The essential journalist news source
Back
19.
May
2021.
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 19 Mai

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; Dillad Denim ar gyfer Dementia; a disgyblion Ysgol Gynradd Mount Stuart yn plannu 1,000 o goed ar gyfer Caerdydd Un Blaned.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 19 Mai

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  450,631 (Dos 1: 323,195 Dos 2:  127,418)

 

  • 80 a throsodd: 21,065 / 94.3% (Dos 1) 19,809 / 88.7% (Dos 2)
  • 75-79: 15,093 / 95.8% (Dos 1) 14,368 / 91.2% (Dos 2)
  • 70-74: 21,455 / 95.3% (Dos 1) 20,756 / 92.2% (Dos 2)
  • 65-69: 21,772 / 93.3% (Dos 1) 17,240 / 73.9% (Dos 2)
  • 60-64: 25,773 / 91.4% (Dos 1) 17,021 / 60.3% (Dos 2)
  • 55-59: 28,988 / 89.1% (Dos 1) 6,723 / 20.7% (Dos 2)
  • 50-54: 28,451 / 86.3% (Dos 1) 5,924 / 18% (Dos 2)
  • 40-49: 52,935 / 78.5% (Dos 1) 9,686 / 14.4% (Dos 2)
  • 30-39: 52,886 / 67.1% (Dos 1) 8,703 / 11% (Dos 2)
  • 18-29: 54,143/ 54.9% (Dos 1) 8,603 / 8.7% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,003 / 97.9% (Dos 1) 1,894 / 92.5% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,240 / 92.7% (Dos 1) 10,124 / 83.5% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 44,399 / 87.4% (Dos 1) 8,464 / 16.7% (Dos 2)

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (08 Mai - 14 Mai)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

18 Mai 2021, 09:00

 

Achosion: 66

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 18.0 (Cymru: 9.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,150

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,131.1

Cyfran bositif: 1.6% (Cymru: 1.0% cyfran bositif)

 

Dillad Denim ar gyfer Dementia

Mae Arglwydd Faer Caerdydd yn cefnogi Wythnos Gweithredu Dementia eleni drwy wisgo'i jîns, i helpu i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer ei elusen ddewisol.

Mae'r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Rod McKerlich, yn cefnogi Cymdeithas Alzheimer Cymru yn ystod ei gyfnod yn y swydd ac mae'n annog pobl i dynnu allan eu dyngarîs, siacedi denim, crysau neu hoff jîns i'w gwisgo ar gyfer yr ymgyrch 'Dillad Denim ar gyfer Dementia' yn ystod Wythnos Gweithredu Dementia (Mai 17 - 23).

Mae Wythnos Gweithredu Dementia yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o ddementia, yr heriau y mae pobl sy'n byw gyda'r clefyd a'u teuluoedd yn eu cael, yn ogystal â'r cyfoeth o waith cadarnhaol sy'n mynd rhagddo a'r gwasanaethau sydd ar gael i alluogi pobl sydd â dementia i fyw'n dda.

Dywedodd yr Arglwydd Faer: "Mae rhai o'r heriau a'r problemau y mae pobl sy'n byw gyda phrofiad o ddementia wedi dod i'r amlwg yn fwy yn ystod y pandemig, sydd wedi effeithio cymaint ar y boblogaeth oedrannus. Rwy'n gobeithio bod yr Wythnos Gweithredu Dementia hon yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o'r materion hyn a hefyd codi arian y mae mawr ei angen fel y gall sefydliadau fel y Gymdeithas Alzheimer barhau â'u gwaith gwych yn cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia, a'u teuluoedd."

Gall unrhyw un sy'n dymuno cefnogi elusen yr Arglwydd Faer gyfrannu yma:

Dillad Denim ar gyfer Dementia! (alzheimers.org.uk)

Nodwch eich rhodd fel 'Elusen y Flwyddyn Arglwydd Faer Caerdydd'.

