The essential journalist news source
Back
2.
June
2021.
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 02 Mehefin

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: canolfan brechu torfol y bae i barhau fel canolfan galw i mewn; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.

 

Canolfan Brechu Torfol y Bae i barhau fel canolfan galw i mewn

Yn dilyn llwyddiant y ganolfan galw i mewn ar gyfer brechlynnau dros y penwythnos, bydd Canolfan Brechu Torfol y Bae yn parhau i annog apwyntiadau galw i mewn ar gyfer dos cyntaf hyd at ddydd Sul 6 Mehefin.

O ganlyniad i'r treial pedwar diwrnod dros ŵyl y banc, daeth 2,150 o bobl i gael eu dos cyntaf o'r brechlyn COVID-19.

Caiff unrhyw un sy'n 18 oed ac yn hŷn ac sy'n byw ac yn gweithio yn ardal Caerdydd a Bro Morgannwg ei annog i fynd i Ganolfan Brechu Torfol y Bae, sydd yn hen adeilad Toys R Us, rhwng 8.30am - 7.30pm i gael ei ddos cyntaf o'r brechlyn COVID-19. Mae'r safle yn cynnig brechlynnau Pfizer ac Oxford AstraZeneca.

Gan fod pawb sy'n 18 oed ac yn hŷn wedi cael gwahoddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bellach, maent nawr yn gofyn i'r rhai sydd heb gael gwahoddiad i fynychu'r ganolfan.

Mae'r ganolfan galw i mewn hefyd yn rhoi cyfle i siarad â'r tîm brechu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch derbyn y brechlyn.

Bydd pobl sy'n aros am eu hail ddos o'r brechlyn yn derbyn apwyntiad awtomatig ar ffurf llythyr neu neges destun 11 wythnos ar ôl y cyntaf. Os na fydd pobl wedi derbyn gwahoddiad erbyn y dyddiad hwn, dylent ffonio ein llinell trefnu apwyntiadau ar 02921 841234.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 02 Mehefin

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  498,838  (Dos 1: 344,810 Dos 2:  154,011)

 

  • 80 a throsodd: 21,008 / 94.3% (Dos 1) 19,990 / 89.8% (Dos 2)
  • 75-79: 15,089 / 95.9% (Dos 1) 14,545 / 92.4% (Dos 2)
  • 70-74: 21,463 / 95.4% (Dos 1) 20,974 / 93.2% (Dos 2)
  • 65-69: 21,811 / 93.5% (Dos 1) 20,189 / 86.5% (Dos 2)
  • 60-64: 25,847 / 91.6% (Dos 1) 21,917 / 77.6% (Dos 2)
  • 55-59: 29,065 / 89.3% (Dos 1) 12,847 / 39.5% (Dos 2)
  • 50-54: 28,548 / 86.5% (Dos 1) 10,773 / 32.7% (Dos 2)
  • 40-49: 53,480 / 79.3% (Dos 1) 12,753 / 18.9% (Dos 2)
  • 30-39: 56,011 / 70.7% (Dos 1) 9,771 / 12.3% (Dos 2)
  • 18-29: 68,941 / 68.6% (Dos 1) 10,016 / 10% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,985 / 98% (Dos 1) 1,886 / 93.1% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,267 / 93.1% (Dos 1) 10,432 / 86.2% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,346 / 88.1% (Dos 1) 23,712 / 46.1% (Dos 2)

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (22 Mai - 28 Mai)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

01 Mehefin 2021, 09:00

 

Achosion: 34

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 9.3 (Cymru: 7.7 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 2,989

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 814.7

Cyfran bositif: 1.1% (Cymru: 0.9% cyfran bositif)