The essential journalist news source
Back
10.
June
2021.
Cymorth i ofalwyr ifanc gyda chynllun cerdyn adnabod newydd

 


 

10/6/21
Lansiwyd heddiw (Dydd Iau, Mehefin 10), yn ystod Wythnos Gofalwyr, gynllun newydd i alluogi gofalwyr ifanc yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i gael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth sydd eu hangen arnynt.

 

Mae'r cerdyn adnabod i Ofalwyr Ifanc yn fenter genedlaethol i wella dealltwriaeth o rôl pobl ifanc sy'n gofalu am aelod o deulu neu ffrind, yn enwedig ymhlith y gweithwyr proffesiynol hynny y maent yn dod i gysylltiad â nhw amlaf. Bydd y cynllun yn nodi'r person ifanc sy'n cario'r cerdyn fel gofalwr ifanc, ac yn helpu pobl fel meddygon, athrawon a fferyllwyr i'w hadnabod a'u cefnogi'n briodol.

Gofalwr ifanc yw rhywun sy'n 18 oed neu'n iau sy'n gofalu am rywun nad yw'n gallu ymdopi heb ei gymorth oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth.

Mae dros 350 o ofalwyr ifanc yn cael eu cefnogi gan wasanaethau yng Nghaerdydd a'r Fro ac mae'r unigolion hyn yn gwneud cymaint i helpu a chefnogi aelodau o'r teulu a ffrindiau, yn aml heb eu gweld, gan roi cymorth a chefnogaeth ymarferol ac emosiynol - o olchi, cario a choginio i drefnu cyllid y teulu. Mae cyfanswm amcangyfrifedig nifer y gofalwyr ifanc ar draws y rhanbarthau yn fwy tebygol o fod yn nes at un o bob pump plentyn a pherson ifanc oedran ysgol.

Mae Cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg yn gweithio gyda'r YMCA i gyflawni'r cynllun cerdyn adnabod ar draws y rhanbarth.  Mae'r YMCA eisoes yn cefnogi gofalwyr ifanc yn yr ardal drwy amrywiol fentrau gan gynnwys Prosiect Gofalwyr Ifanc Caerdydd a'r gofalwyr ifanc sydd eisoes yn gweithio gyda'r elusen fydd y cyntaf i dderbyn eu cardiau adnabod newydd.

Bydd y cerdyn yn cynnwys llun o'r gofalwr ifanc, ei ddyddiad geni, a dyddiad dod i ben, yn ogystal â gwybodaeth gyswllt Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a gwasanaethau gofalwyr ifanc. Bydd logo cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc, a ddyluniwyd gan ddau ofalwr ifanc, ar bob cerdyn.

Dywedodd y Cynghorydd Graham Hinchey, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Blant a Theuluoedd: "Rydym yn falch iawn o lansio'r cerdyn adnabod gofalwyr ifanc yn y rhanbarth gyda Chyngor Bro Morgannwg a'r YMCA. Bydd y cerdyn yn ffordd gyflym a syml o roi gwybodi athrawon, fferyllwyr a meddygon teulu fod y person ifanc hwn yn gofalu am rywun arall. Bydd y cynllun yn helpu i godi hyder gofalwyr ifanc wrth iddynt gyflawni eu rôl ac yn helpu i oresgyn rhai o'r heriau y gallent fod wedi'u hwynebu o'r blaen, megis problemau wrth gasglu meddyginiaethau i'r person y maent yn gofalu amdano."

Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Ni waeth pwy y mae gofalwr ifanc yn gofalu amdano, mae'n cael effaith ar fywyd y person ifanc hwnnw, boed hynny ar ei les emosiynol neu gorfforol, ei gyflawniad addysgol neu ei gyfleoedd mewn bywyd. Fodd bynnag, gyda'r gefnogaeth gywir, gall pobl ifanc gydbwyso eu dyletswyddau gofalu â gwneud y pethau sy'n bwysig iddynt, a ellir eu grymuso i gyflawni eu potensial a chyflawni eu huchelgeisiau.

