The essential journalist news source
Back
25.
May
2021.
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 25 Mai

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a Pad Sblasio Parc Fictoria i ailagor gyda mesurau diogelu rhag Covid ar waith.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 25 Mai

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  473,111 (Dos 1: 335,559 Dos 2:  137,534)

 

  • 80 a throsodd: 21,039 / 94.3% (Dos 1) 19,924 / 89.3% (Dos 2)
  • 75-79: 15,094 / 95.9% (Dos 1) 14,481 / 92% (Dos 2)
  • 70-74: 21,455 / 95.3% (Dos 1) 20,835 / 92.6% (Dos 2)
  • 65-69: 21,788 / 93.4% (Dos 1) 18,682 / 80.1% (Dos 2)
  • 60-64: 25,804 / 91.5% (Dos 1) 18,431 / 65.3% (Dos 2)
  • 55-59: 29,013 / 89.2% (Dos 1) 11,162 / 34.3% (Dos 2)
  • 50-54: 28,491 / 86.4% (Dos 1) 6,529 / 19.8% (Dos 2)
  • 40-49: 53,206 / 78.9% (Dos 1) 9,970 / 14.8% (Dos 2)
  • 30-39: 55,109 / 69.8% (Dos 1) 8,930 / 11.3% (Dos 2)
  • 18-29: 61,646 / 62.1% (Dos 1) 8,832 / 8.9% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,994 / 97.9% (Dos 1) 1,891 / 92.8% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,256 / 92.9% (Dos 1) 10,247 / 84.6% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 44,794 / 87.7% (Dos 1) 14,498 / 28.4% (Dos 2)

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (14 Mai - 20 Mai)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

24 Mai 2021, 09:00

 

Achosion: 35

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 9.5 (Cymru: 8.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,286

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 895.6

Cyfran bositif: 1.1% (Cymru: 1.0% cyfran bositif)

 

Pad Sblasio Parc Fictoria i ailagor gyda mesurau diogelu rhag Covid ar waith

Bydd y pad sblasio ym Mharc Fictoria yn ailagor ddydd Gwener 28 Mai gyda mesurau newydd ar waith i sicrhau bod teuluoedd yn gallu dychwelyd yn ddiogel.

Mewn newid i flynyddoedd blaenorol, bydd system giwio gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith, a bydd nifer y plant sy'n cael defnyddio'r cyfleuster yn cael eu cyfyngu i uchafswm o 50 ar unrhyw un adeg.

Yn ystod oriau brig a phrysur, bydd slotiau amser pum munud ar hugain ar waith.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r pandemig wedi bod yn anodd i bob un ohonom ond yn enwedig i blant. Rhaid cyfaddef, maen nhw'n haeddu ychydig o hwyl. Gobeithio y bydd y newyddion bod y pad sblasio yn ailagor yn rhoi cychwyn ar haf hir llawn gwenau."

Cafodd yr atyniad poblogaidd, sy'n cynnwys amrywiaeth o jetiau a chwistrellau yn ogystal â thwnnel a bwced dŵr dymchwel, ei gau trwy gydol yr haf diwethaf o ganlyniad i bandemig Covid-19.

Mae'r pad sblasio ar agor o 10am tan 7pm ar y penwythnos, o 12pm tan 7pm ar ddyddiau'r wythnos waith yn ystod y tymor ac o 10am tan 7pm ar ddyddiau'r wythnos waith yn ystod gwyliau'r ysgol.

Caiff y mesurau diogelwch eu hadolygu'n barhaus i ymgorffori unrhyw newidiadau i reolau sy'n ymwneud â Covid-19. Cynghorir ymwelwyr i wirio  www.caerdyddawyragored.com  cyn ymweld er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.