The essential journalist news source
Back
10.
June
2021.
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 10 Mehefin

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; Dechrau'r gwaith o ddod o hyd i brentisiaid parciau nesaf Caerdydd (chwech) a newid bywydau; aCymorth i ofalwyr ifanc gyda chynllun cerdyn adnabod newydd.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 10 Mehefin

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  525,335  (Dos 1: 347,087 Dos 2:  178,237)

 

  • 80 a throsodd: 20,980 / 94.4% (Dos 1) 20,047 / 90.2% (Dos 2)
  • 75-79: 15,093 / 96% (Dos 1) 14,596 / 92.8% (Dos 2)
  • 70-74: 21,460 / 95.4% (Dos 1) 21,083 / 93.7% (Dos 2)
  • 65-69: 21,827 / 93.6% (Dos 1) 20,851 / 89.4% (Dos 2)
  • 60-64: 25,868 / 91.6% (Dos 1) 24,678 / 87.4% (Dos 2)
  • 55-59: 29,111 / 89.4% (Dos 1) 17,054 / 52.4% (Dos 2)
  • 50-54: 28,598 / 86.7% (Dos 1) 13,319 / 40.4% (Dos 2)
  • 40-49: 53,629 / 79.4% (Dos 1) 19,516 / 28.9% (Dos 2)
  • 30-39: 56,406 / 71% (Dos 1) 13,714 / 17.3% (Dos 2)
  • 18-29: 70,255 / 69.4% (Dos 1) 12,865 / 12.7% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,977 / 98% (Dos 1) 1,919 / 95.1% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,274 / 93.2% (Dos 1) 10,672 / 88.2% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,472 / 88.3% (Dos 1) 36,445 / 70.8% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (30 Mai - 05 Mehefin)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

09 Mehefin 2021, 09:00

 

Achosion: 49

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 13.4 (Cymru: 12.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,596

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 980.1

Cyfran bositif: 1.4% (Cymru: 1.3% cyfran bositif)

 

Dechrau'r gwaith o ddod o hyd i brentisiaid parciau nesaf Caerdydd (chwech) a newid bywydau

Dychmygwch mai Parc Bute yw eich swyddfa. Neu dreulio eich dyddiau ym Mharc Cefn Onn, Parc y Rhath, neu unrhyw un o'r cannoedd o barciau a mannau gwyrdd o amgylch Caerdydd.  Efallai ei fod yn swnio fel breuddwyd, ond i chwech o bobl gallai ddod yn realiti cyn bo hir, oherwydd mae Cyngor Caerdydd wrthi'n chwilio am chwe phrentis i ymuno â'n gwasanaeth parciau, ac yng ngeiriau ein cyn-brentis (ac aelod parhaol o'r tîm erbyn hyn) Josh, gallai hyn "newid eich bywyd".

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Ers 2004, mae un ar bymtheg o bobl wedi graddio o brentisiaethau yn ein parciau ac wedi mynd ymlaen i ddod o hyd i swyddi parhaol yn gweithio i Gaerdydd yn rhai o fannau gwyrdd gwych y ddinas."

Un o'r bobl hynny oedd Joshua Thatcher, sydd bellach yn dyfwr coed yn nhîm y parciau, sy'n cyfaddef ei hun ei fod, "braidd yn drafferthus" yn yr ysgol.

Ar ôl cael profiad gwaith cynnar gydag adran y parciau yn 15 oed, roedd Josh yn gobeithio dilyn gyrfa mewn garddwriaeth, ond aeth sawl blwyddyn heibio cyn iddo wneud cais am brentisiaeth.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26759.html

 

Cymorth i ofalwyr ifanc gyda chynllun cerdyn adnabod newydd

Lansiwyd heddiw (Dydd Iau, Mehefin 10), yn ystod Wythnos Gofalwyr, gynllun newydd i alluogi gofalwyr ifanc yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i gael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth sydd eu hangen arnynt.

Mae'r cerdyn adnabod i Ofalwyr Ifanc yn fenter genedlaethol i wella dealltwriaeth o rôl pobl ifanc sy'n gofalu am aelod o deulu neu ffrind, yn enwedig ymhlith y gweithwyr proffesiynol hynny y maent yn dod i gysylltiad â nhw amlaf. Bydd y cynllun yn nodi'r person ifanc sy'n cario'r cerdyn fel gofalwr ifanc, ac yn helpu pobl fel meddygon, athrawon a fferyllwyr i'w hadnabod a'u cefnogi'n briodol.

Gofalwr ifanc yw rhywun sy'n 18 oed neu'n iau sy'n gofalu am rywun nad yw'n gallu ymdopi heb ei gymorth oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth.

Mae dros 350 o ofalwyr ifanc yn cael eu cefnogi gan wasanaethau yng Nghaerdydd a'r Fro ac mae'r unigolion hyn yn gwneud cymaint i helpu a chefnogi aelodau o'r teulu a ffrindiau, yn aml heb eu gweld, gan roi cymorth a chefnogaeth ymarferol ac emosiynol - o olchi, cario a choginio i drefnu cyllid y teulu. Mae cyfanswm amcangyfrifedig nifer y gofalwyr ifanc ar draws y rhanbarthau yn fwy tebygol o fod yn nes at un o bob pump plentyn a pherson ifanc oedran ysgol.

Mae Cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg yn gweithio gyda'r YMCA i gyflawni'r cynllun cerdyn adnabod ar draws y rhanbarth.  Mae'r YMCA eisoes yn cefnogi gofalwyr ifanc yn yr ardal drwy amrywiol fentrau gan gynnwys Prosiect Gofalwyr Ifanc Caerdydd a'r gofalwyr ifanc sydd eisoes yn gweithio gyda'r elusen fydd y cyntaf i dderbyn eu cardiau adnabod newydd.

Bydd y cerdyn yn cynnwys llun o'r gofalwr ifanc, ei ddyddiad geni, a dyddiad dod i ben, yn ogystal â gwybodaeth gyswllt Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a gwasanaethau gofalwyr ifanc. Bydd logo cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc, a ddyluniwyd gan ddau ofalwr ifanc, ar bob cerdyn.

Dywedodd y Cynghorydd Graham Hinchey, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Blant a Theuluoedd: "Rydym yn falch iawn o lansio'r cerdyn adnabod gofalwyr ifanc yn y rhanbarth gyda Chyngor Bro Morgannwg a'r YMCA. Bydd y cerdyn yn ffordd gyflym a syml o roi gwybodi athrawon, fferyllwyr a meddygon teulu fod y person ifanc hwn yn gofalu am rywun arall. Bydd y cynllun yn helpu i godi hyder gofalwyr ifanc wrth iddynt gyflawni eu rôl ac yn helpu i oresgyn rhai o'r heriau y gallent fod wedi'u hwynebu o'r blaen, megis problemau wrth gasglu meddyginiaethau i'r person y maent yn gofalu amdano."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26759.html