"Bydd y cynllun cerdyn adnabod newydd hwn yn codi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau gofalwyr ifanc ac yn eu helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnynt."

Ychwanegodd Caroline Ryan, Pennaeth Ieuenctid a Chymuned, YCMA Caerdydd: "Efallai na fydd llawer o blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd a'r Fro heddiw hyd yn oed yn sylweddoli eu bod yn ofalwr ifanc. Rydym yn gobeithio y bydd lansio'r cerdyn adnabod newydd yn codi ymwybyddiaeth o'r rôl hanfodol y mae gofalwyr ifanc yn ei chwarae nid yn unig ymhlith gweithwyr proffesiynol a'r gymuned ehangach, ond gyda'r plant a'r bobl ifanc eu hunain. Yn unol â'r gyfraith, mae ganddynt yr hawl i gael asesiad o anghenion gofalwr ac i gael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth ar gyfer eu rôl gofalu."

Dywedodd Kate Cubbage, Pennaeth Materion Allanol Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:"Mae gofalwyr ifanc wedi galw ers tro am gerdyn adnabod i'w cefnogi yn eu rôl gofalu ac i'w helpu i fod â'r hyder i ofyn am help pan fydd ei angen arnynt.

"Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn falch iawn o fod wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i arwain y gwaith o ddatblygu cyfres o adnoddau i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r model cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc cenedlaethol a fydd yn annog gofalwyr ifanc i gael yr hyder i siarad yn agored am eu rôl gofalu gyda gweithwyr proffesiynol o faes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. Bydd yr adnoddau, sydd ar gael i'w lawrlwytho yn https://carers.org/around-the-uk-our-work-in-wales/young-carers-id-card-welsh, hefyd yn rhoi i weithwyr proffesiynol yr offer sydd eu hangen arnynt i adnabod gofalwyr ifanc ac i roi cymorth priodol iddynt.

"Mewn ymateb i heriau sydd wedi'u lluosogi gan y pandemig mae llawer o awdurdodau lleol wedi cyflymu lansiad eu cerdyn adnabod, a bydd pob awdurdod lleol yn sicrhau bod cerdyn adnabod ar gael i'w gofalwyr ifanc erbyn mis Mawrth 2022.

"Yr Wythnos Gofalwyr hon rydym yn falch o ddathlu lansio'r cerdyn adnabod yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg a fydd yn helpu i sicrhau bod gofalwyr ifanc ar draws y rhanbarth yn cael y gydnabyddiaeth, y parch a'r gefnogaeth y maent yn eu haeddu. 

"Rydym wedi croesawu'r cyfle i gydweithio â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff proffesiynol ledled Cymru i wneud cynnydd mor gadarnhaol i ofalwyr ifanc."

 

Gall ysgolion a gweithwyr addysg proffesiynol gyfeirio gofalwr ifanc at y cynllun cerdyn adnabod ar wefan YMCA ymahttps://www.ymcacardiff.wales/ycid/ Gall gofalwyr ifanc atgyfeirio eu hunain hefyd, ond rhaid i unrhyw un dan 14 oed gael cydsyniad rhieni cyn cael cerdyn.

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi bod yn allweddol wrth gefnogi'r cynllun cerdyn adnabod cenedlaethol a'i gyflwyno ledled Cymru. I ategu'r cardiau adnabod newydd, cynhyrchwyd amrywiaeth o adnoddau dysgu gan yr Ymddiriedolaeth gan gynnwys animeiddiadau a straeon gofalwyr ifanc i helpu athrawon, meddygon ac eraill i ddeall mwy am yr heriau y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu.

Gwyliwch yr animeiddiad ymahttps://www.youtube.com/watch?v=PwoB6SaaBbYac ewch iYr holl adnoddau - Ymddiriedolaeth Gofalwyram ystod o wybodaeth ddefnyddiol.