The essential journalist news source
Back
28.
May
2021.
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 28 Mai

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Gaerdydd, sy'n cwmpasu:  cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a dweud eich dweud ar ddyfodol Caerdydd.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 28 Mai

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  483,720 (Dos 1: 340,028 Dos 2:  143,677)

 

  • 80 a throsodd: 21,035 / 94.3% (Dos 1) 19,970 / 89.5% (Dos 2)
  • 75-79: 15,090 / 95.9% (Dos 1) 14,518 / 92.3% (Dos 2)
  • 70-74: 21,460 / 95.4% (Dos 1) 20,890 / 92.8% (Dos 2)
  • 65-69: 21,779 / 93.4% (Dos 1) 20,890 / 85.4% (Dos 2)
  • 60-64: 25,825 / 91.5% (Dos 1) 19,125 / 67.8% (Dos 2)
  • 55-59: 29,036 / 89.2% (Dos 1) 12,108 / 37.2% (Dos 2)
  • 50-54: 28,516 / 86.4% (Dos 1) 8,715 / 26.4% (Dos 2)
  • 40-49: 53,324 / 79.1% (Dos 1) 10,561 / 15.7% (Dos 2)
  • 30-39: 55,509 / 70.2% (Dos 1) 9,248 / 11.7% (Dos 2)
  • 18-29: 65,309 / 65.5% (Dos 1) 9,112 / 9.1% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1.993 / 97.9% (Dos 1) 1,891 / 92.9% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,264 / 93.1% (Dos 1) 10,335 / 85.4% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,052 / 87.9% (Dos 1) 18,262 / 35.6% (Dos 2)

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (17 Mai - 23 Mai)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

27 Mai 2021, 09:00

 

Achosion: 33

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 9.0 (Cymru: 8.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,287

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 895.9

Cyfran bositif: 1.0% (Cymru: 1.0% cyfran bositif)

 

Dweud eich dweud ar ddyfodol Caerdydd

Rydym yn gofyn i drigolion Caerdydd ymuno ag ymgynghoriad mawr a fydd yn helpu i lunio dyfodol eu dinas dros y pymtheg mlynedd nesaf.

Yn lansio ddydd Gwener, 28 Mai, gofynnir i drigolion roi eu barn ar sut y dylai Caerdydd dyfu a datblygu er mwyn cwrdd â'r galw ar draws y pedwar prif maes canlynol:

  • Bodloni anghenion am gartrefi, swyddi a seilwaith yn y dyfodol;
  • Creu dinas iach a chynaliadwy sy'n ymateb i'r argyfwng hinsawdd, yn hyrwyddo cerdded a beicio, ac yn gwella lles trigolion;
  • Cefnogi canol y ddinas a Bae Caerdydd i sbarduno adferiad ôl-COVID;
  • Diogelu a gwella parciau, mannau agored, llwybrau afonydd, bioamrywiaeth ac asedau hanesyddol a diwylliannol Caerdydd.

 

Mae gwybodaeth ar yr ymgynghoriad - o'r enw ‘Llunio dyfodol Caerdydd' - ar gael yma  www.cdllcaerdydd.co.uk.  Gall trigolion fydd yn dilyn y ddolen ymweld ag arddangosfeydd rhithiwr a chymryd rhan mewn arolwg ar-lein ar y cynigion ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd Caerdydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae Caerdydd yn ddinas fywiog a chyffrous sy'n tyfu a welodd rai newidiadau anhygoel dros y 25 mlynedd diwethaf wrthi iddi ddod yn brifddinas ffyniannus Ewropeaidd. Nawr, wrth wynebu dwy her yr Argyfwng Hinsawdd a'r adferiad ôl-bandemig, rydym ar drobwynt yn natblygiad ein dinas. Bydd y penderfyniadau a wnawn nawr yn llunio'r ddinas fydd gennym ni."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26672.html