y cynllun amddiffyn yr arfordir yn gweld 100,000 tunnell o graig yn cael ei ddefnyddio ar y forlin, gan godi'r glannau'r afon y tu ôl iddi, yn ogystal â'r argloddiau wrth ymyl y briffordd. Bydd yn rhaid drilio dalennau dur 12 metr i mewn i graigwely'r afon er mwyn cynnal strwythur glan yr afon ac yna bydd y llwybr arfordirol yn cael ei adeiladu ar ben yr arglawdd a godwyd er mwyn cynnal mynediad ar hyd blaendraeth yr afon at ddefnydd y cyhoedd. Rydym yn gobeithio cwblhau'r cyfan erbyn 2023, gan ddiogelu cartrefi, busnesau a bywoliaethau am flynyddoedd i ddod."