The essential journalist news source
Back
11.
June
2021.
Datgelu cynlluniau Coridor Trafnidiaeth y Gogledd-orllewin

11/06/21

Mae cynlluniau newydd sydd wedi eu creu i helpu i gysylltu a gwella opsiynau teithio i breswylwyr a chymudwyr i Gaerdydd wedi cael eu datgelu.

Mae cam cyntaf astudiaeth gan Lywodraeth Cymru i 'Goridor Trafnidiaeth y Gogledd-orllewin' - sy'n rhedeg o Rondda Cynon Taf i ganol y ddinas drwy Donysguboriau, Llantrisant, Plasdŵr a Chreigiau wedi'i gyhoeddi.

Bydd Cyngor Caerdydd a Chyngor RhCT nawr yn adolygu'r cynlluniau i ystyried sut gallan nhw wasanaethu preswylwyr a chymudwyr orau.

Mae nifer o gynigion a gynlluniwyd i wella cysylltiadau cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus â'r ddinas-ranbarth ehangach erbyn 2025 yn rhan o astudiaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cynyddu nifer y gwasanaethau ar Linell y Ddinas i o leiaf bedwar trên yr awr rhwng Canol Caerdydd a Radur;
  • Gorsaf drenau newydd ar Linell y Ddinas ym Melin Trelái;
  • Cynyddu nifer y gwasanaethau ar Brif Linell De Cymru, i wella gwasanaethau o Bont-y-clun;
  • Creu gorsaf drenau Parc Caerdydd ar Brif Linell De Cymru wrth Gyffordd 34 oddi ar yr M4 gyda llinell drên gysylltiol i alluogi mynediad haws i swyddi i'r gorllewin a'r dwyrain o'r ddinas;
  • Gwella'r gallu i gyfnewid dulliau teithio o gar i fws a/neu drên, ac i gerdded neu feicio mewn gorsafoedd trenau, hybiau trafnidiaeth a gwasanaethau parcio a theithio;
  • Gwella teithio llesol, cyfnewidfa bysus a threnau yng ngorsaf drenau Radur ar Linell y Ddinas;
  • Gwasanaeth parcio a theithio bws strategol wrth Gyffordd 33 oddi ar Draffordd yr M4;
  • Llwybr Cludiant Cyflym Bysys newydd rhwng canol Caerdydd a Chyffordd 33 drwy Heol Lecwydd a'r A4232;
  • Giât a changen bysys i ddarparu mynediad o'r A4232 (tua'r gogledd a'r de) i Blasdŵr;
  • Cyfnewidfa teithio llesol/bws a thrên yng ngorsaf Parc Waungron ar Linell y Ddinas;
  • Llwybr Cludiant Cyflym Bysus newydd o Ganol Caerdydd i Blasdŵr drwy Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Parc Waungron a'r Tyllgoed; a
  • Llwybr Cludiant Cyflym Bysus newydd o Gyffordd 33 i Donysguboriau drwy'r A4119 gyda chysylltiadau ymlaen i dai yn ne Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried llawer o'r syniadau a nodwyd ym mhapur gwyn Caerdydd ar drafnidiaeth. Fel rydyn ni, maen nhw'n gweld yr angen i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, wrth i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu.

"Ar gam cynnar y mae cynllun Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru Llywodraeth Cymru, ond mae'n rhoi cyfle i ni nawr eistedd i lawr gyda'n cydweithwyr yng Nghyngor RhCT i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen i breswylwyr a chymudwyr sy'n teithio i mewn ac allan o Gaerdydd.

"Mae angen system drafnidiaeth gyhoeddus ar Gaerdydd sy'n addas i brifddinas sy'n tyfu. Roedd ein Papur Gwyn yn nodi llwybr clir at ddarparu'r system honno. Gallai cynlluniau Llywodraeth Cymru helpu i wella opsiynau trafnidiaeth i ganol y ddinas. Bydd yn creu cysylltiadau â'r datblygiadau tai newydd, sy'n darparu tai y mae mawr eu hangen. Gallai hefyd helpu i sicrhau dyfodol gwyrddach, mwy cynaliadwy ac iachach i'n cymunedau tra'n lleihau ein dibyniaeth ar y car preifat.

"Cyn y pandemig roeddem i gyd yn gwybod bod y cynnydd yn nifer y cymudwyr oedd yn defnyddio ceir yn effeithio ar y ddinas, yn tagu'r ffyrdd mewn mannau prysur penodol ar y rhwydwaith, yn creu llygredd ac yn niweidio ein hiechyd. Nawr, mae gennym gyfle, gan weithio gyda'n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, i gysylltu safleoedd strategol yng ngogledd y ddinas â chanol dinas Caerdydd, a Rhondda Cynon Taf, gan wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis mwy hyfyw a deniadol i gymudwyr a thrigolion."

Nid oes unrhyw benderfyniadau ffurfiol wedi eu gwneud ynghylch beth fydd y llwybrau neu'r atebion, gan y bydd yr opsiynau strategol a nodwyd ac sydd ar y rhestr fer yn cael eu hasesu drwy brosesau Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol. Y weledigaeth a'r dyhead hirdymor yw darparu ateb trafnidiaeth gyhoeddus cyflym sy'n cysylltu'r cymunedau ar hyd Coridor y Gogledd-orllewin â Metro ehangach De Cymru.