Dywedodd Jess Bowring, Rheolwr Codi Arian Cymdeithas Alzheimer: "I bawb sy'n cymryd rhan yn ymgyrch Dillad Denim ar gyfer Dementia, diolch yn fawr! Heb gymorth gan bobl fel chi, fydden ni ddim yn gallu darparu gwasanaethau hanfodol nac ariannu ein hymchwil dementia arloesol. Rydych yn helpu i gefnogi pobl y mae dementia yn effeithio arnynt ar hyn o bryd wrth ariannu ymchwil i wella'r dyfodol. Os hoffech chi gael gwybodaeth am sut i ddod o hyd i gymorth neu sut i wirfoddoli, gallwch ffonio 07545 094 689 neu e-bostio Jess.Bowring@alzheimers.org.uk."

Mae'r genhedlaeth iau yn gweithredu'r wythnos hon gyda chynllun ffrind drwy'r post newydd sy'n cael ei dreialu yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff ac Ysgol Gynradd Millbank. Mae'r disgyblion yn mynd ati i ddrafftio llythyron at breswylwyr yng Nghanolfan Gofal yr Efail a Chartref Gofal Llys Trelái i rannu eu profiadau a darganfod mwy am eu ffrind drwy'r post newydd.

Mae hefyd gyfoeth o weithgareddau a digwyddiadau sy'n ystyriol o ddementia'n cael eu cynnal yr Wythnos Gweithredu Dementia hon, a phob wythnos yng Nghaerdydd wrth i'r Cyngor a'i bartneriaid geisio gwneud y ddinas yn gymuned sy'n fwy ystyriol o ddementia.

Gan weithio gyda Chymdeithas Alzheimer Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod Caerdydd yn fan lle mae pobl sy'n byw gyda'r clefyd a'u teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i fyw'n dda.

Mae gwybodaeth am lu o sesiynau cymdeithasol a lles ar-lein i'w gweld ar wefan Caerdydd Deall Dementia yn https://caerdydddealldementia.co.uk/  sydd hefyd yn rhoi manylion am wasanaethau ac adnoddau defnyddiol i gefnogi unigolion a theuluoedd, gan gynnwys adnoddau Darllen yn Dda ar gyfer Dementia.

Mae'r cynllun Llyfrau ar Bresgripsiwn yn darparu deunydd darllen defnyddiol i bobl sy'n cael profiad o ddementia, gan gynnwys llyfrau a ddewisir gan weithwyr iechyd proffesiynol a phobl sydd â phrofiad byw o'r cyflwr. Mae pob hyb a llyfrgell ar draws y ddinas yn stocio'r rhestr ddarllen - ewch i dudalen llyfrgelloedd Caerdydd  i gael gwybodaeth am adnoddau digidol, gwasanaethau clicio a chasglu llyfrau neu sut i archebu slot er mwyn pori drwy'r silffoedd yn eich hyb neu lyfrgell leol.

I gael rhagor o wybodaeth am Gaerdydd sy'n Deall Dementia, ewch i:

https://caerdydddealldementia.co.uk/

 

Disgyblion Ysgol Gynradd Mount Stuart yn plannu 1,000 o goed ar gyfer Caerdydd Un Blaned

Mae disgyblion Ysgol Gynradd Mount Stuart yn chwarae eu rhan yn siwrnai Caerdydd tuag at ddod yn garbon niwtral erbyn 2030 drwy helpu i blannu 1,000 o goed yn yr ysgol.

Rhoddwyd y coed ifanc i'r ysgol i nodi lansiad ymateb Caerdydd Un Blaned y Cyngor i'r argyfwng hinsawdd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Bydd y camau rydyn ni i gyd yn eu cymryd nawr yn effeithio'n sylweddol ar genedlaethau'r dyfodol felly mae'n wych gweld disgyblion Mount Stuart yn cymryd rhan ac yn helpu i wthio Caerdydd yn nes at ein nod o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030."

Dywedodd Helen Borley, Pennaeth Ysgol Gynradd Mount Stuart: "Y bwriad yw i bob plentyn yn yr ysgol blannu coeden. Yna bydd pob plentyn yn clymu rhuban o amgylch y goeden gyda'i enw arno neu er cof am aelod o'i deulu. Wrth i ni adfer o'r pandemig mae'r plant wedi dod yn llawer mwy ymwybodol a gwerthfawrogol o'r awyr agored ac mae plannu'r swm hwn o goed yn gydnabyddiaeth fach o hyn."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26570.html