The essential journalist news source
Back
9.
June
2021.
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 09 Mehefin

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: Cynlluniau gan y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol i hybu cyfleoedd cyflogaeth; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; gweddnewidiad Maelfa wedi'i gwblhau; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.

 

Cynlluniau gan y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol i hybu cyfleoedd cyflogaeth

Mae Tasglu Cydraddoldeb Hiliol a sefydlwyd i ddelio ag anghydraddoldeb hiliol ledled Caerdydd wedi rhyddhau ei set gyntaf o argymhellion.

Mae'r Tasglu, a gynigiwyd gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, mewn ymateb i farwolaeth drasig George Floyd yn UDA a mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn y DU, wedi bod yn gweithio ar gyfres o gynigion i helpu i wella bywydau a chyfleoedd cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd.

Mae'r set gyntaf o argymhellion yn cynnwys:

 

  • Codi ymwybyddiaeth o asiantaeth gyflogaeth y cyngor, 'Caerdydd ar Waith' ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig;
  • Cynnal cyfres o wasanaethau Cyngor i Mewn i Waith gyda'r nod o gynyddu cyfranogiad lleiafrifoedd ethnig ac sy'n gysylltiedig â chyfleoedd Caerdydd ar Waith;
  • Darparu cynllun mentora a dilyniant gyrfa ar gyfer gweithwyr presennol y cyngor;
  • Gwella gweithdrefnau mewn ysgolion ar gyfer adrodd am fwlio a throseddau casineb a'u cofnodi;
  • Galluogi ysgolion i ymuno â'r rhwydwaith 'Ysgolion Noddfa';
  • Dod yn llofnodwr Maniffesto Cynghrair Hil Cymru;
  • Prosiect Ymgysylltu Democrataidd Pobl Ifanc: Creu cynllun sy'n annog pobl ifanc, dosbarth gweithiol, i ddatblygu sgiliau arwain a'r hyder i gymryd rôl arweiniol wrth gynrychioli eu cymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas: "Er bod gan Gaerdydd hanes balch o amlddiwylliannaeth, a thraddodiad o ddathlu amrywiaeth, mae digwyddiadau yn ddiweddar wedi dangos i ni na allwn ganiatáu i ni ein hunain fyth ddod yn hunanfodlon. Mae pobl o liw yn ein dinas sy'n wynebu hiliaeth fel nodwedd o'u bywydau bob dydd ac mae hynny'n gwbl annerbyniol. Sefydlwyd y Tasglu i gyflwyno argymhellion a fydd, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gyfleoedd bywyd a chyflogaeth ein cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Rydym am i bawb yn ein dinas deimlo'n ddiogel a chael yr un cyfleoedd i wneud bywyd gwell iddynt hwy eu hunain a'u teuluoedd waeth beth fo'u hil neu liw eu croen. Rwy'n credu bod y cynigion cychwynnol hyn, a dim ond y dechrau yw hyn, yn dechrau proses ymarferol a fydd yn helpu i sicrhau canlyniadau go iawn a chadarnhaol."

Dywedodd Cadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, y Cynghorydd Saeed Ebrahim: "Pan sefydlon ni'r Tasglu, gwnaethom yn glir ein bod am ddod o hyd i atebion ar gyfer y gwahaniaethu a'r anfanteision y mae cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd yn eu hwynebu. Anfanteision a amlygwyd yn drasig gan bandemig COVID. Yn dilyn ein trafodaethau cychwynnol, rydym wedi canolbwyntio ar geisio cyflwyno atebion ymarferol a all helpu pobl i mewn i waith a chynnig llwybr gyrfa iddynt unwaith y byddant yn sicrhau gwaith. Rydym hefyd wedi ystyried sut y gallwn wella bywydau pobl ifanc, gan sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel ac yn hyderus yn yr ysgol a bod ganddynt hyder i siarad am y problemau y maent yn eu hwynebu. Os ydym am newid sefyllfa cydraddoldeb hiliol, yna mae angen i bobl gael yr un cyfleoedd mewn bywyd, a bydd addysg a gwaith yn ddau faes allweddol lle gallwn helpu i wneud gwahaniaeth i bobl."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26745.html

