The essential journalist news source
Back
1.
June
2021.
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 01 Mehefin

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; dweud eich dweud ar ddyfodol Caerdydd; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 01 Mehefin

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  483,880  (Dos 1: 340,104 Dos 2:  143,758)

 

  • 80 a throsodd: 21,012 / 94.3% (Dos 1) 19,979 / 89.7% (Dos 2)
  • 75-79: 15,089 / 95.9% (Dos 1) 14,533 / 92.4% (Dos 2)
  • 70-74: 21,463 / 95.4% (Dos 1) 20,953 / 93.1% (Dos 2)
  • 65-69: 21,808 / 93.5% (Dos 1) 20,047 / 85.9% (Dos 2)
  • 60-64: 25,841 / 91.6% (Dos 1) 21,017 / 74.5% (Dos 2)
  • 55-59: 29,059 / 89.3% (Dos 1) 12,588 / 38.7% (Dos 2)
  • 50-54: 28,545 / 86.5% (Dos 1) 10,393 / 31.5% (Dos 2)
  • 40-49: 53,448 / 79.2% (Dos 1) 12,069 / 17.9% (Dos 2)
  • 30-39: 55,972 / 70.6% (Dos 1) 9,602 / 11.7% (Dos 2)
  • 18-29: 68,765 / 68.4% (Dos 1) 9,663 / 9.6% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,985 / 98% (Dos 1) 1,884 / 93% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,266 / 93.1% (Dos 1) 10,402 / 86% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,431 / 88.1% (Dos 1) 22,261 / 43.2% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Dweud eich dweud ar ddyfodol Caerdydd

Mae trigolion, pobl fusnes a rhanddeiliaid Caerdydd yn cael eu gwahodd i ymuno â sgwrs ac ymarfer ymgysylltu am ddyfodol eu dinas mewn byd ar ôl y pandemig.

Bydd strategaeth adfer ac adnewyddu'r ddinas - Gwyrddach, Tecach, Cryfach - yn cael ei lansio ddydd Iau, 3 Mehefin, rhwng 9.30am ac 11am, ac mae gwahoddiad agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol Caerdydd i ymuno.

Bydd arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, a Phennaeth Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, yr Athro Gill Bristow, yn ymuno ag arbenigwr blaenllaw o ran dinasoedd, Dr Tim Williams, wrth iddynt ddechrau ar gyfres o sgyrsiau a sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â'r heriau a'r cyfleoedd y mae Caerdydd yn eu hwynebu ar ôl y pandemig.

Bydd y 'sgwrs' gyntaf ar ffurf gweminar a gall unrhyw un sy'n dymuno ymuno wneud hynny drwy gofrestru i fod yn rhan ohoni  yma. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26689.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (21 Mai - 27 Mai)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

30 Mai 2021, 09:00

 

Achosion: 33

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 9.0 (Cymru: 8.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,099

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 844.6

Cyfran bositif: 1.1% (Cymru: 0.9% cyfran bositif)