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 09 Mehefin

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  521,757 (Dos 1: 346,913 Dos 2:  174,833)

 

  • 80 a throsodd: 20,980 / 94.4% (Dos 1) 20,038 / 90.1% (Dos 2)
  • 75-79: 15,093 / 96% (Dos 1) 14,589 / 92.7% (Dos 2)
  • 70-74: 21,460 / 95.4% (Dos 1) 21,062 / 93.6% (Dos 2)
  • 65-69: 21,822 / 93.6% (Dos 1) 20,774 / 89.1% (Dos 2)
  • 60-64: 25,866 / 91.6% (Dos 1) 24,620 / 87.2% (Dos 2)
  • 55-59: 29,101 / 89.4% (Dos 1) 16,271 / 50% (Dos 2)
  • 50-54: 28,590 / 86.7% (Dos 1) 13,092 / 39.7% (Dos 2)
  • 40-49: 53,612 / 79.4% (Dos 1) 18,747 / 27.8% (Dos 2)
  • 30-39: 56,356 / 71% (Dos 1) 13,024 / 16.4% (Dos 2)
  • 18-29: 70,162 / 69.4% (Dos 1) 12,214 / 12.1% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,977 / 98% (Dos 1) 1,917 / 95% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,273 / 93.2% (Dos 1) 10,643 / 88% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,441 / 88.3% (Dos 1) 35,009 / 68% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Gweddnewidiad Maelfa wedi'i gwblhau

Mae trawsnewidiad gwerth miliynau o bunnoedd i gyfleusterau siopa a chymunedol Llanedern wedi'i gwblhau.

Mae Cynllun Adfywio Maelfa wedi adfywio'r ardal leol ac wedi creu  canolfan siopa fodern, newydd, tai newydd fforddiadwy, gwell seilwaith ffyrdd a gwelliannau parcio a thir cyhoeddus. Cwblhawyd Cam 1 ddiwedd 2019 ac mae Cam 2 bellach wedi'i gwblhau hefyd.

Mae trawsnewidiad cynhwysfawr yr ardal wedi'i gyflawni gan y Cyngor a'i bartneriaid datblygu, Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, ac mae wedi cynnwys dymchwel yr hen ganolfan siopa a adeiladwyd yn y 1970au, ac nad oedd yn cael ei defnyddio'n llawn, a chodi 9 siop newydd, 40 o fflatiau ac 16 o dai tref. Mae pob un o'r naw siop bellach wedi'u meddiannu.

Yn ogystal â'r cynllun hwn, mae'r bloc uchel 10 llawr o fflatiau ym Maelfa hefyd wedi'i adnewyddu, gyda gwell mynediad i breswylwyr  i'r adeilad, ffenestri newydd a balconïau lliwgar. Mae'r gwaith brics allanol hefyd wedi ei glanhau i gyd-weddu â'r ailddatblygu cyfagos.

Mae gwaith adfywio yn dal i ddigwydd yn Llanedern gyda Hwb Iechyd a Lles partneriaeth newydd yn cael ei adeiladu a'i gysylltu â Hyb Cymunedol Powerhouse y Cyngor. Bydd cam cyntaf hyn wedi'i gwblhau fis nesaf, pan fydd Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd addas at y diben ar gyfer pobl ifanc yn cael ei agor.  Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys bloc cartrefi pobl hŷn newydd ar y safle y tu ôl i fflatiau Maelfa, hefyd ar y gweill.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: Mae'r Maelfa newydd yn edrych yn wych. Roedd yr hen ganolfan siopa wedi dod i bendraw ei oes, yn costio'n ddrud o ran ei chynnal ac nid oedd bellach yn addas at y diben, felly rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu creu cyfleuster mor arbennig."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26732.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (29 Mai - 04 Mehefin)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

08 Mehefin 2021, 09:00

 

Achosion: 43

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 11.7 (Cymru: 11.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,587

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 977.6

Cyfran bositif: 1.2% (Cymru: 1.2% cyfran bositif)